Dawn Bowden AS, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
Ar 14 Rhagfyr 2023, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd, Julie Morgan AS, bod ein Cynllun Gweithredu Cychwynnol ar gyfer Gwasanaeth Gofal a Chymorth Cenedlaethol wedi'i gyhoeddi. Cafodd y Cynllun hwn ei ddatblygu i fwrw ymlaen ag argymhellion y Grŵp Arbenigol, a sefydlwyd yn ystod y Cytundeb Cydweithio, i hyrwyddo ein huchelgais ar y cyd i greu Gwasanaeth Gofal a Chymorth Cenedlaethol i Gymru - gwasanaeth sydd am ddim pryd a lle bynnag y bo'i angen ac yn cael ei ddarparu fel gwasanaeth cyhoeddus craidd.
Roedd y Cynllun Gweithredu Cychwynnol yn nodi rhaglen waith glir, dri cham, dros gyfnod o 10 mlynedd. Mae Cam 1 yn cwmpasu'r blynyddoedd cychwynnol (2022–2025); bydd Cam 2 yn digwydd rhwng 2026 a 2028; a bydd Cam 3 yn dechrau wedi hynny, o 2029 ymlaen. Mae'r Cynllun Gweithredu Cychwynnol yn darparu'r sylfaen ar gyfer trawsnewidiad ar draws ein system gofal a chymorth.
Mae'r holl weithgareddau ac ymchwil yr ymrwymwyd iddynt o fewn Cam 1 wedi'u cwblhau. Yn awr, mae angen gwaith datblygu pellach ar sawl darn o waith a gychwynnwyd yn ystod y cyfnod hwn, a bydd y rhain yn cael sylw fel rhan o Gynllun Gweithredu Cam 2. Mae Cam 2 hefyd yn cyflwyno meysydd gweithgarwch newydd sy'n cyd-fynd yn uniongyrchol ag argymhellion y Grŵp Arbenigol.
Un o brif gyflawniadau Cam 1 oedd sefydlu'r Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth yn llwyddiannus o fewn Llywodraeth Cymru o fis Ebrill 2024, gan ddarparu arweinyddiaeth genedlaethol ac arwain y gwaith o ddiwygio gofal cymdeithasol, cydgysylltu cyflawni a sicrhau bod cynnydd wedi'i seilio ar gydweithredu, tystiolaeth, a phwrpas a rennir.
Ers ei sefydlu, mae'r Swyddfa Genedlaethol wedi bwrw ymlaen â nifer o ddatblygiadau sylweddol yn ein taith i ddiwygio gofal cymdeithasol, gan gynnwys y canlynol:
- Sefydlu Cod Ymarfer y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Comisiynu Gofal a Chymorth i ysgogi trawsnewid ym maes arferion comisiynu, fel bod ffocws ar arferion comisiynu moesegol ac o ansawdd da.
- Gweithio gyda'r Awdurdodau Lleol i ddatblygu data ynghylch galw a chapasiti mewn gofal cymdeithasol, a symud i gyhoeddi data ar StatsCymru o fis Mawrth 2026 ymlaen.
- Mae cefnogi'r gweithlu wedi bod yn ganolog:
- ein man cychwyn oedd y Cyflog Byw Gwirioneddol, ond nid dyna ddiwedd y daith – rydym wedi sefydlu partneriaeth gweithlu gofal cymdeithasol, y cyntaf o'i math yn y DU;
- drwy ddeddfwriaeth, rydym yn galluogi cytundebau cyflog teg ac yn sefydlu corff negodi tâl gofal cymdeithasol;
- rydym wedi sefydlu rôl i'r Gwasanaeth Cynghori Cenedlaethol i helpu gweithwyr tramor sydd wedi'u dadleoli;
- ac rydym wedi ymrwymo £1.5 miliwn o gyllid newydd i gefnogi cam cyntaf academi gofal cymdeithasol genedlaethol i Gymru.
Gan weithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid ar draws y sector, a thrwy gydgynhyrchu ystyrlon gyda phobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth a'u gofalwyr, mae'r Swyddfa Genedlaethol wedi cyflawni 25 o weithgareddau ac wedi ymgymryd â meysydd ymchwil. Bydd y dull cydweithredol, cyfranogol hwn yn parhau yn ein cynllun gweithredu Cam 2.
Rwy'n falch iawn o gyhoeddi adroddiad diweddaru a chynllun gweithredu Cam 2. Rwy'n falch o'r cynnydd sydd wedi'i wneud yng ngham cychwynnol ein taith tuag at wasanaeth gofal a chymorth cenedlaethol. Gobeithio y byddwch yn barod i gydnabod gyda mi y cynnydd sylweddol a wnaed hyd yma, a'r cyflawniadau sylweddol a gyflawnwyd drwy weithio cynhwysol a chydweithredol ledled Cymru. Gyda'n gilydd, rydym yn gosod y sylfeini ar gyfer Gwasanaeth Gofal a Chymorth Cenedlaethol cryfach, tecach a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
