Neidio i'r prif gynnwy

Mae dros £3 miliwn wedi'i fuddsoddi i helpu i foderneiddio Llyfrgell Genedlaethol Cymru, diogelu casgliadau hanesyddol, gwella mannau i ymwelwyr, rhoi hwb i fynediad digidol a helpu'r Llyfrgell i gyrraedd sero net erbyn 2030.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r gyfran fwyaf o'r buddsoddiad, bron i £1.5 miliwn, wedi gwella'r staciau llyfrau lle mae casgliadau o arwyddocâd cenedlaethol yn cael eu storio, gan sicrhau cadwraeth ddiogel a hirdymor ar gyfer miliynau o eitemau hanesyddol sy'n adrodd hanes Cymru.

Mae dros £500,000 wedi trawsnewid mannau cyhoeddus y Llyfrgell. Bydd ymwelwyr yn elwa ar fynedfa fwy croesawgar, mannau arddangos newydd ac ardal chwarae newydd i blant sy'n gwneud y llyfrgell yn fwy cynhwysol a chyfeillgar i deuluoedd.

Mae £421,000 arall wedi helpu i foderneiddio seilwaith digidol, cryfhau seiberddiogelwch a lansio Ffowndri Data newydd, gan gyflwyno treftadaeth Gymreig ar-lein fel y gall mwy o bobl o bob ban byd ei archwilio.

Mae'r £670,000 sy'n weddill yn cefnogi taith y llyfrgell i sero net erbyn 2030, gan wella effeithlonrwydd ynni ac elwa i'r eithaf ar yr allbwn o'r paneli solar sydd newydd eu gosod.

Daw'r cyhoeddiad hwn ochr yn ochr â buddsoddiad o £55,000 mewn llyfrgelloedd cyhoeddus ledled Cymru yn ystod y Flwyddyn Darllen Genedlaethol, gan sicrhau bod adnoddau ar gael i lyfrgell pob awdurdod lleol ac annog pobl o bob oedran i ddarllen er pleser.

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant:

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cadw cof am ein cenedl, miliynau o straeon, dogfennau ac arteffactau sy'n perthyn i bob un ohonom. Mae'r buddsoddiad hwn yn sicrhau bod y trysorau hynny'n cael eu diogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, tra'n agor drysau'r Llyfrgell yn ehangach i deuluoedd, cymunedau a defnyddwyr digidol ledled Cymru a thu hwnt.

Ar ymweliad diweddar, gwelodd y Gweinidog sut mae'r buddsoddiad eang wedi trawsnewid y Llyfrgell hanesyddol.

Dywedodd Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Dr Rhodri Llwyd Morgan:

Roedd yn bleser croesawu'r Gweinidog i'r Llyfrgell a chael y cyfle i ddangos sut mae'r cyllid yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol ar draws nifer o feysydd.  Roeddem yn falch bod y Gweinidog yn gallu gweld y cynnydd sylweddol o ran datgarboneiddio a sut mae'r Llyfrgell yn gweithio gyda chwmnïau lleol er budd y gymuned gyfan. Fe wnaethom hefyd arddangos y gwaith o ddatblygu mannau arddangos newydd yn ogystal â gwelliannau i brofiad ymwelwyr a defnyddwyr.

Mae datblygu casgliadau sy'n adrodd stori pobl Cymru wrth wraidd cenhadaeth y Llyfrgell ac mae gweld gwaith cadwraeth yn mynd rhagddo yn tystio i bwysigrwydd gofalu am gasgliadau.