Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd Aelodau'r Senedd yn dymuno cael gwybod fy mod wedi rhoi cydsyniad i Ysgrifennydd Gwladol DEFRA Llywodraeth y DU arfer pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth mewn maes datganoledig o ran Cymru.

Yn unol ag Erthygl 4A(3) o (EC) Rhif 1907/2006 ("REACH y DU"), gofynnwyd am gydsyniad Gweinidogion Cymru gan y Farwnes Hayman o Ullock i wneud Offeryn Statudol o'r enw Rheoliadau REACH (Diwygio) (Rhif 2) 2026 ("y Rheoliadau") (dolen allanol) o ran Cymru.

Mae'r Rheoliadau yn diwygio Atodiad XVII o REACH y DU. Maent yn cyflwyno dyddiadau cau estynedig ar gyfer cofrestru o dan fodel Cofrestru Trosiannol Amgen newydd REACH y DU. Nid yw bellach yn bosibl i DEFRA gyflawni'r newidiadau deddfwriaethol i weithredu'r model Cofrestru Trosiannol Amgen cyn y dyddiad cau cyntaf presennol ar gyfer cofrestru ym mis Hydref 2026, ynghyd â chyfnod pontio addas. Felly, roedd angen i DEFRA ymgynghori ar ddyddiadau cau trosiannol diwygiedig ar gyfer cofrestru, sy'n rhoi digon o amser i'r llywodraeth gwblhau'r model Cofrestru Trosiannol Amgen ac i'r diwydiant baratoi ar gyfer cydymffurfio.

Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus rhwng 14 Gorffennaf 2025 ac 8 Medi 2025, ac mae DEFRA yn bwriadu gweithredu dyddiadau cau newydd ar gyfer cofrestru, sef 27 Hydref 2029, 27 Hydref 2030, a 27 Hydref 2031.

Er mai egwyddor gyffredinol Llywodraeth Cymru yw y dylai Gweinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth mewn meysydd datganoledig lle mae cymhwysedd gweithredol, o dan REACH y DU nid oes gan Weinidogion Cymru y pŵer i wneud y Rheoliadau hyn eu hunain. Felly, yn yr achos hwn, ystyrir ei bod yn briodol i'r Rheoliadau gael eu gwneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Rwy'n credu ei bod yn briodol i sylwedd diwygiadau Llywodraeth y DU fod yn berthnasol i Gymru er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â'n hymrwymiadau amgylcheddol ac iechyd y cyhoedd ac i sicrhau cysondeb rheoleiddiol ledled y DU. 

Cafodd y Rheoliadau eu gosod yn y Senedd ar 24 Mawrth 2026 gan yr Ysgrifennydd Gwladol, drwy arfer y pwerau a roddir gan Erthyglau 68(1), 73(2), a 132A o REACH y DU a deuant i rym yn haf 2026.