Cyfarfod Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol, 25 Chwefror 2026: gweithredoedd y cyfarfod diwethaf
Gweithredoedd yn codi o'r cyfarfod blaenorol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyfarfod 9: 3 Rhagfyr 2025
Eitem 8: cofnodion/materion sy’n codi
Ysgrifenyddiaeth i ailystyried sut y gellir ymdrin â datganiadau’r Cyngor.
Perchennog: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor.
Parhaus.
Eitem 7: cyfarfod nesaf y cyngor
Ysgrifenyddiaeth y Cyngor i drefnu cyfarfod y Gwanwyn .
Perchennog: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor.
Cwblhawyd.
Eitem 6: canfyddiadau cynnar yr adroddiadau Partneriaeth Gymdeithasol a gyhoeddwyd
Ysgrifenyddiaeth y Cyngor i ddrafftio llythyr i’r Gweinidog i’w anfon i’r cyrff cyhoeddus hynny nad ydynt eto wedi cyflwyno eu hadroddiad Partneriaeth Gymdeithasol ar gyfer 24-25.
Perchennog: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor.
Cwblhawyd: anfonwyd llythyr i’r cyrff cyhoeddus ar 18 Rhagfyr 2025.
Eitem 5: diweddariad gan y Grŵp Cyflawni AI
Ysgrifenyddiaeth y Cyngor i sicrhau diweddariadau gan y Grŵp Cyflawni AI wrth i’w waith fynd rhagddo.
Perchennog: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor.
Parhaus: mae diweddariad gan y Cadeiryddion wedi’i gyflwyno ar gyfer cyfarfod mis Chwefror (SPC 10-05).
Eitem 3: aelodaeth yr Is-grŵp Caffael
MCSSP i ysgrifennu at y Prif Weinidog yn ei hysbysu bod y Cyngor wedi cytuno ar aelodaeth yr Is-grŵp Caffael.
Perchennog: Swyddogion Llywodraeth Cymru.
Cwblhawyd: hysbyswyd y Prif Weinidog ar 8 Rhagfyr.
Eitem 2: Y Gronfa Twf Lleol
Aelodau’r Cyngor i rannu ymgynghoriad LGF gyda’u rhwydweithiau/rhanddeiliaid.
Perchennog: Aelodau’r Cyngor.
Cwblhawyd: daeth yr ymgynghoriad i ben ar 19 Rhagfyr.
Cyfarfod 8: 22 Medi 2025
Eitem 5: cynnig ar gyfer y camau nesaf ar AI
Ysgrifenyddiaeth y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol i sicrhau bod diweddariadau gan y Grŵp Cyflawni AI yn cael eu darparu yng nghyfarfodydd y Cyngor yn y dyfodol.
Perchennog: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor.
Parhaus: mae diweddariad gan y Cadeiryddion wedi’i gyflwyno ar gyfer cyfarfod mis Chwefror (SPC 10-05).
Eitem 3: Cyllideb Ddrafft 2026-27
Unwaith y bydd y gwaith gyda rhanddeiliaid wedi'i gwblhau, dylai swyddogion Llywodraeth Cymru roi diweddariad i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol yn dangos pa fesurau lliniaru sy'n cael eu cynllunio pe bai Cyllideb wedi'i hailddatgan yn cael ei phasio.
Perchennog: Swyddogion Llywodraeth Cymru.
Cwblhawyd: cytunwyd ar y Gyllideb gan y Senedd ar 27 Ionawr.
Eitem 2 ar yr agenda: Strategaeth Ddiwydiannol y DU
Swyddogion i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun ymgysylltu pan fydd ar gael.
Perchennog: Swyddogion Llywodraeth Cymru.
Parhaus: bydd y diweddariad yn cael ei rannu cyn gynted â phosibl.
Cyfarfod 6: 12 Mawrth 2025
Eitem 2: cyfrinachol: aelodau yn unig: Ymgynghoriad ar Flaenoriaethau Deddfwriaethol Gweinidogion Cymru
Yr aelodau i ddweud wrth Ysgrifenyddiaeth y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol os oes ganddynt syniadau am filiau technegol sy’n debygol o ennyn cefnogaeth drawsbleidiol y gellid eu cynnig i’w trafod yn y dyfodol ar ôl tymor presennol y Senedd.
Perchennog: Aelodau’r Cyngor.
Parhaus.
Cyfarfod 5: 5 Rhagfyr 2024
Eitem 2: Y Bil Hawliau Cyflogaeth
Ysgrifenyddiaeth y Cyngor i sicrhau bod diweddariadau rheolaidd yn cael eu darparu i'r Cyngor ar gynnydd y Bil Hawliau Cyflogaeth.
Perchennog: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor.
Cwblhawyd: cafodd y Bil Gydsyniad Brenhinol ar 18 Rhagfyr a daeth yn Ddeddf Hawliau Cyflogaeth.
Cyfarfod 1: 1 Chwefror 2024
Eitem 4: y dull arfaethedig o ddarparu gwybodaeth a chyngor gan y Cyngor i Weinidogion Cymru
Cytunodd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol i rannu pob un o’r 55 o adroddiadau partneriaeth gymdeithasol gan gyrff cyhoeddus (pan fyddant ar gael) gyda'r adroddiad cryno ar gyfer 2024/25 pe bai aelodau’r Cyngor yn dymuno eu gweld.
Perchennog: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor.
Parhaus: mae dolenni i’r holl adroddiadau cyhoeddedig wedi’u rhannu gyda’r aelodau.
Eitem 6: darpariaethau Caffael Cyhoeddus Cymdeithasol Gyfrifol Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023
SH i ystyried y ffordd orau o sicrhau bod y Cyngor yn cael ei ddiweddaru trwy sesiynau briffio technegol ar faterion caffael yn ogystal â datblygiad yr Is-grŵp Caffael.
Perchennog: Swyddog Llywodraeth Cymru.
Parhaus: mae papur ar aelodaeth yr Is-grŵp Caffael (SPC 09-03) wedi’i gyflwyno ar gyfer cyfarfod mis Rhagfyr. Rhoddwyd diweddariadau mewn cyfarfodydd blaenorol a chynhaliwyd sesiwn friffio technegol ar gaffael ar 24 Medi 2024 a chynigiwyd sesiwn arall i aelodau eleni.
