Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw rwy'n falch o lansio Cynllun Partneriaeth diogelwch ar y Ffyrdd i Gymru. Mae'r cynllun hwn yn nodi strwythur llywodraethu cadarn, nodau a blaenoriaethau clir ar gyfer lleihau niwed sy'n gysylltiedig â'r ffyrdd, a phrif darged i leihau'n sylweddol nifer y bobl sy'n cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ar ein ffyrdd erbyn 2040. Dylai Llywodraeth Cymru ynghyd â'i phartneriaid ddilyn cynllun cyflawni manwl, sy'n amlinellu camau gweithredu pendant a dangosyddion perfformiad diogelwch i lywio hynt ein gwaith.

Mae diogelwch ar y ffyrdd yn flaenoriaeth drawsbynciol ac yn agwedd allweddol ar ein strategaeth drafnidiaeth. Mae'n hanfodol ar gyfer creu system drafnidiaeth effeithlon, effeithiol, deg a chynhwysol, un sy'n galluogi pawb yng Nghymru i gael mynediad at gyflogaeth, gwasanaethau ac addysg, yn cefnogi cymunedau ffyniannus, ac yn ysgogi twf economaidd. 

Mae ein dull o fynd i'r afael â diogelwch ar y ffyrdd yn seiliedig ar yr egwyddor na ddylai ein bywyd a'n hiechyd gael eu peryglu gan ein hangen i deithio. I gyflawni hyn, byddwn yn defnyddio'r dull System Ddiogel i leihau'r risg ac yn gweithio tuag at Weledigaeth Sero, lle nad oes unrhyw farwolaethau nac unrhyw anafiadau difrifol ar ein ffyrdd. 

Rwy'n ymrwymedig i alinio ac integreiddio diogelwch ar y ffyrdd â pholisi trafnidiaeth ehangach, ac i weithio ar y cyd ar draws iechyd ac iechyd y cyhoedd, iechyd a diogelwch galwedigaethol, yr amgylchedd a datgarboneiddio, addysg a chyfiawnder cymdeithasol. Trwy sicrhau bod y manteision mwyaf posibl yn deillio o waith partneriaeth, gallwn gyflawni ffyrdd mwy diogel i bawb yng Nghymru. 

Rwyf hefyd yn croesawu'r ffaith bod yr Adran Drafnidiaeth wedi cyhoeddi'n ddiweddar Strategaeth Diogelwch ar y Ffyrdd. Mae'r aliniad rhwng y strategaeth hon yn y DU a'n Cynllun Partneriaeth ein hunain -y ddau yn seiliedig ar y dull System Ddiogel ac ymrwymiad i Weledigaeth Sero -yn creu sylfaen gadarn ar gyfer cydweithio.

Gyda'n gilydd, rydym yn gwahodd yr holl bartneriaid, rhanddeiliaid a chymunedau i ymuno â ni yn y genhadaeth hanfodol hon.