Daw rheolau newydd i rym heddiw (26 Mawrth 2026), sy’n helpu pobl i wneud dewisiadau bwyd iachach gan nodi carreg filltir arwyddocaol yn y frwydr yn erbyn gordewdra.
Mae lefelau gordewdra yn cynyddu yng Nghymru, mae 60% o oedolion dros bwysau neu'n ordew, ac mae bron i chwarter y plant dros bwysau neu'n ordew erbyn iddynt ddechrau'r ysgol.
Mae ein hamgylchedd bwyd wedi datblygu mewn ffordd sy'n ei gwneud hi'n anoddach gwneud dewisiadau iachach, gyda bwydydd hawdd, cyflym, sy'n aml yn uwch mewn braster, siwgr a halen, yn cael eu blaenoriaethu dros opsiynau iachach.
Mae'r rheoliadau'n rhoi cyfrifoldebau newydd ar fanwerthwyr canolig a mawr i helpu pobl i wneud dewisiadau iachach wrth siopa a bwyta allan.
Bydd y rheoliadau yn atal manwerthwyr rhag llywio cwsmeriaid tuag at gynhyrchion llai iach trwy hyrwyddiadau, fel disgownt amleitem, a thrwy osod bwydydd sy'n uchel mewn braster, halen a siwgr wrth fynedfeydd a mannau talu.
Mae ymchwil yn awgrymu bod cynigion arbennig a lleoli cynhyrchion mewn lleoliadau amlwg yn y siop ac ar-lein yn cael dylanwad sylweddol ar ein dewisiadau bwyd ac yn ein hannog i brynu a bwyta mwy nag yr oeddem yn bwriadu.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles:
O heddiw ymlaen, bydd yn haws gwneud dewisiadau iachach wrth fynd, ac yn ystod ein siopa wythnosol.
Rydyn ni'n gwybod bod rhieni eisiau'r gorau i'w plant ac eisiau eu helpu i ffurfio arferion iach a rhoi dechrau teg iddynt mewn bywyd.
Trwy sicrhau nad yw bwydydd sy'n uchel mewn braster, siwgr a halen bellach yn cael lleoliad mwy amlwg na dewisiadau iachach, rydym yn cymryd camau pwysig i gefnogi pawb i wneud dewisiadau iachach ac i wella iechyd y cyhoedd.
Croesawodd yr Athro Jim McManus, y Cyfarwyddwr Cenedlaethol Iechyd a Lles yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, y rheoliadau newydd:
Mae creu amgylchedd bwyd iachach i bobl yng Nghymru yn hanfodol i bob un ohonom.
Edrychwn ymlaen at weld yr effaith gadarnhaol y bydd y rheoliadau hyn yn ei chael ar y dewisiadau y mae pobl yn eu gwneud ac, yn ei dro, ar iechyd y genedl.
Dywedodd Dr. Ilona Johnson, Cyd-gyfarwyddwr Gwella Iechyd Dros Dro, Iechyd Cyhoeddus Cymru:
Dyma gam i'r cyfeiriad cywir. Mae pobl ledled Cymru eisiau bod yn bwysau iach, ond mae llawer yn teimlo bod eu hamgylchedd bob dydd yn gwneud dewis opsiynau iachach yn anoddach.
Mae bwydydd sy'n uchel mewn braster, siwgr a halen yn aml yn cael eu gosod yn amlwg mewn siopau ac yn cael eu hyrwyddo mewn ffyrdd sy'n annog pobl i brynu pethau nad oedden nhw wedi bwriadu eu prynu, a bwyta mwy.
Mae tystiolaeth dda yn dangos bod polisïau sy'n targedu'r amgylchedd bwyd yn effeithiol wrth helpu pobl i wneud dewisiadau iachach.
Yn y 12 mis ers i'r rheoliadau gael eu cymeradwyo gan y Senedd, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau cynhwysfawr i gefnogi busnesau ac awdurdodau lleol i weithredu'r newidiadau, sy'n adlewyrchu mesurau tebyg sydd eisoes ar waith yn Lloegr.
