Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae'r datganiad hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd sylweddol sydd wedi'i wneud o ran rhoi'r rhaglen Gofal Llygaid Digidol ar waith, gan gysylltu gwasanaethau gofal llygaid sylfaenol a gwasanaethau gofal llygaid ysbytai â'i gilydd. Erbyn diwedd y mis, yn sgil gwaith caled y byrddau iechyd, byddwn wedi cyflawni'r sylfeini digidol i foderneiddio gwasanaethau gofal llygaid.
O dan fframwaith Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol Cymru (WGOS), mae'r rhaglen Gofal Llygaid Digidol yn hyrwyddo cyswllt agosach rhwng gwasanaethau offthalmoleg mewn ysbytai a gwasanaethau optometreg gofal sylfaenol . Mae'n darparu'r seilwaith digidol y mae ei angen i hybu gwydnwch y gweithlu, gwella llif cleifion a rheoli risg glinigol yn briodol.
Mae dwy elfen graidd i'r rhaglen:
- Y cofnod electronig cenedlaethol am gleifion ar gyfer gofal llygaid – OpenEyes
- Y system atgyfeirio electronig genedlaethol – OPERAi
Gyda'i gilydd, maent yn galluogi rhannu gwybodaeth glinigol mewn amser real, prosesau atgyfeirio a brysbennu cenedlaethol cyson, ac ehangu gwasanaethau lefelau 4 a 5 WGOS yn ddiogel. Mae pob bwrdd iechyd wedi rhoi'r ddwy system ar waith – gan gynnwys cynefino optometryddion, yn llawn neu'n rhannol, i'r system OPERAi.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
OpenEyes: Mae'r modiwl glawcoma ar waith mewn clinigau offthalmoleg mewn ysbytai. Erbyn 4 Mai, bydd wedi cael ei roi ar waith mewn is-arbenigeddau eraill, cyn cael ei estyn i ofal sylfaenol.
OPERAi: Bydd y gwaith mapio prosesau offthalmoleg wedi'i gwblhau erbyn 6 Mehefin a disgwylir i'r llwybrau atgyfeirio digidol cwbl integredig fod yn weithredol erbyn 25 Mehefin, yn amodol ar ddilysu terfynol.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
OpenEyes: Disgwylir i'r modiwl glawcoma gael ei roi ar waith yr wythnos nesaf. Yna, bydd yn cael ei roi ar waith mewn is-arbenigeddau eraill erbyn mis Hydref 2026. Mae amserlenni ar gyfer ei roi ar waith mewn gwasanaethau gofal sylfaenol wrthi'n cael eu cwblhau.
OPERAi: Dyma'r safle peilot cenedlaethol ar gyfer y system a'r safle cyntaf i ddefnyddio OPERAi ar gyfer atgyfeiriadau byw. Byddant yn dechrau o 30 Mawrth ymlaen, a bydd llwybr atgyfeirio digidol cwbl integredig ar waith erbyn 1 Mai.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
OpenEyes: Mae'r modiwl glawcoma ar waith a bydd yn cael ei estyn i is-arbenigeddau eraill erbyn diwedd mis Mawrth. Yna, bydd yn cael ei roi ar waith mewn gwasanaethau gofal sylfaenol.
OPERAi: Bydd y gwaith mapio prosesau offthalmoleg wedi'i gwblhau erbyn 6 Mehefin a disgwylir i'r llwybrau atgyfeirio digidol cwbl integredig fod yn weithredol erbyn 25 Mehefin, yn amodol ar ddilysu terfynol.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
OpenEyes: Mae'r system ar waith yn llawn ym mhob is-arbenigedd offthalmig ac mae hefyd ar waith mewn gwasanaethau gofal sylfaenol.
OPERAi: Bydd cam mapio'r broses offthalmoleg wedi'i gwblhau erbyn 4 Mai a bydd llwybrau atgyfeirio wedi'u hintegreiddio'n llawn yn weithredol erbyn 25 Mai.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
OpenEyes: Bydd yn cael ei roi ar waith mewn dau faes is-arbenigedd mewn ysbytai o 30 Mawrth ymlaen, ac yna'n cael ei roi ar waith yn ehangach erbyn mis Awst 2026. Mae amserlenni ar gyfer ei roi ar waith mewn gwasanaethau gofal sylfaenol wrthi'n cael eu cwblhau.
OPERAi: Bydd cam mapio'r broses offthalmoleg wedi'i gwblhau erbyn 4 Mai a bydd llwybrau atgyfeirio wedi'u hintegreiddio'n llawn yn weithredol erbyn 25 Mai.
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
OpenEyes: Mae'r gwaith paratoi i alluogi defnyddio'r system mewn pedwar is-arbenigedd ar un safle gofal ysbyty wedi'i gwblhau a bydd y broses o'i rhoi ar waith yn dechrau mis nesaf. Bydd y broses o'i rhoi ar waith mewn gwasanaethau gofal sylfaenol wedi'i chwblhau erbyn mis Mawrth 2027.
OPERAi: Bydd y gwaith mapio prosesau offthalmoleg wedi'i gwblhau erbyn 6 Mehefin a disgwylir i'r llwybrau atgyfeirio digidol cwbl integredig fod yn weithredol erbyn 25 Mehefin, yn amodol ar ddilysu terfynol.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
OpenEyes: Mae'r system ar waith ar draws holl adrannau gofal llygaid ysbytai a disgwylir cwblhau'r broses o'i rhoi ar waith mewn gwasanaethau gofal sylfaenol erbyn 25 Mai.
OPERAi: Bydd cam mapio'r broses offthalmoleg wedi'i gwblhau erbyn 4 Mai a bydd llwybrau atgyfeirio wedi'u hintegreiddio'n llawn yn weithredol erbyn 25 Mai.
