Dawn Bowden AS, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
Heddiw, mae’n bleser gennyf wneud y Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Dirymu a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2026 (“Gorchymyn 2026”).
Mae Gorchymyn 2026 yn nodi’r amgylchiadau pan na fo’n ofynnol cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru fel gwarchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd o dan Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 ac sydd felly yn esemptio’r unigolyn. Mae bod wedi eu hesemptio rhag gorfod cofrestru yn golygu nad yw’n ofynnol i warchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd gofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru, cydymffurfio â Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010, na rhoi sylw i’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir.
Nod Gorchymyn 2026 yw moderneiddio ac egluro’r eithriadau ar gyfer darparwyr gofal plant, gwaith chwarae a gweithgareddau.
Dyma rai o’r newidiadau allweddol i’r eithriadau:
- cysoni’r eithriadau ar gyfer gwarchodwyr plant sy’n berthnasau â chanllawiau’r Cynnig Gofal Plant;
- diwygio’r trothwyon oedran ac amser presennol a chyflwyno terfynau oedran ac amser newydd i rai o’r eithriadau, yn enwedig ar gyfer gweithgareddau coetsio a dysgu;
- cryfhau’r goruchwylio a’r sicrwydd ansawdd ar gyfer plant dwy oed ac iau;
- cysoni’r eithriadau ar gyfer nanis, au pairs a charcwyr;
- galluogi plant 10 oed i ymgysylltu â gwasanaethau ieuenctid wrth bontio; a
- rhwystro darparwyr sydd wedi’u hatal rhag gweithredu o dan eithriadau penodol.
Mae Gorchymyn 2026 yn sicrhau bod y trefniadau ar gyfer goruchwylio’r gofal plant, y gwaith chwarae a’r gweithgareddau a ddarperir yng Nghymru yn gymesur ac yn addas wrth benderfynu pa ddarparwyr nad yw’n ofynnol iddynt gofrestru. Mae Gorchymyn 2026 yn sicrhau cydbwysedd rhwng yr angen am oruchwyliaeth a’r gwaith o gefnogi teuluoedd i barhau i gael mynediad at ystod eang o ddarpariaeth gofal plant, gwaith chwarae a gweithgareddau sy’n diwallu eu hanghenion.
Bydd Gorchymyn 2026 yn dod i rym ar 1 Ebrill 2027 ac yn gwbl orfodadwy erbyn 1 Ebrill 2028 yn dilyn cyfnod pontio o flwyddyn. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi canllawiau i helpu pobl i ddeall Gorchymyn 2026 cyn iddo ddod i rym.
