Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden AS, Y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Ebrill 2025, cyhoeddais y byddai Llywodraeth Cymru yn symud o adolygu cyfradd y Cynnig Gofal Plant bob tair blynedd i’w adolygu yn flynyddol. Y bwriad yw gwella tryloywder a’r gallu i ymateb, a sicrhau bod penderfyniadau cyllido yn adlewyrchu’r pwysau go iawn sy’n wynebu darparwyr gofal plant.

Yn ystod haf 2025, bu Llywodraeth Cymru yn casglu barn lleoliadau gofal plant sy’n darparu’r Cynnig drwy Arolwg Blynyddol y Cynnig Gofal Plant. Mae canfyddiadau’r arolwg, ynghyd â’r wybodaeth a gasglwyd drwy Ddatganiadau Hunanasesu Gwasanaeth Arolygiaeth Gofal Cymru, wedi cael eu hystyried fel rhan o adolygiad cyfradd eleni.

Mae canlyniad yr adolygiad wedi cael ei ystyried yn ofalus yng nghyd-destun penderfyniadau gwario ehangach Llywodraeth Cymru. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau cynaliadwyedd ein rhaglenni, felly rwyf wedi dod i’r casgliad y dylid cynyddu cyfradd fesul awr y Cynnig Gofal Plant i £6.67, o 6 Ebrill 2026 ymlaen. Mae’r cynnydd hwn o 4.18% yn cynnal un o’r cyfraddau cymharol mwyaf hael ledled y Deyrnas Unedig. Bydd yn helpu lleoliadau gofal plant i reoli effaith y newidiadau sydd ar ddod i’r Cyflog Byw Cenedlaethol a chostau cynyddol eraill.

Ochr yn ochr â’r cynnydd hwn, bydd y swm uchaf y caniateir ei godi fel ffioedd ar gyfer prydau bwyd hefyd yn gweld cynnydd o 4.18%. Rwy’n credu y bydd hyn yn parhau i daro cydbwysedd rhwng yr hyn sy’n fforddiadwy i’r darparwr a’r hyn sy’n fforddiadwy i’r rhiant chostau cynyddol eraill.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio’n agos gyda’r sector gofal plant a chynrychiolwyr rhanddeiliaid i edrych ar ffyrdd tymor hir a systemig o gefnogi cynaliadwyedd y sector ac annog ei ddatblygiad parhaus o fewn fframwaith rhaglenni gofal plant a ariennir.