Neidio i'r prif gynnwy

Gofynnir i aelodau’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol: 

  • nodi cynnwys y papur hwn, gan gynnwys canfyddiadau adroddiad ymchwil y DU yr Arolwg Sgiliau Cyflogwyr (ESS 2024) a chynlluniau ar gyfer Archwiliad Sgiliau Cenedlaethol i Gymru
  • nodi y bydd adroddiad ymchwil Cymru yr Arolwg Sgiliau Cyflogwyr (ESS 2024) yn cael ei gyhoeddi ar 26 Chwefror
  • rhannu barn gychwynnol ar y blaenoriaethau allweddol ar gyfer sgiliau yn y dyfodol, gan gynnwys y posibilrwydd o ddatblygu Gwasanaeth Sgiliau Buddsoddi a Seilwaith Mawr i Gymru i adlewyrchu datblygiadau arfaethedig yn Lloegr.

Trosolwg

  1. Mae System Sgiliau Cymru yn fframwaith seiliedig ar alw sydd wedi’i gynllunio i gysoni addysg, hyfforddiant a datblygu’r gweithlu ag anghenion cyflogwyr, gweithwyr a’r economi. Mae’n cael ei ategu gan uchelgais i gefnogi twf cynaliadwy, symudedd cymdeithasol a gwaith teg ledled Cymru, sy’n allweddol i alluogi bywydau gwell. 
     
  2. O safbwynt cynllunio a darparu sgiliau, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda phartneriaid allweddol gan gynnwys Medr, Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol, Undebau Llafur, cyrff diwydiant, busnesau, entrepreneuriaid a’r byd academaidd. Mae’r pwyslais ar weithio mewn partneriaeth gymdeithasol a chydweithio rhwng y llywodraeth, cyflogwyr, a darparwyr hyfforddiant / sgiliau. Mae perthynas agos iawn rhwng sgiliau, ymyriadau cyflogadwyedd, darparu cymorth busnes, a meithrin gallu.
     
  3. Mae blaenoriaethu sgiliau yn rhan allweddol o’r system sgiliau. Er bod polisi sgiliau wedi’i ddatganoli i Gymru, mae’r gweithlu a’r farchnad lafur yn cael eu dylanwadu’n gryf gan bolisïau ehangach Llywodraeth y DU ar sgiliau a phenderfyniadau cysylltiedig ar fewnfudo a rheoleiddio cyflogaeth. Rhaid ystyried anghenion Cymru o ran y gweithlu a sgiliau yn y cyd-destun hwn; mae mesurau ar lefel y DU, fel trothwyon cyflog ar gyfer fisa gwaith, rhestrau o alwedigaethau lle ceir prinder dros dro, a pholisïau mudo, yn effeithio’n uniongyrchol ar argaeledd gweithwyr medrus yng Nghymru, gan siapio strategaethau recriwtio a’r gallu i lenwi rolau hanfodol ar draws sectorau. 

Data Arolwg Sgiliau Cyflogwyr 2024 a gweithgareddau eraill Sgiliau’r DU

  1. Cyhoeddwyd adroddiad ymchwil diweddaraf Employer Skills Survey 2024 (ESS 2024) UK (ESS 2024) ar 27 Tachwedd 2025. Roedd ESS 2024 yn cynnwys 8,639 o gyfweliadau â chyflogwyr yn Lloegr, 3,388 o gyfweliadau yng Ngogledd Iwerddon, 5,605 yng Nghymru, a 5,080 yn yr Alban. Mae hefyd yn cynnwys canfyddiadau’r arolwg dilynol ‘Investment in Training’ o 5,935 o gyflogwyr, a oedd yn cynnwys 2,150 o gyflogwyr yn Lloegr, 883 yng Ngogledd Iwerddon, 1,395 yn yr Alban a 1,507 yng Nghymru. Ceir crynodeb o’r canfyddiadau allweddol yn yr Atodiad cysylltiedig. Bydd adroddiad ymchwil dilynol Arolwg Sgiliau Cyflogwyr (ESS) 2024 Cymru yn cael ei gyhoeddi ar 26 Chwefror.
     
  2. Mae sefydlu Skills England gan Lywodraeth y DU wedi arwain at fwy o weithgarwch eto yn y maes hwn, gyda dadansoddiad yn cwmpasu’r DU ehangach. Roedd cyhoeddiadau Skills England yn 2025 yn cynnwys asesiadau o anghenion sgiliau sectorau, adroddiadau ar alw am gyflogaeth yn y dyfodol, a dadansoddiad o’r uwchsgilio deallusrwydd artiffisial sydd ei angen i ddiwallu anghenion cyflogwyr, 
     
  3. Mae ‘Modern Industrial Strategy’ llywodraeth y DU, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2025, a nodi’r wyth sector diwydiannol â blaenoriaeth, yn llywio gwaith Skills England a phartneriaid cyflenwi eraill a bydd yn cael ei gefnogi gan yr ardoll twf a sgiliau sy’n disodli’r ardoll prentisiaethau yn Lloegr. Hefyd, mae Papur Gwyn diweddar y DU ar Addysg a Sgiliau Ôl-16, a gwaith y Pwyllgor Cynghori ar Fudo a’i Grŵp Tystiolaeth y Farchnad Lafur, yn golygu bod angen olrhain gweithgarwch sylweddol ar lefel y DU i sicrhau bod anghenion Cymru yn cael eu hadlewyrchu’n llawn. 

Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol

  1. Yng Nghymru, mae’r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol (y Partneriaethau) wedi bod yn allweddol wrth nodi blaenoriaethau sgiliau rhanbarthol sy’n seiliedig ar farn cyflogwyr. Maent yn hyrwyddo Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol fel rhan o’u cylch gorchwyl, ac mae anghenion sgiliau yn cael eu cofnodi mewn cynlluniau cyflogaeth a sgiliau sy’n cael eu cyhoeddi bob tair blynedd ac yn cael eu hadnewyddu’n flynyddol. Mae pob cynllun wedi’i ategu gan wybodaeth am y farchnad lafur ac mae argymhellion rhanbarthol yn llywio cyfeiriad polisi sgiliau Llywodraeth Cymru.
     
  2. Ers 2024, mae’r Partneriaethau wedi bod yn gweithio’n agos gyda Medr i helpu i lywio blaenoriaethu prentisiaethau a darpariaeth dysgu seiliedig ar waith. Defnyddir cynlluniau cyflogaeth a sgiliau’r Partneriaethau i nodi sectorau blaenoriaeth sy’n sail i’r Safonau Galwedigaethol Genedlaethol, gofynion sgiliau Sero Net yn y dyfodol ac ar hyn o bryd, sgiliau Cymraeg, sgiliau cyflogadwyedd a thechnolegau sy’n dod i’r amlwg fel Deallusrwydd Artiffisial a sgiliau digidol. Mae rhanddeiliaid Cymreig fel Gyrfa Cymru, y sectorau addysg bellach ac addysg uwch hefyd yn defnyddio’r cynlluniau i lywio eu prosesau cynllunio sefydliadol eu hunain.

Archwiliad Sgiliau Cenedlaethol Cymru

  1. Cynhaliwyd yr archwiliad sgiliau cenedlaethol diweddaraf yng Nghymru fwy na degawd yn ôl yn 2012. Er bod llawer o’r gweithgarwch presennol gan lywodraeth y DU yn hynod berthnasol i Gymru hefyd, mae cynigion wedi’u datblygu ar gyfer archwiliad sgiliau cenedlaethol newydd a fydd yn meithrin dealltwriaeth gliriach o anghenion gweithlu a sgiliau Cymru, gan gynnwys sgiliau Cymraeg, a sut mae hynny’n cael ei gefnogi drwy weithgareddau’r cyflenwyr ym maes addysg a hyfforddiant. Bydd hyn yn adeiladu ar weithgarwch diweddar ar sgiliau a chyflogaeth yng Nghymru ar lefel genedlaethol a rhanbarthol (drwy Gynlluniau Cyflogaeth a Sgiliau’r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol). Bydd yr archwiliad yn dechrau ym mis Mawrth 2026 a’r canlyniadau ar gael tua diwedd y flwyddyn.

Nodau ac Amcanion yr Archwiliad Sgiliau Cenedlaethol

  1. Nod yr archwiliad fydd darparu gwybodaeth gadarn am sgiliau Cymru nawr ac yn y dyfodol, ar lefel mor fanwl â phosibl. Bydd yr archwiliad yn hwyluso blaenoriaethu’n glir bolisïau sgiliau strategol heddiw ac yfory yn seiliedig ar y dystiolaeth gryfaf sydd ar gael. Pwrpas yr archwiliad fydd llywio penderfyniadau llunwyr polisi, cyflogwyr, darparwyr addysg a hyfforddiant, a rhanddeiliaid eraill, gan wella gallu’r system sgiliau i ateb galw presennol y farchnad lafur a bod yn fwy ymatebol i’r galw a ragwelir yn y dyfodol.

Cyfleoedd a materion allweddol i Gymru

  1. Mae’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol wedi trafod goblygiadau Strategaeth Ddiwydiannol y DU i Gymru yn flaenorol a’r cyfleoedd a’r risgiau a gyflwynir gan ddatblygiadau rhanbarthol fel Porthladdoedd Rhydd a Pharthau buddsoddi. Yn fwy diweddar, cafwyd cyhoeddiadau mawr pellach yn ymwneud â datblygiadau’r Wylfa a’r fferm wynt arnofiol yn y Môr Celtaidd.
     
  2. Rydym yn deall bod Skills England yn datblygu Gwasanaeth Buddsoddi a Seilwaith Mawr newydd, a fydd yn darparu gwasanaeth rheoli cyfrifon ar gyfer prosiectau mawr i sicrhau eu bod nhw’n gallu cael gafael ar y sgiliau sydd eu hangen arnynt. Fe wnaeth y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol arwain Uwchgynhadledd Sgiliau Gogledd Cymru yn Llangefni ar 22 Ionawr a oedd yn argymell datblygu dull tebyg yma yng Nghymru, un a fyddai’n dod â’r holl bartneriaid allweddol at ei gilydd i feithrin dull cydweithredol, unedig o wneud y mwyaf o fanteision buddsoddiadau rhanbarthol mawr.

Trafodaeth

  1. Gwahoddir y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol i wneud sylwadau ar ganfyddiadau allweddol Arolwg Sgiliau Cyflogwyr 2024 a’r cynlluniau ar gyfer archwiliad sgiliau cenedlaethol i Gymru. Byddai’n arbennig o ddefnyddiol cael barn y Cyngor ar yr angen am ddull mwy cydgysylltiedig, dan arweiniad Llywodraeth Cymru, o gysoni’r cymorth sgiliau ar gyfer cynigion buddsoddi a seilwaith rhanbarthol mawr yng Nghymru.

Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI)

Nid yw cynnwys y papur hwn yn codi unrhyw faterion EDI penodol. Fodd bynnag, mae angen sicrhau bod ymyriadau sgiliau nawr ac yn y dyfodol yn cefnogi EDI yn llawn ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol.