Dawn Bowden AS, Y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
Rwyf yn falch o gyhoeddi y daw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2026 i rym ar 1 Ebrill 2026.
Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi effaith ymarferol i ddarpariaethau yn Neddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 sy'n galluogi oedolion sy'n gymwys i gael Gofal Iechyd Parhaus y GIG (GIP) i ofyn am daliad uniongyrchol. Mae hwn yn gam sylweddol ymlaen wrth gryfhau dulliau sy'n canolbwyntio ar y person ar gyfer pobl ag anghenion iechyd cymhleth ac mae'n cyd-fynd â'n hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i wella'r rhyngwyneb rhwng GIP a thaliadau uniongyrchol.
O 1 Ebrill 2026 ymlaen, gall y Byrddau Iechyd Lleol, gan arfer swyddogaethau ar ran Gweinidogion Cymru, gynnig taliadau uniongyrchol yn lle'r gwasanaethau a fyddai fel arall yn cael eu trefnu neu eu comisiynu gan y GIG, gan ganiatáu i oedolion sy'n gymwys i gael GIP gael mwy o ddewis a rheolaeth ynghylch sut mae eu gofal yn cael ei ddarparu.
Mae taliadau uniongyrchol eisoes wedi hen ennill eu plwyf o fewn gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae ymestyn y dull hwn i GIP yn ymateb i alwadau hirsefydlog gan randdeiliaid ac yn adlewyrchu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i lais a rheolaeth gryfach.
Mae canllawiau statudol i gefnogi dealltwriaeth a gweithrediad y Rheoliadau wedi'u cwblhau a byddant yn cael eu cyhoeddi heddiw. Bwriedir i'r canllawiau gefnogi'r Byrddau Iechyd Lleol, sefydliadau partner ac unigolion drwy esbonio sut y mae'r Rheoliadau yn gweithredu yn ymarferol.
Mae dyfodiad i rym y Rheoliadau hyn yn garreg filltir bwysig o ran gweithredu'r dyheadau sy'n sail i Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025. Bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio'n agos â'r Byrddau Iechyd Lleol a phartneriaid i gefnogi gweithredu'r Rheoliadau yn effeithiol a bydd yn monitro eu gweithrediad fel rhan o gyflawni'r Ddeddf yn ehangach.
