Neidio i'r prif gynnwy

Eitem 1 ar yr agenda: croeso/sylwadau agoriadol

  1. Croesawodd y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol fynychwyr i ddegfed cyfarfod y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol. Croesawodd y Gweinidog Aled Edwards i'w gyfarfod cyntaf, gan esbonio y byddai'n cynrychioli'r Fforwm Arweinwyr Cyhoeddus ar ôl diwedd cyfnod y Fonesig Elan Closs-Stephens. Cadarnhaodd fod aelodau wedi derbyn yr agenda a oedd yn cynnwys nifer o ddiweddariadau uniongyrchol gan is-grwpiau'r Cyngor. Dywedodd y Gweinidog nad oedd unrhyw gyfarfodydd pellach o’r Cyngor wedi'u trefnu oherwydd etholiadau'r Senedd sydd ar ddod ond y byddai'r Ysgrifenyddiaeth yn hysbysu'r aelodau am ddyddiadau cyfarfodydd yn y dyfodol ar ôl iddynt gael eu cadarnhau.

Eitem 2 ar yr agenda: rhagolwg sgiliau

  1. Amlinellodd y Gweinidog yr heriau a'r cyfleoedd presennol sy'n wynebu'r system sgiliau yng Nghymru a chadarnhaodd fod mwy na 200,000 o brentisiaethau newydd wedi'u creu dros y degawd diwethaf. Dywedodd fod cyllid prentisiaethau wedi cynyddu er gwaethaf colli cymorth yr UE yn ystod tymor y Senedd bresennol a bod y ddarpariaeth o dan y Rhaglen Sgiliau Hyblyg (FSP) wedi treblu i £7.5 miliwn, gan fod o fudd i fusnesau ac unigolion.  
     
  2. Cadarnhaodd y Gweinidog fod Arolwg Sgiliau Cyflogwyr y DU 2024 yn dangos bod bylchau sgiliau wedi gostwng i'w lefel isaf (yn hanes yr arolwg) ar gyfer Cymru a'r DU gyfan. Ychwanegodd fod heriau recriwtio a phrinder sgiliau yn lleihau ond bod buddsoddiad cyflogwyr mewn hyfforddiant, gan gynnwys prentisiaethau, yn parhau i ostwng yn sylweddol. Cadarnhaodd y Gweinidog y byddai swyddogion yn rhannu dolen i'r Arolwg Sgiliau gyda'r aelodau ar ôl iddo gael ei gyhoeddi ar 26 Chwefror a hefyd yn eu diweddaru am ganlyniad Archwiliad Sgiliau Cenedlaethol Cymru sy'n dechrau ym mis Mawrth.
     
  3. Gwahoddodd y Gweinidog farn aelodau ar ganlyniadau'r Arolwg, gan gynnwys eu barn ynghylch pam roedd buddsoddiad cyflogwyr mewn hyfforddiant yn gostwng a pham roedd llai o gyflogwyr eisiau cynnig prentisiaethau. Gwahoddodd sylwadau hefyd ynghylch a ddylai Cymru fod yn datblygu model tebyg i'r gwasanaeth sgiliau buddsoddi a seilwaith mawr newydd sy'n cael ei greu yn Lloegr.
     
  4. Pwysleisiodd Pippa Britton (y Sector Gwirfoddol) bwysigrwydd cofnodi'r ystod o sgiliau o fewn y sector gwirfoddol yn yr Archwiliad Sgiliau. 
     
  5. Dywedodd Shavanah Taj (TUC Cymru) fod buddsoddiad cyflogwyr mewn hyfforddiant yn gostwng ar adeg pan amcangyfrifwyd y byddai angen rhyw fath o uwchsgilio ar 60% o'r gweithlu dros y 12 mis nesaf. Pwysleisiodd Shavanah ei bod hi’n bwysig bod llais gweithwyr yn ganolog i arolygon yn y dyfodol a'r posibilrwydd o ddatblygu pasbort sgiliau i greu economi fwy bywiog. Awgrymodd fod angen mireinio'r diffiniad o ddeallusrwydd artiffisial yn y papur gan ei fod yn rhy eang ac y dylid canolbwyntio mwy ar y ffyrdd y gallai digideiddio ac awtomeiddio gefnogi datblygu sgiliau. 
     
  6. Croesawodd Joshua Miles (Busnes) yr Archwiliad Sgiliau gan bwysleisio ei werth i lunio polisïau yn y dyfodol a thynnodd sylw at y dosbarthiad anwastad o sgiliau ledled Cymru. Pwysleisiodd Joshua, er bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi symiau sylweddol o arian mewn hyfforddiant staff yn y sector cyhoeddus, fod y sector preifat wedi buddsoddi mwy i'w weithwyr yn gyson ond ei bod yn bwysig cael dealltwriaeth well o sut roedd yr arian hwn yn cael ei wario yn y ddau sector. Awgrymodd fod angen dadansoddiad dyfnach sy'n cydnabod nad ansawdd yr hyfforddiant yn unig sy’n bwysig, ond ei faint hefyd, ac sy'n cyfeirio at y gwahanol ffyrdd y mae hyfforddiant bellach yn cael ei ddarparu gyda newid sylweddol i ddysgu ar-lein. Pwysleisiodd Joshua hefyd bwysigrwydd ystyried anghenion hyfforddi gweithwyr presennol, yn ogystal â newydd-ddyfodiaid.
     
  7. Amlinellodd Russell Greenslade (Busnes) y gwahanol gostau sy'n wynebu busnesau a oedd yn eu hatal rhag buddsoddi mewn hyfforddiant. Dywedodd Russell fod busnesau'n aros am ganlyniad Datganiad y Gwanwyn i ddeall yn well unrhyw oblygiadau iddynt, gan ddweud y byddai hyn yn dylanwadu ar lefelau buddsoddiad mewn hyfforddiant. Esboniodd ei fod hefyd mewn trafodaethau gyda Skills England ynglŷn â safbwynt ehangach y DU ar fuddsoddiad busnes mewn sgiliau ac y byddai'n rhoi adborth i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol maes o law. 
     
  8. Cefnogodd Helen Whyley (y Coleg Nyrsio Brenhinol) alwadau am well dealltwriaeth o sut i flaenoriaethu darpariaeth sgiliau ar gyfer gweithwyr presennol a newydd-ddyfodiaid fel bod y ddau yn cael eu cefnogi. Cododd Helen hefyd bwysigrwydd dysgu gydol oes sy'n galluogi pobl i gyrraedd eu llawn botensial yn y gwaith ac yn eu bywydau preifat, gan gysylltu â hunaniaeth ddiwylliannol Cymru fel gwlad sy'n gwerthfawrogi addysg. 
     
  9. Croesawodd y Cynghorydd Anthony Hunt (Llywodraeth Leol) y cynnydd mewn prentisiaethau yn ystod tymor y Senedd bresennol a phwysleisiodd eu gwerth i'r prentisiaid eu hunain a busnesau. Pwysleisiodd y Cynghorydd Hunt bwysigrwydd creu cynllun prentisiaeth ar gyfer y sector cyhoeddus lle gallai prentisiaid ddatblygu profiad ar draws gwahanol sefydliadau i ddatblygu dealltwriaeth gyfannol o wasanaethau cyhoeddus. 
     
  10. Cadarnhaodd y Gweinidog ei fod wedi siarad yn ddiweddar yn y Bwrdd Gweinidogol ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol lle roedd wedi pwysleisio pwysigrwydd buddsoddi mewn sgiliau i'r economi, yn ogystal ag uchelgeisiau cymdeithasol ehangach y llywodraeth. Cydnabu’r pwysau yr oedd busnesau'n eu hwynebu ac esboniodd fod Llywodraeth Cymru yn cynnig mwy o hyblygrwydd yn ei chymorth ariannol i annog lefelau uwch o hyfforddiant. Cydnabu'r Gweinidog bwysigrwydd cofnodi'r ystod o sgiliau yn y sector gwirfoddol yn yr Archwiliad Sgiliau a chyfeiriodd at y gwaith sy'n cael ei wneud gan Grŵp Cyflawni Deallusrwydd Artiffisial y Cyngor i ddefnyddio cyllid gan Raglen Sgiliau Hyblyg Llywodraeth Cymru i gefnogi uwchsgilio deallusrwydd artiffisial BBaChau. 
     
  11. Esboniodd y Gweinidog y byddai gwaith ymgysylltu yn digwydd ochr yn ochr ag elfennau ymchwil yr Archwiliad Sgiliau ac y byddai partneriaid cymdeithasol yn cael y cyfle i fod yn rhan o hynny. Dywedodd y byddai swyddogion hefyd yn trefnu sesiwn wedi'i theilwra ar gyfer aelodau’r Cyngor ac yn parhau i'w hysbysu am gynnydd yr Archwiliad yn y dyfodol. Croesawodd y cynnig o adborth gan Russell Greenslade ar ei drafodaethau gyda Skills England a chefnogodd gyngor Joshua Miles i ddatblygu dadansoddiad dyfnach o'r ddarpariaeth hyfforddiant. 

Cam gweithredu: Swyddogion Llywodraeth Cymru i rannu dolen i Archwiliad Sgiliau Cenedlaethol Cymru gydag aelodau’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol ar ôl iddo gael ei gyhoeddi ar 26 Chwefror. 

Cam gweithredu: Swyddogion Llywodraeth Cymru i drefnu sesiwn wedi'i theilwra ar Archwiliad Sgiliau Cenedlaethol Cymru ar gyfer aelodau’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol. 

Eitem 3 ar yr agenda: canfyddiadau cyfredol o'r Adroddiadau Partneriaeth Gymdeithasol a gyhoeddwyd

  1. Cadarnhaodd y Gweinidog ei fod wedi ysgrifennu at gyrff cyhoeddus ym mis Rhagfyr yn gofyn iddynt gyhoeddi eu hadroddiadau Partneriaeth Gymdeithasol erbyn diwedd mis Ionawr. Dywedodd, er bod nifer o adroddiadau wedi dod i law ers hynny, mai dim ond 69% o’r rheini a gyhoeddwyd. Dywedodd y Gweinidog nad oedd dyddiad cau penodol ar gyfer darparu'r adroddiadau yn y ddeddfwriaeth, ac felly ei bod yn anodd rhagweld pryd y byddai'r dadansoddiad terfynol yn cael ei ddarparu i'r aelodau. Dywedodd y byddai'r Ysgrifenyddiaeth yn parhau i ddosbarthu’r adroddiadau wrth iddynt gael eu cyhoeddi a dywedodd nad oedd y papur yn enwi cyrff cyhoeddus gan na fyddai hyn yn briodol i Bartneriaeth Gymdeithasol. 
     
  2. Cafodd Jessica Turner (Unsain) ei chalonogi gan y cynnydd mewn adroddiadau a gyhoeddwyd ond dywedodd fod lle clir i wella. Awgrymodd Jessica y dylid archwilio'r posibilrwydd o ganllawiau i gyrff cyhoeddus sy'n nodi'r disgwyliadau a roddwyd arnynt i helpu i gyrraedd cyfradd gyhoeddi o 100%. Soniodd fod yr adroddiadau yn cynnig offeryn pwerus ar gyfer deall lefelau ymgysylltu a dyna pam ei bod yn bwysig i bob adroddiad gael ei gyhoeddi.
     
  3. Roedd y Gweinidog yn rhannu'r un uchelgais i weld 100% o'r adroddiadau yn cael eu cyhoeddi. Dywedodd fod Partneriaeth Gymdeithasol yn daith ac mai hon oedd y flwyddyn gyntaf o adrodd ond ei fod yn awyddus i sicrhau bod gwelliant yn y dyfodol. Dywedodd y Gweinidog y byddai'n ysgrifennu mewn termau cryfach at y cyrff cyhoeddus hynny sydd heb gyhoeddi eu hadroddiadau eto ac yn rhannu'r wybodaeth â chydweithwyr yn y Cabinet i weld a allent gynnig unrhyw gyngor a fyddai'n annog cyfradd ymateb uwch gan gyrff yn eu portffolios. 

Cam Gweithredu: Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol i ysgrifennu llythyr pellach at y cyrff cyhoeddus hynny nad oeddent wedi cyflwyno eu hadroddiadau Partneriaeth Gymdeithasol ar gyfer 2024-25 eto a chodi’r mater o beidio â chyflwyno adroddiadau gyda chydweithwyr yn y Cabinet. 

Eitem 4 ar yr agenda: diweddariad ar y Gweithgor ar Waith Teg mewn Grantiau Busnes

  1. Esboniodd y Gweinidog fod yr eitem hon yn gofyn i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol gytuno ar adroddiad ei Weithgor ar Waith Teg mewn Grantiau Busnes. Dywedodd fod y Grŵp wedi'i gynnull yn dilyn eitem a gyflwynwyd gan yr undebau llafur yn 2024 ar sut y gellid defnyddio cyllid grant Llywodraeth Cymru i hyrwyddo amodau gwaith teg. Dywedodd y Gweinidog, pe bai'r aelodau'n cytuno ar yr adroddiad, y byddai'r Ysgrifenyddiaeth yn trefnu i'w gyflwyno'n ffurfiol i Weinidogion Cymru fel cyngor. Gwahoddodd Shavannah Taj i gyflwyno'r adroddiad fel Cadeirydd y Gweithgor.
     
  2. Esboniodd Shavannah Taj fod y Grŵp wedi cytuno ar 7 argymhelliad yn ei adroddiad fel man cychwyn ar gyfer cyngor i Weinidogion. Dywedodd Shavannah fod yr argymhellion yn cynnwys disgwyliadau ynghylch gwaith teg fel rhan o amodoldeb grant ond hefyd yn cyfeirio at rai o gyfyngiadau'r dull hwn. Esboniodd fod yr adroddiad yn crynhoi pwyntiau trafod allweddol fel y byddai Gweinidogion yn ymwybodol o wahanol safbwyntiau aelodau ond bod y Gweithgor wedi dangos sut y gallai Partneriaeth Gymdeithasol weithredu yn ymarferol. Cydnabu Shavannah werth derbyn cyngor gan y Tîm Gwerthuso Contractau Economaidd a Llywodraeth yr Alban ar eu polisi Gwaith Teg yn Gyntaf a gofynnodd i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol a oedd yn fodlon cytuno ar yr adroddiad.
     
  3. Cefnogodd Joshua Miles yr adroddiad a diolchodd i Shavannah am weithredu fel cyd-gadeirydd y Gweithgor yn dilyn ymadawiad ei ragflaenydd Ben Cottam.
     
  4. Nododd y Gweinidog gymeradwyaeth y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol i'r adroddiad, diolchodd i bawb sy'n rhan o'r Gweithgor a chadarnhaodd y byddai Ysgrifenyddiaeth y Cyngor yn cyflwyno'r adroddiad yn ffurfiol fel cyngor i Weinidogion.

Cam gweithredu: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol i gyflwyno adroddiad terfynol Gweithgor y Cyngor ar Waith Teg mewn Grantiau Busnes i'r Gweinidogion.  

Eitem 5 ar yr agenda: diweddariad gan y Grŵp Cyflawni Deallusrwydd Artiffisial

  1. Cadarnhaodd y Gweinidog fod Gweithgor Deallusrwydd Artiffisial y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol wedi cyfarfod ddwywaith i drafod blaenoriaethau uniongyrchol wrth gefnogi uwchsgilio deallusrwydd artiffisial a'i raglen waith uniongyrchol. Esboniodd fod Llywodraeth Cymru wedi lansio'r cynllun peilot uwchsgilio deallusrwydd artiffisial yn ffurfiol fel rhan o'r Rhaglen Sgiliau Hyblyg ym mis Ionawr. Dywedodd y Gweinidog fod y cynllun peilot wedi clustnodi hyd at £1 miliwn i gefnogi gweithgarwch ym mlwyddyn ariannol 2025-26 ond, yn bwysicaf oll, ei fod wedi agor deialog gyda chyflogwyr a gweithwyr ar bwysigrwydd sgiliau deallusrwydd artiffisial a phrif ffrydio dull moesegol tuag at ddeallusrwydd artiffisial. Gwahoddodd Russell Greenslade a Jessica Turner, fel cyd-gadeiryddion y Grŵp Cyflawni Deallusrwydd Artiffisial, i ddiweddaru'r Cyngor.
     
  2. Cadarnhaodd Russell Greenslade fod y Grŵp Cyflawni Deallusrwydd Artiffisial yn gwbl weithredol a bod y cynllun peilot uwchsgilio o dan y Rhaglen Sgiliau Hyblyg yn fyw. Esboniodd Russell fod y Grŵp yn ystyried metrigau gwerthuso i sicrhau bod modd mesur effaith y cynllun peilot a bod cyfleoedd i alinio'r gwaith hwn â gweithgarwch hyfforddi ehangach. Dywedodd fod y persbectif busnes wedi cyfrannu at drafodaethau yn y Grŵp a oedd wedi pwysleisio cyflymder deallusrwydd artiffisial a'r angen am lwybrau hyfforddi hygyrch a allai ehangu’n gyflym. 
     
  3. Esboniodd Jessica Turner bwysigrwydd deall a oedd cyllid o'r Rhaglen Sgiliau Hyblyg wedi'i ddyrannu i adlewyrchu moeseg mewn deallusrwydd artiffisial ond dywedodd mai dim ond ar ôl gwerthuso'r cynllun peilot y byddai hyn yn dod yn glir. Pwysleisiodd Jessica bwysigrwydd llais y gweithwyr yn yr ymarfer hwn ac esboniodd y byddai hi a Russell yn cyfarfod i drafod amcanion ehangach y Grŵp yn dilyn y cynllun peilot.
     
  4. Pwysleisiodd y Gweinidog bwysigrwydd datblygu dull moesegol o weithredu deallusrwydd artiffisial a gwerth y cynllun peilot i waith arall ar draws Llywodraeth Cymru.

Eitem 6 ar yr agenda: cofnodion/materion sy'n codi

  1. Cadarnhaodd y Gweinidog fod saith cam gweithredu parhaus yn deillio o gyfarfodydd blaenorol ac amlinellodd y rhain. Rhoddodd ddiweddariad hefyd i'r aelodau am y ffordd y mae'n ymdrin â datganiadau’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol, gan esbonio y gallai fod yn bosibl cyhoeddi'r rhain heb i bob aelod gytuno cyn belled â bod ganddynt gafeat i esbonio hyn. Gofynnodd y Gweinidog i'r aelodau a oeddent yn fodlon cytuno ar y materion sy'n codi. 
     
  2. Croesawodd Shavanah Taj y diweddariad a chefnogodd y dull hyblyg a amlinellwyd ynghylch datganiadau’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol. 
     
  3. Esboniodd Jessica Turner fod yr undebau llafur yn darparu gwaith dinasyddiaeth i annog pleidleisio ar gyfer etholiadau'r Senedd sydd i ddod.
     
  4. Diolchodd y Gweinidog i'r aelodau a chau'r cyfarfod.

Presenoldeb Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol: 25 Chwefror 2026

Llywodraeth Cymru

Jack Sargeant AS, Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol (Cadeirydd)

Cynrychiolwyr Gweithwyr 

Shavanah Taj, TUC Cymru 
Jessica Turner, UNSAIN
Mike Walker, USDAW
Helen Whyley, Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru
Ruth Brady, GMB
Sian Boyles, PCS
Neil Butler, NASUWT
Gareth Lloyd, UCU

Cynrychiolwyr Cyflogwyr 

Russell Greenslade, Busnes
Joshua Miles, Busnes
Y Cynghorydd Anthony Hunt, Llywodraeth Leol
Pippa Britton, Sector Gwirfoddol
Aled Edwards, Cyrff Cyhoeddus
Kathryn Robson, Addysg Bellach

Swyddogion Cefnogol

Jo Salway, Cefnogaeth gyffredinol i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol
Neil Surman, Eitem 2 yn unig
Chris Hartwell, Eitem 4 yn unig
Andrew Granville, Eitem 5 yn unig

Arsylwyr

Naomi Alleyne, CLlLC
Amber Courtney, TUC Cymru

Ymddiheuriadau

Peter Hughes (Unite)
Yr Athro Wendy Larner (Addysg Uwch)
Nicola Prygodzicz (Iechyd)
Janis Richards (Busnes)