Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Heddiw, mae Principles for Pandemic Preparedness (dolen allanol), sydd wedi’u datblygu a’u cymeradwyo gan bob un o bedair gwlad y DU, yn cael eu cyhoeddi. Mae hon yn ddogfen bwysig a fydd yn helpu i sicrhau bod Cymru yn fwy parod ar gyfer unrhyw bandemig neu argyfwng yn y dyfodol.
Mae’r pandemig Covid-19, a chanfyddiadau cychwynnol Ymchwiliad Covid-19 y DU, wedi dangos ei bod yn dyngedfennol bwysig, os bydd argyfwng iechyd y cyhoedd cenedlaethol, fod pedair llywodraeth y DU yn gweithio gyda’i gilydd mewn ffordd sydd wedi’i chydlynu’n ofalus, gan barchu datganoli ac anghenion unigryw pob rhan o’r DU.
Dylai cynllunio ar gyfer pandemig adlewyrchu agwedd gydgysylltiedig tuag at risg ac mae trefniadau cydweithio hirsefydledig ar waith eisoes mewn rhai meysydd ar draws y pedair gwlad. Mae’r trefniadau hyn yn cynnwys y mecanweithiau gwyliadwriaeth cydgysylltiedig rhwng Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) ac asiantaethau iechyd y cyhoedd yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ymarferion caffael cydgysylltiedig ar gyfer brechlynnau, meddyginiaethau a chyfarpar diogelu personol (PPE), a llwyfannau data a rennir.
Darperir sylfaen gadarn ar gyfer cydweithredu ymhellach eto gan yr egwyddorion sy’n cael eu cyhoeddi heddiw, ac maent yn adlewyrchu ymrwymiad cyffredin i sicrhau bod y DU yn fwy parod i wynebu’r her o bandemig yn y dyfodol. Maent yn adeiladu ar y gwersi a nodwyd o’r pandemig ac maent wedi’u dylanwadu gan ganfyddiadau Ymchwiliad Covid-19 y DU a chanfyddiadau cynnar Ymarfer Pegasus, sef yr ymarfer anfilwrol mwyaf erioed i gael ei gynnal yn y DU. Profwyd gallu’r llywodraeth i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol yn ystod cyfnod estynedig o argyfwng, a bydd adroddiadau yn cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ddiwedd 2026.
Bydd pob un o bedair llywodraeth y DU yn datblygu ac yn gweithredu eu dulliau eu hunain o wella parodrwydd, a byddant yn gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu gallu ar draws y DU fel rhan o’r egwyddorion arweiniol hyn. Maent yn cynnwys diogelu’r rhai sydd mewn mwyaf o berygl, gyda llywodraethau yn ymrwymo i deilwra eu gallu i ddiogelu pob cymuned gyda’r nod o ddarparu ymateb effeithiol sy’n deg i bawb adeg pandemig. Mae’r dull yn seiliedig ar safbwynt Iechyd Cyfunol, ac mae’n cydnabod y cysylltiadau rhwng iechyd pobl, anifeiliaid a’r amgylchedd ac yn cael ei ysgogi gan benderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth sy’n defnyddio data, gwyddoniaeth a chyngor arbenigol cadarn.
