Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg
Heddiw, rwy'n cyhoeddi'r crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar y Cynigion Deddfwriaethol Mewn Perthynas â Deddfau Trethi Cymru.
Roedd yr ymgynghoriad yn gofyn am farn ar sawl newid arfaethedig sy’n dechnegol ei natur, y bwriedir iddynt roi mwy o eglurder i’n deddfwriaeth trethi datganoledig, ei gwella a’i diogelu at y dyfodol. Bwriad y newidiadau hefyd yw cefnogi darpariaeth ehangach o ran gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Hoffwn ddiolch i bawb a ymatebodd i’r ymgynghoriad hwn. Roedd mwyafrif yr ymatebion i’r ymgynghoriad hwn yn bennaf yn gefnogol i’r cynigion ac fe gynigient adborth gwerthfawr a mewnweledol i gefnogi datblygu polisi pellach. Mae’r ymgynghoriad wedi cadarnhau ein barn y byddai’r newidiadau arfaethedig i’r Deddfau Trethi Cymru yn sicrhau y gall Awdurdod Cyllid Cymru barhau i reoli trethi Cymru mor effeithlon â phosibl a pharhau i gyflawni dros Gymru.
Mater i lywodraeth nesaf Cymru fydd penderfynu a ddylid cyflwyno bil i Senedd Cymru er mwyn ceisio rhoi effaith i’r cynigion a gynhwysir yn yr ymgynghoriad hwn.
