Neidio i'r prif gynnwy

Mae cysylltiadau digidol 1,000 eiddo ledled Cymru wedi'u trawsnewid diolch i ail-lansio cynllun grant Allwedd Band Eang Cymru (ABC) Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r cynllun yn darparu grantiau ar gyfer gosod cysylltiadau band eang mewn cartrefi a busnesau yng Nghymru nad oedd modd iddynt gael cysylltiad drwy unrhyw ffordd arall.

Mae hyd at £800 o gyllid ar gael i bob eiddo, i dalu am gost yr offer a chostau gosod.

Cafodd y cynllun ei ail-lansio y llynedd ar ôl seibiant i ystyried ei waith. Ers hynny, mae mwy o grantiau yn cael eu prosesu a hynny’n gyflymach. Mae cost yr hawliad ar gyfartaledd hefyd wedi gostwng yn dilyn y newidiadau gafodd eu gwneud, sy'n golygu y gall mwy o bobl elwa.

Am flynyddoedd, roedd band eang araf yn broblem i David Hedges a'i bartner yn eu cartref ecogyfeillgar yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin. Fel un sy'n gweithio gartref, roedd hyn yn aml yn effeithio ar ei gyfarfodydd rhithwir a'i weminarau. Roedd hefyd yn golygu bod y gwasanaeth ffrydio i'w deledu yn anwadal.

Disgrifiodd David effaith 'amhrisiadwy' cynllun ABC ar eu bywydau.

Dywedodd David:

Rydym bellach yn gallu lawrlwytho mor gyflym â 150 a 450 Mbps yn rheolaidd. Bydden ni'n lwcus i gael 30 Mbps trwy gysylltiad 4G o'r blaen, gan nad oedd band eang ffeibr ar gael i ni.

Mae mynediad i'r rhyngrwyd yn rhan mor ganolog o'n bywydau fel bod cael gwasanaeth cyflym, dibynadwy wedi chwalu'r rhwystrau o ran archebu nwyddau a gwasanaethau, gwneud apwyntiadau, gallu cael galwadau ffôn di-dor a'r holl fanteision y mae pobl mewn trefi a dinasoedd yn eu cymryd yn ganiataol.

Fe wnaethom ni osod y system ein hunain a oedd ychydig yn gymhleth gan fod ein cartref ecogyfeillgar wedi'i gynllunio i fod yn aerglos. Roedd yn rhaid i ni osod dysgl lloeren yn uchel hefyd, i sicrhau ei fod uwchben y coed cyfagos, ond i'r rhan fwyaf o ddefnyddwyr eraill mater o osod y ddysgl lloeren i'w heiddo a rhedeg cebl yn uniongyrchol trwy wal fyddai'r broses."

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:

Mae cysylltiad band eang cyflym, dibynadwy yn hanfodol i fyw bywyd modern.

Cafodd y cynllun ABC ei greu i sicrhau nad oes unrhyw un yng Nghymru yn cael ei adael ar ôl yn ein cymdeithas ddigidol – gan gynnwys y rhai yn y lleoedd anoddaf eu cyrraedd.

Mae cyrraedd y garreg filltir o 1,000 eiddo yn dangos bod y cynllun yn cyflawni dros bobl ledled Cymru, ac yn helpu i wella’u bywydau trwy ddarparu cyflymder y cysylltiad â’r rhyngrwyd sydd ei angen arnyn nhw.

I ddysgu mwy am gynllun Allwedd Band Eang Cymru Llywodraeth Cymru a'r atebion sydd ar gael i chi ar gyfer cael band eang cyflymach ewch i Band eang yng Nghymru.