Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth gefnogol gyffredinol

Diben Adran 7

Rhestr Adran 7 yw'r rhestr statudol o rywogaethau a chynefinoedd sydd o'r pwysigrwydd pennaf at ddibenion cynnal a gwella bioamrywiaeth yng Nghymru, a sefydlwyd o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Rhaid i Weinidogion Cymru gymryd pob cam rhesymol i gynnal a gwella'r organeddau byw a'r mathau o gynefinoedd a geir mewn unrhyw restr a gyhoeddir o dan yr adran hon, ac annog eraill i gymryd yr un camau. Rhaid i awdurdodau cyhoeddus, wrth gydymffurfio â'u dyletswydd Adran 6, “roi sylw” i'r rhestr hon wrth ymgymryd â'u swyddogaethau, gan sicrhau bod anghenion rhywogaethau a chynefinoedd â blaenoriaeth yn cael eu hystyried wrth wneud penderfyniadau.

Rheswm dros y diweddariad cyfredol 

Pan ddaeth Deddf yr Amgylchedd (Cymru) i rym yn 2016, mabwysiadwyd y rhestr Adran 42 flaenorol o rywogaethau a chynefinoedd o bwysigrwydd pennaf ar gyfer cadwraeth yng Nghymru o dan Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 i ddod yn rhestr Adran 7 Dros Dro. Mae hon bellach wedi'i diweddaru i adlewyrchu'r dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf ar gynefinoedd a rhywogaethau a'u statws cadwraeth.

Mae'r rhestr yn tynnu ar dystiolaeth megis newidiadau o ran maint cynefinoedd, a phwysau sy'n dod i'r amlwg fel newid hinsawdd, rhywogaethau goresgynnol, a newid defnydd tir. Mae diweddaru'r rhestr yn sicrhau bod dull gweithredu Llywodraeth Cymru (LlC) o ran adfer natur yn parhau i fod wedi'i dargedu, yn gadarn ac yn cyd-fynd ag arferion gorau yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Cyfrifoldebau dros ddiweddaru'r rhestr

Llywodraeth Cymru sy'n arwain y broses ddiweddaru, gan ddefnyddio cyngor ecolegol arbenigol gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a thystiolaeth gan sefydliadau arbenigol. Mae'r diweddariad yn adlewyrchu adolygiad gwyddonol wedi'i gefnogi gan arbenigedd a'r dystiolaeth orau sydd ar gael.

Newidiadau a gynigir yn y rhestr

Mae'r rhestr wedi'i diweddaru yn cynnwys cyfres o ychwanegiadau, dileadau a gwelliannau yn seiliedig ar dystiolaeth newydd a phresennol o angen cadwraeth. Mae'r newidiadau yn cynnwys rhywogaethau sydd wedi profi dirywiad sylweddol, rhywogaethau sydd newydd eu cydnabod fel rhai dan fygythiad, a diweddariadau i grwpiau cynefinoedd i adlewyrchu gwell dealltwriaeth ecolegol. Mae'r newidiadau hyn yn sicrhau bod y rhestr yn parhau i fod yn gynrychiolaeth gywir o fioamrywiaeth sydd fwyaf dan fygythiad yng Nghymru.

Meini prawf

Datblygwyd y rhestr Adran 7 wedi'i diweddaru gan ddefnyddio proses ddethol dau gam. Yn gyntaf, roedd yn rhaid i bob rhywogaeth neu gynefin ddigwydd yn naturiol yng Nghymru ac, ar gyfer rhywogaethau, roedd yn rhaid iddynt fod yn frodorol ac yn preswylio, yn bridio, yn gaeafu neu'n bwydo fel arfer yma yn hytrach na bod yn grwydrol. Yna, aseswyd y rhai a oedd yn bodloni'r prawf hwn ar gyfer eu pwysigrwydd ehangach neu'r lefel o fygythiad iddynt. Roedd nodwedd yn gymwys os cydnabuwyd ei bod yn bwysig yng nghyd-destun Cymru, y DU, Ewrop neu'n fyd-eang. Er enghraifft, y rhai a restrir o dan ddeddfwriaeth ryngwladol neu ddomestig berthnasol fel y Gyfarwyddeb Cynefinoedd neu os cafodd ei hasesu fel un dan fygythiad ar y Rhestrau Coch perthnasol, gan gynnwys categorïau mewn Perygl Difrifol, mewn Perygl neu Dan Fygythiad. Yn sgil asesiadau bygythiad cyfyngedig ar gyfer llawer o dacsonau morol, defnyddiwyd lwfans morol penodol lle cynhwyswyd rhywogaethau a aseswyd fel rhai Dan Beth Bygythiad hefyd lle roedd tystiolaeth yn dangos tuedd ddirywiol.

Cynefinoedd a rhywogaethau 

Nid yw cynnwys ar y rhestr yn creu troseddau neu weithdrefnau rheoleiddio newydd. Yn hytrach, mae'n cryfhau'r ddyletswydd gyfreithiol ar awdurdodau cyhoeddus i ystyried y rhywogaethau a'r cynefinoedd hyn wrth ddatblygu polisïau, cynlluniau, camau rheoli tir neu benderfyniadau grantiau. Mae'r rhestr yn gweithredu fel offeryn gosod blaenoriaethau i sicrhau bod yr elfennau mwyaf dan fygythiad o fioamrywiaeth Cymru yn cael sylw a chymorth priodol.

Gellir defnyddio rhestr Adran 7 i helpu i arwain y canlynol: 

  • penderfyniadau cynllunio a datblygu,
  • dulliau rheoli tir,
  • cynlluniau buddsoddi a grantiau,
  • cynlluniau gweithredu bioamrywiaeth lleol,
  • monitro ac adrodd.

Beth mae'r awdurdodau cyhoeddus angen eu wneud 

Rhaid i awdurdodau cyhoeddus perthnasol geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth ac, wrth wneud hynny, hyrwyddo gwydnwch ecosystemau wrth arfer eu swyddogaethau yng Nghymru (dyletswydd Adran 6 yn Neddf 2016) ac, yn unol â'r ddyletswydd hon, rhaid iddynt roi sylw i'r rhestr Adran 7 wedi'i diweddaru. Mae hyn yn golygu integreiddio ystyriaethau bioamrywiaeth i'w gweithrediadau fel cynllunio, grantiau, seilwaith, trwyddedu, rheoli tir, caffael, a dangos hyn yn eu hadroddiadau bioamrywiaeth gofynnol.

Er nad yw'r diweddariad yn cyflwyno mecanweithiau cyfreithiol newydd, mae'n darparu mwy o eglurder ar y rhywogaethau a'r cynefinoedd y dylid eu blaenoriaethu wrth wneud penderfyniadau. Mae'n bosibl y bydd angen i awdurdodau cyhoeddus ystyried effeithiau posibl yn fwy rheolaidd, tynnu ar gyngor ecolegol ac adlewyrchu'r blaenoriaethau wedi'u diweddaru mewn strategaethau bioamrywiaeth lleol, prosesau cynllunio a chamau rheoli tir.

Y sector preifat a busnesau yng Nghymru

Dim ond i Weinidogion Cymru ac awdurdodau cyhoeddus eraill sy'n arfer swyddogaethau mewn perthynas â Chymru sy'n dod o fewn y diffiniad yn adran 6(9) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 y mae dyletswydd Adran 6 yn berthnasol, felly nid yw'n ofynnol i fusnesau preifat roi sylw i'r rhywogaethau a'r cynefinoedd ar restr Adran 7. Fodd bynnag, os oes angen cydsyniad awdurdod cyhoeddus ar fusnes i gynnal gweithgaredd a allai effeithio ar rywogaeth neu gynefin ar y rhestr, er enghraifft cais cynllunio, yna rhaid i'r awdurdod cyhoeddus sy'n rhoi'r cydsyniad roi sylw i restr Adran 7 wrth arfer ei swyddogaethau. Wrth ymgymryd â gweithgareddau sy'n gofyn am gydsyniad gan awdurdodau cyhoeddus, anogir busnesau i osgoi effeithiau negyddol ar y rhywogaethau a'r cynefinoedd ar restr Adran 7 a fydd yn helpu gyda'r broses gydsynio.

Troseddau neu gyfyngiadau newydd

Nid yw'r rhestr ei hun yn gosod cyfyngiadau nac yn creu prosesau statudol newydd. Mae'r ddeddfwriaeth bywyd gwyllt bresennol yn parhau heb ei newid. Fodd bynnag, mae presenoldeb rhywogaethau neu gynefinoedd Adran 7 yn ystyriaeth berthnasol wrth wneud penderfyniadau, a disgwylir i awdurdodau cyhoeddus osgoi niwed lle bo'n bosibl a manteisio ar gyfleoedd i wella canlyniadau i fioamrywiaeth.

Cefnogaeth i adferiad natur yng Nghymru

Mae'r rhestr ddiwygiedig yn cryfhau'r gwaith o gyflawni Cynllun Gweithredu Adfer Natur Cymru ac yn ymateb i argymhellion yr Archwiliad Dwfn Bioamrywiaeth. Trwy nodi lle mae angen camau gweithredu brys, gall helpu i gyfeirio buddsoddiad trwy ariannu rhaglenni, gwella gwaith targedu ymyriadau rheoli, a chefnogi dulliau cydweithredol gyda rheolwyr tir, cyrff anllywodraethol amgylcheddol (eNGOs) a Phartneriaethau Natur Lleol. Mae hefyd yn helpu ein dealltwriaeth i adeiladu ecosystemau gwydn yn unol â gofynion Adran 6 a Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru), yn ogystal â'r nod ‘Cymru Gydnerth’ yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Goblygiadau ariannol neu oblygiadau o ran adnoddau i gyrff cyhoeddus

Nid yw'r diweddariad yn cyflwyno dyletswyddau statudol newydd. Fodd bynnag, gall helpu awdurdodau cyhoeddus i gyfeirio adnoddau presennol yn well tuag at rywogaethau a chynefinoedd blaenoriaeth. Mae hefyd yn cyd-fynd â'r defnydd strategol o ffrydiau cyllido Llywodraeth Cymru, sy'n cefnogi camau adfer natur sy'n gysylltiedig â dyletswydd Adran 6 a rhestr Adran 7.

Mae'r rhestr wedi'i diweddaru yn helpu awdurdodau cyhoeddus ac eraill i wneud defnydd mwy strategol o'r canlynol: 

  • Partneriaethau Natur Lleol,
  • Rhaglenni cyllido natur,
  • Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy
  • Polisi Cynllunio Cymru

Cyfathrebu yn ehangach gyda rhanddeiliaid

Bydd y rhestr wedi'i diweddaru yn cael ei chyhoeddi ar wefan Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru, gan ddisodli'r rhestr dros dro flaenorol. Bydd hefyd yn cael ei chyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru gyda'r ddogfen Cwestiynau Cyffredin hon i sicrhau cysondeb wrth ei rhoi ar waith ar draws sectorau.

Bydd deunyddiau cyfathrebu ar gyfer rhanddeiliaid allweddol fel Awdurdodau Lleol, Cyrff Cyhoeddus, Partneriaethau Natur Lleol, cyrff anllywodraethol amgylcheddol a gweithgorau sydd â diddordeb yn ategu'r rhestr gyhoeddedig.

Pryd fydd y rhestr Adran 7 wedi'i diweddaru yn dod i rym?

Bydd y rhestr Adran 7 wedi'i diweddaru yn dod i rym ar ôl ei chyhoeddi yn ffurfiol. Bydd disgwyl i gyrff cyhoeddus integreiddio'r newidiadau i'w cylchoedd cynllunio a'u gofynion adrodd.

Gwybodaeth gefnogol technegol

Datblygiad technegol y rhestr Adran 7 wedi'i diweddaru

Gwnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) arwain Cam 1 o waith datblygu rhestr ar gyfer Llywodraeth Cymru (LlC), gan weithio gyda grŵp technegol mewnol (arweinwyr gwydnwch ecosystemau morol, dŵr croyw a'r tir) ac ymgysylltu ag arbenigwyr allanol (gan gynnwys aelodau Cyswllt Amgylchedd Cymru) drwy weithdai wedi'u hwyluso. 

Gwnaeth y rhaglen gyffredinol gynnwys:

  • Cam 1 (CNC): mireinio/profi dull dethol, llunio rhestrau drafft, gwirio gydag arbenigwyr allanol o ran synnwyr, a chwblhau gwaith Sicrhau Ansawdd. Gwnaeth y cam hwn gynnwys adolygu polisi dros dro ac adborth gan LlC;
  • Cam 2 (LlC): adolygiad polisi terfynol, canllawiau a gwaith fformatio'r cyhoeddiad, cymeradwyaeth gan y Gweinidog;
  • Cam 3 – Camau nesaf (LlC, CNC a phartneriaid): ymwybyddiaeth, integreiddio i waith cyflawni (Cynlluniau Gweithredu Adfer Natur (NRAP), targedau bioamrywiaeth statudol). 

Rhif o dacsonau a chynefinoedd a ystyriwyd a graddfa'r newid

Asesodd CNC 3,156 o rywogaethau ar draws grwpiau morol, dŵr croyw a'r tir, gan arwain at 1,322 o rywogaethau arfaethedig i'w cynnwys (i fyny o 557 o rywogaethau ar restr dros dro Adran 7, a droswyd o'r hen restr Adran 42). Mae cyfanswm o 69 math o gynefinoedd arfaethedig i'w cynnwys (50 ar y tir/dŵr croyw a 19 morol), i fyny o 55 ar restr dros dro Adran 7, a droswyd o'r hen restr Adran 42). Mae hwn yn gynnydd sylweddol ac o ganlyniad i ddata newydd sydd ar gael a'r dull asesu systematig a gymerwyd i bennu statws rhywogaethau a chynefinoedd sy'n digwydd yng Nghymru.

Nid yw'n bosibl cymharu'n uniongyrchol gyfanswm y rhywogaethau ar y rhestr Adran 7 newydd a'r rhai ar y rhestr dros dro flaenorol gan fod y rhestr dros dro (a oedd yn deillio o'r rhestr Adran 42 wreiddiol) yn cynnwys rhai casgliadau o rywogaethau, tra bod y rhestr ddiwygiedig arfaethedig yn cynnwys rhywogaethau unigol yn unig. Fodd bynnag, roedd y cynnydd mwyaf yn nifer y planhigion fasgwlaidd (+232, cynnydd o 300%), infertebratau (+277, cynnydd o 147%), adar (+88, cynnydd o 173%) a ffyngau (+79, cynnydd o 293%). Cynyddodd rhywogaethau morol hefyd (+16, cynnydd o 29%) tra nad oedd unrhyw newid cyffredinol ar gyfer herps a physgod dŵr croyw a mudol.

Pam na chafodd rhai rhywogaethau dros dro eu tynnu hyd yn oed os nad oeddent yn bodloni'r profion newydd?

Yn dilyn adborth a thrafodaeth gydag arweinwyr polisi LlC mabwysiadwyd dull rhagofalus. Ni fyddai unrhyw rywogaethau ar y rhestr dros dro heb dystiolaeth o duedd adfer gadarnhaol yn cael eu tynnu yng Ngham 1, hyd yn oed os na fyddai'r profion newydd wedi'u bodloni'n llawn. Pan fo'r meini prawf yn cael eu bodloni neu pan nad oes tystiolaeth adfer, mae'r rhywogaethau hyn wedi'u cadw gyda chyfiawnhad wedi'i gofnodi. 

Pa waith sicrhau ansawdd a newidiadau dilynol a wnaed ar ôl drafftio?

Defnyddiodd CNC brosesau sicrhau ansawdd mewnol i sicrhau cysondeb ac i drwsio hepgoriadau/gwallau technegol. Ar ôl cyflwyno i LlC, gwnaed diweddariadau pellach wrth i dystiolaeth newydd ddod i'r amlwg, gan gynnwys:

  • +19 rhywogaeth forol (18 pysgodyn, 1 morlo) a oedd yn gymwys o dan y meini prawf;
  • Cadw 4 o deulu'r morfil a oedd wedi'u trin yn anghywir fel rhywogaethau crwydrol (sydd bellach yn cael eu cydnabod fel rhai prin);
  • Diweddaru'r rhestr adar i adlewyrchu Adar o Bryder Cadwraethol yng Nghymru 4;
  • Ychwanegu Afanc, gan adlewyrchu newidiadau sydd ar y gweill i'w statws cyfreithiol.  

Beth yw ffridd a pham y cafodd ei chynnig fel cynefin Adran 7?

Tir pontio yw ffridd a geir ar lethrau rhwng tir fferm wedi'i amgáu a thir pori ar yr ucheldir. Mae cynefinoedd o fewn y ffridd fel arfer yn cynnwys clytwaith o goetir pori, rhedyn, rhos, a glaswelltir. Gyda'i gilydd, mae'r cynefinoedd hyn yn darparu gwerth bioamrywiaeth uchel trwy gefnogi ystod ehangach o rywogaethau nag unrhyw gynefin unigol ar ei ben ei hun a thrwy gryfhau cysylltedd ecolegol rhwng tirweddau'r iseldir a'r ucheldir.

Pam na chafodd ffridd ei chynnwys yn y rhestr wedi'i diweddaru?

Ar raddfa'r dirwedd y gellir deall gwerth bioamrywiaeth pwysig ffridd orau, ac mae'n deillio o'r cyfuniad a'r rhyngweithio rhwng sawl cynefin, yn hytrach nag o un math o gynefin gwahanol ynddo'i hun. Mae'r cynefinoedd craidd sy'n ffurfio ffridd eisoes wedi'u cynnwys yn unigol ar restr Adran 7. Yn ogystal, yn wahanol i gynefinoedd eraill sydd wedi'u cynnwys ar y rhestr, nid oes gan ffridd gymuned o blanhigion unigryw neu ecsgliwsif ac nid yw'n cael ei chydnabod fel cynefin annibynnol o fewn systemau dosbarthu cynefinoedd ffurfiol – fel Cam 1 ac UKHab. Am y rhesymau hyn, nid chafodd ffridd ei chynnwys ar y rhestr wedi'i diweddaru. 

Adolygiad yn y dyfodol i reoli newid 

Mae gwaith Cam 3 yn cynnwys gosod mecanwaith adolygu ar gyfer achosion ffiniau rhwng gwledydd y DU, tacsonau sy'n ddiffygiol o ran data, diffiniadau bygythiad diwygiedig, ychwanegiadau/dileadau ad hoc, a sut i dderbyn rhywogaethau sydd newydd ddigwydd neu wedi'u hailgyflwyno yn ogystal â chylchoedd adolygu rheolaidd. Bydd y gwaith hwn yn cael ei arwain yn bennaf gan sbardunau tystiolaeth a phaneli arbenigol.