Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
Mae gweithio mewn partneriaeth ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus yn hanfodol yng Nghymru. Dyma sut y byddwn yn manteisio i’r eithaf ar ein hadnoddau a rennir i gyflawni’r budd gorau posibl i’n pobl a’n cymunedau.
Mae Cyngor Partneriaeth Cymru (y Cyngor Partneriaeth) yn darparu cyfle allweddol i ganolbwyntio ar ein blaenoriaethau a rennir. Mae’n dwyn ynghyd Weinidogion Cymru, 22 o arweinwyr cyngor a chydweithwyr o bob rhan o’r gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru), y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, Un Llais Cymru, y Parciau Cenedlaethol, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a’r Gwasanaethau Tân ac Achub.
Yn unol â’n cyfrifoldebau o dan adran 73 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, roeddwn yn falch o osod adroddiad o’r enw Adolygiad o weithgareddau a chyflawniadau Cyngor Partneriaeth Cymru rhwng Ebrill 2022 a Mawrth 2026 yn y Senedd ddoe, i dynnu sylw at y meysydd hynny yr ydym wedi canolbwyntio arnynt yn y Cyngor Partneriaeth dros y pedair blynedd diwethaf. Mae’r adroddiad yn amlygu manteision gweithio mewn partneriaeth ar faterion fel newid hinsawdd, yr argyfwng costau byw, siarter budd-daliadau Cymru, cydraddoldeb a chynhwysiant ar draws ein cymunedau a dyfodol ein systemau iechyd a gofal.
Hoffwn ddiolch i holl aelodau ac arsylwyr Cyngor Partneriaeth Cymru am eu cyfraniadau a’u gwaith tuag at wireddu’r cyflawniadau a oruchwyliwyd gan y Cyngor Partneriaeth. Mae eu hymrwymiad parhaus i weithio mewn partneriaeth yn cael ei werthfawrogi ac mae’n cyfrannu at ddarparu gwasanaethau a chanlyniadau gwell i bobl Cymru.
