Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwyf wedi gosod Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Anheddau Trethadwy ac Atebolrwydd Perchnogion) (Diwygio) (Cymru) 2026 gerbron y Senedd.

Daw'r Rheoliadau hyn yn dilyn ein hymgynghoriad yn 2024 ar gynigion i newid sut y caiff tai amlfeddiannaeth eu prisio a'u bandio ar gyfer y dreth gyngor, ac i gadarnhau bod y perchennog yn parhau i fod yn atebol yn hytrach na'r meddianwyr. Roedd y crynodeb o'r ymatebion, a gyhoeddwyd ym mis Awst 2025, yn cefnogi adfer y sefyllfa hirsefydlog, sef y dylid prisio tai amlfeddiannaeth yn gyffredinol fel eiddo unigol, gan sicrhau cysondeb rhwng Cymru a Lloegr.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae rhai tai amlfeddiannaeth wedi cael eu prisio ar sail wedi'u dadgyfuno, gyda phob uned wedi'i bandio ar wahân a meddianwyr yn cael eu bilio'n unigol. Mae hyn wedi creu anghysondeb a chymhlethdod gweinyddol. Bydd y Rheoliadau yn sicrhau bod tai amlfeddiannaeth yn cael eu prisio fel eiddo unigol, pan fo hynny'n briodol, gan ddarparu eglurder i gynghorau, landlordiaid ac aelwydydd, a sicrhau bod y perchennog yn parhau i fod yn atebol. 

Bydd y Rheoliadau, a fydd yn gymwys i dai amlfeddiannaeth trwyddedig a didrwydded, yn dod i rym ar 3 Mehefin 2026. Ni fyddant yn cael eu rhoi ar waith yn ôl-weithredol. Caniateir i berchnogion tai amlfeddiannaeth a aseswyd yn flaenorol ar sail wedi'u dadgyfuno wneud cynnig i Asiantaeth y Swyddfa Brisio i ddiwygio'r rhestr brisio.