Neidio i'r prif gynnwy

Y cefndir

Ym mis Ionawr 2024, lansiodd Llywodraeth Cymru Siarter Budd-daliadau Cymru, sy’n nodi egwyddorion ar gyfer system fudd-daliadau sy’n dosturiol, yn gynhwysol, yn gydlynol ac sy’n canolbwyntio ar y person. I roi’r egwyddorion hyn ar waith, sefydlwyd Grŵp Llywio amlasiantaeth sy’n cynnwys Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, CLlLC, y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol, a phartneriaid y trydydd sector.

Mae Trywydd Cam 1 yn canolbwyntio ar wella cydlyniaeth rhwng tri budd-dal a weinyddir gan awdurdodau lleol: Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, Prydau Ysgol Am Ddim a’r Grant Hanfodion Ysgol. Diffinnir llwyddiant Cam 1 fel cyflenwi’r budd-daliadau hyn yn fwy cydlynol ar draws pob awdurdod lleol, gan leihau dyblygu i hawlwyr fel bod gwybodaeth a thystiolaeth yn cael ei darparu unwaith, lle bynnag y bo modd. Fel rhan o Flaenoriaeth 3 o dan yr amcan strategol o system budd-daliadau Cymru sy’n addas ar gyfer y dyfodol, comisiynwyd ymchwil gymdeithasol i helpu i ddatblygu Damcaniaeth Newid sy’n mynegi sut y disgwylir i weithgareddau Cam 1 arwain at ganlyniadau ac effeithiau gwell, ac o dan ba amodau.

Methodoleg

Defnyddiodd yr ymchwil ddull cyd-adeiladu gyda rhanddeiliaid i helpu i ddatblygu Damcaniaeth Newid a rennir. Rhoddodd arolwg rhanddeiliaid gipolwg cychwynnol ar nodau, rhagdybiaethau a dichonoldeb. Archwiliodd gweithdai rhanddeiliaid effeithiau arfaethedig, canlyniadau realistig, gweithgareddau angenrheidiol, risgiau a chyfyngiadau. Roedd y cyfranogwyr yn cynnwys gweithwyr proffesiynol o Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, timau cyflawni, arbenigwyr digidol a data, a phartneriaid trydydd sector.

Canfyddiadau

Effeithiau arfaethedig

Cytunodd rhanddeiliaid yn gyffredinol y dylai’r prif newidiadau hirdymor fod fel a ganlyn: lleihau’r baich i hawlwyr drwy fynediad haws a chliriach at Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, Prydau Ysgol am Ddim a’r Grant Hanfodion Ysgol; llai o bobl gymwys yn colli allan; a phrofiad defnyddiwr mwy cyson ledled Cymru. Pwysleisiodd llawer fod yn rhaid i unrhyw effaith honedig fod yn gredadwy, yn gymesur ac yn ymwybodol o’r dystiolaeth, yn enwedig o ystyried y cyfyngiadau yn y data sylfaenol.

Canlyniadau

Heriodd rhanddeiliaid y syniad bod cais sengl yn fesur ystyrlon o lwyddiant. Fe wnaethon nhw bwysleisio nad yw un ffurflen o reidrwydd yn lleihau’r baich ar hawlwyr a gallai gynyddu ffrithiant i rai defnyddwyr. Yn hytrach, diffiniwyd llwyddiant yn nhermau llai o ffrithiant i hawlwyr trwy lai o ailadrodd cwestiynau, cyfathrebu’r meini prawf cymhwystra’n gliriach, osgoi ailgeisiadau diangen, a’i gwneud yn bosibl i rannu neu ailddefnyddio gwybodaeth lle bo hynny’n briodol yn hytrach na glynu at broses ymgeisio unffurf i bawb. Pwysleisiodd rhanddeiliaid nad yw unffurfiaeth yn gyfystyr â symlrwydd ac y gallai gorfodi pob defnyddiwr trwy un broses gynyddu’r baich i rai.

Ymysg y canlyniadau ychwanegol a nodwyd roedd mwy o geisiadau llwyddiannus a defnydd mwy cymesur o ddata ac awtomeiddio i hwyluso penderfyniadau rhagweithiol.

Gweithgareddau

Cynigiodd rhanddeiliaid y dylid symleiddio’n raddol fel ag y sy’n bosibl o dan y cyfyngiadau cyfredol: un ymholiad yn arwain at nifer o wiriadau cymhwystra, ailddefnyddio data neu raglenwi meysydd data pan mae’r wybodaeth yn hysbys, cadarnhau cymhwystra parhaus yn rhagweithiol, a llai o ddyblygu ceisiadau am dystiolaeth. Roedd cefnogaeth gref i ymgorffori gwaith gwerthuso a dysgu parhaus yn ogystal â chefnogaeth i weithredu gan awdurdodau lleol, gan gynnwys safonau cyflawni clir, mecanweithiau cyfarwyddyd a sicrwydd, a chymorth wedi’i dargedu ar gyfer awdurdodau â chapasiti is.

Mewnbynnau

Disgrifiwyd Cam 1 fel un mewnbwn uchel, yn enwedig o ran pobl a sgiliau. Roedd y mewnbynnau allweddol yn cynnwys dylunio gwasanaethau, ymchwil defnyddwyr, dadansoddi busnes a galluogrwydd data ochr yn ochr â phartneriaethau ar draws awdurdodau, Llywodraeth Cymru, y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol, y trydydd sector a phobl â phrofiad bywyd. Mae angen amser a mynediad i systemau ochr gefn i fapio prosesau a nodi achosion o ddyblygu. Nodwyd fod hyfforddiant a deunyddiau cyfathrebu dwyieithog, cyson hefyd yn fewnbynnau pwysig.

Rhagdybiaethau

Mae’r Ddamcaniaeth Newid yn dibynnu ar awdurdodau lleol yn ymgysylltu’n wirfoddol, staff â’r gallu i addasu prosesau, dulliau rhannu a dehongli data effeithiol, a llai o ffrithiant gan arwain at ganlyniadau gwell. Mynegwyd y rhagdybiaethau hyn yn ofalus yn aml, gyda chyfranogwyr yn nodi efallai na fyddant yn gyson ar draws pob un o’r 22 awdurdod.

Risgiau

Mae’r risgiau a nodwyd yn cynnwys cefnogaeth anghyson ymysg y gwahanol awdurdodau lleol, cyfyngiadau capasiti yn arwain at “ddilyn y llwybr rhwyddaf”, anghysondeb rhwng polisi a deddfwriaeth yn cyfyngu’r hyn y gellir ei symleiddio, a chanlyniadau anfwriadol o awtomeiddio neu benderfyniadau rhagweithiol heb fesurau diogelu cadarn.

Themâu trawsbynciol

Pwysleisiodd rhanddeiliaid mai profiad hawlwyr ddylai fod yn brif fesur llwyddiant, yn hytrach nag effeithlonrwydd ar lefel system. Blaenoriaethwyd sicrhau tegwch a chynhwysiant hefyd. Roedd pwyslais cryf ar fesur a dysgu parhaus, gan gynnwys bod yn dryloyw ynghylch bylchau tystiolaeth. Tynnodd rhanddeiliaid sylw at bwysigrwydd iaith sensitif a gofal wrth gyfathrebu am newid, gan nodi y gall mynegi gwelliannau fel tanberfformiad gan staff wneud i bobl deimlo’n ddigalon.

Goblygiadau

Yn gyffredinol, dylai Cam 1 Damcaniaeth Newid gredadwy ddiffinio llwyddiant ar sail llai o ffrithiant i hawlwyr, pwysleisio newid cynyddol a chymesur, trin data ac awtomeiddio fel galluogwyr, a bod yn ddiamwys ynghylch capasiti, risg a therfynau deddfwriaethol. Dylai’r gwaith monitro ganolbwyntio ar brofiad hawlwyr, wedi’i gefnogi gan dystiolaeth gymysg. Mae ail-fframio fel hyn yn cryfhau’r Ddamcaniaeth Newid trwy gysoni uchelgais â’r realiti cyflawni, gan ei gwneud yn fwy tebygol y bydd awdurdodau lleol yn rhoi cefnogaeth ac y bydd hawlwyr yn gweld gwelliannau go iawn.

Rhagor o wybodaeth