Cytundeb rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar Gyfiawnder Ieuenctid a'r Gwasanaeth Prawf
Manylion memorandwm cyd-ddealltwriaeth a gytunwyd mewn egwyddor.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyfiawnder ieuenctid
O ran cyfiawnder ieuenctid, fel rhan o ddiwygiadau ehangach i'r system cyfiawnder ieuenctid, bydd llywodraethau'r DU a Chymru yn cytuno ar rôl ehangach sydd wedi'i diffinio yn glir i Lywodraeth Cymru.
Ers i'r trefniadau presennol ar gyfer gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid gael eu sefydlu ym 1998, mae'r cyd-destun y mae gwasanaethau yn gweithredu o'i fewn yng Nghymru wedi newid yn sylweddol, gyda'r mwyafrif o'r staff yn cael eu cyflogi gan wasanaethau datganoledig, y rhan fwyaf o'r gwaith yn cael ei wneud ar weithgareddau ataliol a'r rhan fwyaf o'r cyllid yn dod drwy gyllidebau datganoledig. Mae'r ddwy lywodraeth wedi ymrwymo i ddiweddaru'r trefniadau i adlewyrchu'r datblygiadau hyn.
Bydd Llywodraeth y DU yn dechrau'r trefniant newydd hwn drwy ddatganoli cyllid i leihau'r defnydd o remánd i blant yng Nghymru (nod cyffredin i'r ddwy lywodraeth), a datganoli'r cyllid sy'n weddill ar gyfer ymyrraeth gynnar, a ddarperir ar hyn o bryd drwy'r rhaglen Turnaround, gyda chymorth cytundeb partneriaeth newydd rhwng y ddwy lywodraeth. Bydd y newidiadau hyn yn cael effaith o fis Ebrill 2027. Gyda'i gilydd, mae hyn yn dod i filiynau o bunnoedd y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cyfeirio at gefnogi plant a chymunedau ledled y wlad. Yn ogystal â lleihau biwrocratiaeth mewn trefniadau cyllido presennol a chefnogi cyflawni symlach, bydd datganoli cyllid yn darparu'r hyblygrwydd i gysoni buddsoddiad â blaenoriaethau Cymru ac i gyfeirio cyllid mewn ffordd sy'n caniatáu i wasanaethau deilwra ymyriadau yn well, arloesi a darparu cymorth sy'n adlewyrchu anghenion penodol plant Cymru. Bydd y ddwy lywodraeth hefyd yn dechrau trafodaethau ar unwaith ynghylch mynd ymhellach na remánd a chyllid ymyrraeth gynnar, gan archwilio rôl ehangach i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â'r Grant Craidd Cyfiawnder Ieuenctid o 2027/28.
Mae nodau'r ddwy lywodraeth ar gyfer rôl gliriach a mwy mewn cyfiawnder ieuenctid i Lywodraeth Cymru yn mynd y tu hwnt i gyllid. Fel rhan o'r diwygiadau a amlinellir ym Mhapur Gorchymyn y Weinyddiaeth Gyfiawnder, bydd Llywodraeth y DU yn adolygu a diwygio'r oruchwyliaeth a'r strategaeth ar gyfer gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid, ac yn diwygio rôl y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid i gryfhau atebolrwydd democrataidd. Wrth iddi ddechrau'r gwaith hwnnw, bydd Llywodraeth y DU yn cydweithio'n agos â Llywodraeth Cymru i adlewyrchu rôl sefydliadau democrataidd Cymru wrth ddarparu atebolrwydd democrataidd cryfach ar gyfer gwasanaethau datganoledig yng Nghymru, gyda golwg ar rôl ehangach sydd wedi'i diffinio'n glir i Lywodraeth Cymru.
Gwasanaeth prawf
O ran prawf, mae'r ddwy lywodraeth a phedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda'i gilydd i gynhyrchu Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth i gryfhau hyblygrwydd yng Nghymru erbyn diwedd 2026. Mae cytundeb a gyhoeddwyd heddiw yn nodi cynnwys disgwyliedig y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwnnw a'r broses i'w dilyn wrth ei gwblhau, gyda disgwyl i lywodraeth leol hefyd ei lofnodi.
Bydd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn canolbwyntio ar feysydd lle y gellir lleihau aildroseddu drwy gydweithredu agosach rhwng y Gwasanaeth Prawf a gwasanaethau datganoledig yng Nghymru fel llywodraeth leol, tai a gofal iechyd ymhlith eraill.
Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo o hyd i adolygiad strategol o lywodraethiant prawf yn ystod y Senedd hon, ac fel rhan o hynny bydd yn archwilio gyda Llywodraeth Cymru sut y gallai modelau datganoledig eu galluogi i fod yn fwy ymatebol yn lleol.
