Bydd cynghorau Cymru yn elwa o £50 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol y flwyddyn ariannol hon, gan eu helpu i reoli costau cynyddol a buddsoddi mewn gwasanaethau lleol hanfodol.
Gall y cyllid, sy'n cael ei ddosbarthu i bob un o'r 22 awdurdod lleol gan ddefnyddio'r fformiwla gyfalaf gyffredinol, gefnogi ystod eang o flaenoriaethau, o drwsio tyllau yn y ffordd ac atgyweirio priffyrdd i gefnogi ysgolion cymunedol a chynlluniau amddiffyn rhag llifogydd.
Gall cynghorau ddefnyddio'r arian i ailgyflenwi cronfeydd wrth gefn a ddefnyddiwyd yn ystod y flwyddyn neu leihau costau benthyca, gan leddfu'r pwysau ar gyllidebau yn y dyfodol.
Dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan:
Mae awdurdodau lleol yn darparu gwasanaethau allweddol, felly rwy’n hynod falch fod Llywodraeth Cymru yn gallu darparu cyllid ychwanegol eleni er mwyn helpu ein cynghorau i fuddsoddi mewn seilwaith hanfodol, fel ffyrdd, ysgolion ac amddiffynfeydd rhag llifogydd, y bydd cymunedau ledled Cymru’n elwa ohonynt.
Dywedodd Jayne Bryant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai:
Mae'r cyllid hwn yn rhoi'r seibiant sydd ei angen arnynt i gynghorau ar adeg heriol yn y flwyddyn ariannol. P'un a yw hynny'n golygu ailgyflenwi'r cyllid a ddefnyddir i drwsio ffyrdd ar ôl gaeaf anodd, cadw rhaglenni cyfalaf ar y trywydd iawn, neu leihau costau benthyca bydd yr arian hwn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau ledled Cymru."
Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt, Llefarydd CLlLC dros Gyllid:
Bydd cynghorau yn croesawu’r buddsoddiad ychwanegol hwn. Mae’n darparu hyblygrwydd ar adeg allweddol yn ystod y flwyddyn ariannol. Bydd y cyllid hwn o gymorth i awdurdodau lleol reoli costau sy’n cynyddu, parhau i fuddsoddi mewn seilwaith hanfodol, a pharhau i gyflawni gwelliannau mewn cymunedau, o atgyweirio ffyrdd, i ysgolion ac amddiffynfeydd rhag llifogydd.
Bydd yn gwneud gwir wahaniaeth ymarferol awr lawr gwlad, ac yn cefnogi cynghorau i ymateb i flaenoriaethau lleol a sicrhau bod prosiectau allweddol yn parhau i ddatblygu.
