Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrhydeddus Eluned Morgan AS (Cadeirydd)
  • Huw Irranca-Davies AS
  • Jayne Bryant AS
  • Mark Drakeford AS
  • Rebecca Evans AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Lynne Neagle AS
  • Ken Skates AS
     
  • Dawn Bowden AS
  • Vikki Howells AS
  • Sarah Murphy AS
  • Jack Sargeant AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr, Swyddfa’r Prif Weinidog a Chyflawni
  • Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Victoria Jones, Prif Ysgrifennydd Preifat y Prif Weinidog
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Sinead Gallagher, Dirprwy Gyfarwyddwr, Swyddfa'r Cabinet
  • Luke Young, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Sarah Dickins, Cynghorydd Arbennig
  • Haf Davies, Cynghorydd Arbennig
  • Victoria Evans, Cynghorydd Arbennig
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Nadila Hussein, Cynghorydd Arbennig
  • Kirsty Keenan, Cynghorydd Arbennig
  • Jackie Jones, Cynghorydd Arbennig
  • Stephen Jones, Cynghorydd Arbennig
  • Philippa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Tal Michael, Cynghorydd Arbennig
  • Mary Wimbury, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Katie Mason, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • James Oxenham, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
  • Kath Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Sioned Evans, Prif Swyddog Gweithredu
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Strategaeth
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Ynni a Thrafnidiaeth
  • Jacqueline Totterdell, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd
  • Emma Williams, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg, Diwylliant a'r Gymraeg
  • Nicola Williams, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Dean Medcraft, Cyfarwyddwr Cyllid (eitem 4)
  • Sharon Bounds, Dirprwy Gyfarwyddwr, Rheolaeth Ariannol
  • Sian Gill, Pennaeth Rheolaeth Gyllidebol a Pholisi Ariannol (eitem 4)
  • Christopher Warner, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Ymarferwyr Ysgolion (eitem 5)
  • Awen Penri, Arweinydd Cynllun y Gweithlu, Addysg (eitem 5)
  • Thomas Smithson, Dirprwy Gyfarwyddwr, Strategaeth a Rheoleiddio Economaidd (eitem 6)
  • Nadine Young, Pennaeth Buddsoddi Rhanbarthol (eitem 6)

Eitem 1: Cofnodion y Cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 2 Chwefror 2026.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Digwyddiad Critigol mewn Ysgol yn Sir Benfro

2.1 Cyfeiriodd y Prif Weinidog at y digwyddiad critigol a oedd wedi'i ddatgan yn Ysgol Gyfun Aberdaugleddau y dydd Iau blaenorol, yn dilyn adroddiadau am ymosodiad ar athro gan ddisgybl yn cario arf.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Ystyriodd y Cabinet Grid y Cyfarfodydd Llawn gan nodi bod disgwyl i'r amser pleidleisio ddydd Mawrth fod oddeutu 5:15pm. Yna, yn dilyn, byddai Cyfnod 3 Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru). Roedd yr amser pleidleisio ddydd Mercher wedi'i drefnu ar gyfer 6:20pm.

Eitem 4: Ail Gyllideb Atodol 2025-2026

4.1 Cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet gymeradwyo Ail Gyllideb Atodol 2025-2026.

4.2 Cynyddodd yr adnoddau sydd ar gael £428m yn y gyllideb atodol hon. Mae'r cyllid yn cynnwys £371m mewn adnoddau refeniw; £53m o gyfalaf cyffredinol; a thrafodion ariannol gwerth £4m.

4.3 Byddai cynlluniau gwario'r prif grwpiau gwariant (MEGs) yn cynyddu £3.17bn. Roedd hyn yn bennaf oherwydd cynnydd yn y gyllideb nad yw'n arian parod o ganlyniad i newidiadau i'r Model Benthyciadau i Fyfyrwyr, a oedd bron yn £2.5bn.

4.4 Roedd nifer o ddyraniadau allweddol wedi'u gwneud o ganlyniad i'r gyllideb hon, gan gynnwys £126m ar gyfer effaith dyfarniadau cyflog y sector cyhoeddus, ar ben y £220m a ddyfarnwyd yn gynharach yn y flwyddyn i wrthbwyso'r cynnydd yng nghyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr. Roedd y rhain wedi'u hymgorffori yn y llinell sylfaen ar gyfer dyraniadau 2026-2027.

4.5 Roedd £200m i'r MEG Iechyd a Gofal Cymdeithasol i gefnogi gwasanaethau rheng flaen y GIG, i helpu i leihau amseroedd aros a gwella diagnosteg ac roedd dyraniad cyfalaf cyffredinol o £72.2m i'r MEG Trafnidiaeth i helpu i ddatgarboneiddio'r fflyd trenau.

4.6 Yn ogystal, roedd y gyllideb yn amlinellu £60.5m o gyfalaf ychwanegol ar gyfer y MEG Addysg. Roedd hyn yn cynnwys y dyraniad o £20m a wnaed yn gynharach yn y flwyddyn i gynorthwyo â chostau atgyweirio a chynnal a chadw mewn ysgolion a sefydliadau addysg bellach.

4.7 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.

Eitem 5: Cynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu Addysg mewn Ysgolion

5.1 Cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet gymeradwyo'r Cynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu Addysg mewn Ysgolion.

5.2 Roedd gweithlu cryf, hyderus sydd wedi’i gefnogi’n dda yn hanfodol i’r gwaith o godi safonau ar draws ysgolion, gan alluogi pob dysgwr yng Nghymru i ffynnu a chyrraedd ei lawn botensial. Roedd athrawon, arweinwyr, cynorthwywyr addysgu, staff cymorth a’r gweithwyr proffesiynol arbenigol sy’n gweithio ochr yn ochr â nhw yn llunio cyfleoedd bywyd ein plant a’n pobl ifanc bob dydd. Roedd eu hymrwymiad, eu proffesiynoldeb a’u caredigrwydd yn ganolog i’r system addysg.

5.3 Roedd gan Gymru weithlu eithriadol, ond roedd angen mynd i'r afael â'r heriau parhaus yr oeddent yn eu hwynebu, wrth gyflawni blaenoriaethau addysg y Llywodraeth.

5.4 Roedd Cynllun y Gweithlu yn nodi ystod gynhwysfawr o gamau gweithredu i gefnogi'r gweithlu presennol a gweithlu'r dyfodol, ac yn mynd i'r afael hefyd â'r ystod o ffactorau sy'n effeithio ar recriwtio a chadw athrawon, arweinwyr a staff cymorth.

5.5 Roedd pwysau llwyth gwaith cynyddol yn effeithio ar amser a chyfleoedd i gymryd rhan mewn dysgu proffesiynol ac i ymgymryd â thasgau cynllunio a gweinyddol perthnasol.  Roedd anghenion iechyd cymhleth cynyddol dysgwyr, a newidiadau yn nisgwyliadau cymdeithas o'r hyn y dylai ysgolion ei wneud, yn cael effaith hefyd. Roedd yn bwysig hyrwyddo'r proffesiwn yn well fel gyrfa a oedd yn cynnig llu o gyfleoedd i unigolion.

5.6 Roedd y Cynllun hefyd yn adlewyrchu argymhellion adroddiad Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd ar Recriwtio a Chadw Athrawon.

5.7 Roedd y Cynllun wedi'i ddatblygu gyda phartneriaid allweddol, gan gynnwys Awdurdodau Lleol ac Undebau Llafur y gweithlu addysg, i ganolbwyntio ar gamau gweithredu yr oedd angen eu cymryd ar y cyd i wella amodau i staff.

5.8 Roedd y Llywodraeth wedi ymgysylltu'n helaeth ag ymarferwyr o'r gweithlu addysg. Roedd cyfanswm o 30 o grwpiau ffocws wedi cynnal, ar-lein ac wyneb yn wyneb, fel rhan o'r gwaith ymgysylltu â'r gweithlu addysgu. Roedd y rhain wedi rhoi cyfleoedd i'r ymarferwyr drafod ystod o bynciau, gan gynnwys materion yn eu gwaith o ddydd i ddydd, gweithio hyblyg a llesiant.

5.9 Law yn llaw â'r grwpiau ffocws, cafwyd cyfanswm o 520 o ymatebion i arolwg ar-lein a gwblhawyd gan ymarferwyr ysgolion. Yn ogystal, ystyriwyd barn 36 o unigolion sy'n gweithio yn y gweithlu arbenigol, gan gynnwys athrawon arbenigol, Seicolegwyr Addysg, Swyddogion Cynhwysiant a gweithwyr adsefydlu proffesiynol.

5.10 Croesawodd y Cabinet y papur, ac yn benodol yr egwyddorion yn y Cynllun a oedd yn golygu y byddai angen i bob ymarferydd ddeall pwysigrwydd canolog y Gymraeg a diwylliant Cymru a chynrychioli'r holl feysydd amrywiol y maent yn eu gwasanaethu, gan gynnwys cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

5.11 Cymeradwyodd y Cabinet y papur a nododd y byddai'r Cynllun yn cael ei gyhoeddi yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 16 Mawrth.

Eitem 6: Cynllun Buddsoddi Drafft y Gronfa Twf Lleol

6.1 Cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet nodi canfyddiadau allweddol yr ymgynghoriad cyhoeddus chwe wythnos a chytuno ar y Cynllun Buddsoddi Drafft ar gyfer y Gronfa Twf Lleol cyn iddo gael ei gyflwyno i Lywodraeth y DU.

6.2 Roedd y Gronfa Twf Lleol yng Nghymru yn disodli'n rhannol y cyllid a arferai ddod o'r UE, ac roedd y broses o wneud penderfyniadau ynglŷn â’r gronfa yn dychwelyd i Lywodraeth Cymru. Roedd Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y byddai £547m ar gael dros dair blynedd o fis Ebrill 2026.

6.3 Fodd bynnag, her allweddol o ran cyflawni fyddai bod Llywodraeth y DU yn mynnu bod rhaniad o 70-30 rhwng cyfalaf a refeniw, a'r ffenestr wario dair blynedd. Er bod yr achos wedi'i wneud i Weinidogion y DU, ni fyddent yn newid eu safbwynt, gan eu bod o'r farn bod y rhaniad yn cael ei gymhwyso ledled y DU. 

6.4 Roedd y Llywodraeth wedi ceisio lliniaru'r effaith ar Lywodraeth Leol drwy gyflwyno blwyddyn bontio yn 2026-2027, gan gynnig hyblygrwydd cyllidebol ychwanegol a defnydd hyblyg o dderbyniadau cyfalaf. Ar ben hynny, roedd y Gyllideb wedi darparu cyllid ychwanegol i Awdurdodau Lleol, ac roedd Llywodraeth y DU wedi ymestyn y Gronfa Ffyniant Gyffredin  am chwe mis er mwyn caniatáu mwy o amser i gau'r rhaglenni.

6.5 Byddai'r dull hwn yn wahanol i Loegr a'r Alban, gan nad oedd y naill na'r llall o'r gwledydd hynny yn elwa ar gyfnod pontio, ac ni fyddai gan rai Awdurdodau Lleol fynediad at gyllid Twf Lleol ar ôl i'r Gronfa Ffyniant Gyffredin ddod i ben.

6.6 Roedd yr ymgynghoriad wedi denu mwy na 150 o ymatebion ffurfiol ac roedd dros 200 o bobl wedi dod i ddigwyddiadau ymgynghori rhanbarthol. Roedd y canfyddiadau hyn yn ategu adborth gan y Grŵp Llywio, gwersi o raglenni blaenorol, y gwaith gyda'r OECD, a dadansoddiad economaidd-gymdeithasol.

6.7 Prif nod y Cynllun Buddsoddi oedd cefnogi twf cynhyrchiant, gan ganolbwyntio ar feysydd lle byddai cyllid yn cael yr effaith fwyaf.

6.8 Ar y cyfan, roedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn cefnogi'r cynnig i'r Cyd-bwyllgorau Corfforedig gynllunio buddsoddi rhanbarthol; fodd bynnag, roedd pryderon am gapasiti, parodrwydd a gallu'r Cyd-bwyllgorau i weithio gyda gwahanol bartneriaid. I gefnogi'r gwaith o ddatblygu'r Cyd-bwyllgorau a chynlluniau rhanbarthol, byddai £200,000 o refeniw yn cael ei ddyrannu o'r Gronfa Twf Lleol i bob Cyd-bwyllgor yn y flwyddyn gyntaf ar gyfer cynllunio a datblygu capasiti yn ystod y cyfnod pontio.

6.9 Croesawodd y Cabinet y papur.

6.10 Cymeradwyodd y Cabinet argymhellion y papur.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Chwefror 2026