Neidio i'r prif gynnwy

Manylion yr adroddiad

Comisiynwyd yr adolygiad hwn fel rhan o gylch gwaith blynyddol Estyn ar gyfer 2025 i 2026, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. 

Pwrpas yr adolygiad oedd gwerthuso natur ac effeithiolrwydd y cyngor ariannol, yr wybodaeth a'r hyfforddiant y mae awdurdodau lleol yn eu darparu i gefnogi ysgolion a gynhelir gyda’u cynllunio ariannol strategol a rheoli eu cyllideb.

Nid yw Estyn wedi cyhoeddi adolygiad thematig ar y thema hon o'r blaen.

Crynodeb o'r prif ganfyddiadau

Mae awdurdodau lleol ledled Cymru yn parhau i arddangos ymrwymiad cryf i gefnogi ysgolion i reoli amgylcheddau ariannol cynyddol gymhleth. Mae ysgolion yn gwerthfawrogi proffesiynoldeb, ymatebolrwydd ac arweiniad ymarferol swyddogion cyllid, ac mae'r cysylltiadau dibynadwy hyn yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer rheoli cyllidebau yn effeithiol o ddydd i ddydd.

Canfu'r adroddiad bod awdurdodau lleol yn darparu cymorth ariannol gweithredol cryf, gydag ysgolion yn mynegi hyder yn y cyngor ymarferol maen nhw'n ei dderbyn. Fodd bynnag, mae dyfnder strategol a chysondeb y gefnogaeth yn amrywio'n fawr. Lleiafrif o’r awdurdodau sy'n cynnig cynllunio ariannol cadarn, aml-flwyddyn neu aliniad clir rhwng penderfyniadau am gyllid, y cwricwlwm a’r gweithlu. Mewn llawer o ardaloedd, mae capasiti cyfyngedig a gweithio tameidiog ar draws gwasanaethau yn cyfyngu ar ymgysylltiad strategol dyfnach. 

Mae prosesau gosod cyllideb yn dryloyw ar y cyfan, ond mae eglurder gwybodaeth ariannol yn parhau i fod yn anghyson. Mae llawer o ysgolion a chyrff llywodraethu yn cael trafferth deall fformiwlâu cyllido, yn enwedig lle nad yw'r rhain wedi'u hadolygu ers sawl blwyddyn neu lle mae'r ddogfennaeth yn rhy dechnegol. Mae hyn yn lleihau gallu ysgolion i gynllunio staffio a darpariaeth cwricwlwm yn hyderus.

Yn gyffredinol, mae awdurdodau lleol yn cynnal perthynas adeiladol ag ysgolion wrth fonitro risg ariannol, ond mae ansawdd adnabod ac ymyrraeth gynnar yn wahanol. Mae cymorth yn aml yn canolbwyntio ar arbedion tymor byr yn hytrach na chynaliadwyedd tymor hir. Mae cydymffurfiaeth â grantiau wedi'u targedu fel y Grant Datblygu Disgyblion yn gryf, ond mae gwerthuso effaith yn gyfyngedig.

Mae amrywiaeth hefyd yn bodoli yn y ffordd y mae awdurdodau yn mynd i'r afael â thegwch a chynaliadwyedd, gan gynnwys y defnydd o ddangosyddion amddifadedd a dulliau o gynllunio tymor hwy. Byddai capasiti strategol cryfach, cyfathrebu cliriach ac arferion mwy cyson ar draws y system yn cefnogi iechyd ariannol parhaus mewn ysgolion yn well.

Argymhellion

Ar gyfer Llywodraeth Cymru (a Medr, lle bo hynny’n berthnasol)

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • Gwella amseroldeb a rhagweladwyedd cyllid cenedlaethol, lle bo hynny’n bosibl, gan gydnabod cyfyngiadau cyllidol ac etholiadol ehangach y DU, gan gynnwys cyhoeddi cyllidebau dirprwyedig, dyraniadau ôl-16 a hysbysiadau grant yn gynharach, wedi’u cefnogi gan ragdybiaethau aml-flwyddyn dangosol.
  • Symleiddio a moderneiddio’r system ariannu genedlaethol, gan leihau darnio grantiau ymhellach, gwella hyblygrwydd i awdurdodau lleol a diweddaru dangosyddion amddifadedd ac ADY er mwyn sicrhau cysondeb ac adlewyrchu anghenion cyfredol yn well.
  • Sefydlu fframwaith cenedlaethol cydlynol ar gyfer dysgu ariannol, gan osod disgwyliadau clir ar gyfer y wybodaeth a’r medrau a ddisgwylir gan swyddogion addysg, cyllid a gwella ysgolion perthnasol awdurdodau lleol, penaethiaid, rheolwyr busnes ysgolion a llywodraethwyr.
  • Buddsoddi mewn data cenedlaethol a gallu dadansoddol i alluogi proffilio risg, meincnodi a modelau aml-flwyddyn cyson ledled Cymru.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu adolygiad thematig Estyn a'i asesiad clir o'r cryfderau a'r heriau yn y cymorth ariannol a ddarperir i ysgolion ledled Cymru. Rydym yn cydnabod yr ymrwymiad sylweddol a ddangoswyd gan awdurdodau lleol, swyddogion cyllid ac arweinwyr ysgolion i gynnal sefydlogrwydd yn ystod cyfnod o bwysau ariannol sylweddol. Er bod cymorth ariannol gweithredol i ysgolion yn gadarn, mae Estyn yn nodi meysydd pwysig lle mae angen mwy o gysondeb, eglurder a ffocws strategol ledled Cymru. Mae canfyddiadau'r adroddiad hwn yn cyd-fynd â'n diwygiadau parhaus i gryfhau'r system ariannu ysgolion, gwella tryloywder a chefnogi cynaliadwyedd hirdymor.

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd gwella rhagweladwyedd cyllid ar gyfer ysgolion ac awdurdodau lleol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyhoeddi cynlluniau cyllideb aml-flwyddyn lle bo hynny'n bosibl, gan gydnabod yr angen i gefnogi ein partneriaid cyflawni i gryfhau cynllunio ariannol strategol a sicrhau gwneud penderfyniadau cynaliadwy. Mae ein gallu i ddarparu rhagdybiaethau cynllunio aml-flwyddyn wedi cael ei gyfyngu yn y gorffennol gan gylch cyllidol y DU ac amseriad penderfyniadau gwariant Llywodraeth y DU yn ogystal â'r cylch etholiadol yma yng Nghymru.

Mae adolygiad o wariant Llywodraeth y DU 2025 yn nodi ein cyllidebau adnoddau am dair blynedd hyd at 2028 i 2029 a'n cyllideb gyfalaf am bedair blynedd hyd at 2029 i 2030, ac roedd ymrwymiad hefyd i gynnal adolygiadau o wariant aml-flwyddyn bob dwy flynedd. Mae hyn yn golygu y gall Llywodraeth Cymru ystyried cynlluniau gwariant ar gyfer y tymor hwy.

Rydym yn cytuno â phwysigrwydd sicrhau mwy o dryloywder o fewn y system ariannu ysgolion, gyda data sy'n gymharol ac yn gyson ar draws pob lefel. Rydym hefyd yn cydnabod cymhlethdod y dirwedd ariannu bresennol. Mae'r gwaith parhaus o adolygu cyllid ysgolion wedi bod yn edrych i weld sut y gellir addasu'r system ariannu i gefnogi nodau polisi ac uchelgeisiau ar gyfer gwella'r system ysgolion yng Nghymru, gan adlewyrchu'r angen am brosesau cliriach a gwybodaeth ariannol fwy cyson fel yr amlygwyd yng nghanfyddiadau Estyn.

Yn dilyn adolygiad cynhwysfawr o fformiwla cyllido ysgolion awdurdodau lleol, mae Llywodraeth Cymru wedi bwrw ymlaen â gwaith i wella tryloywder, eglurder a chysondeb yn y system. Ar ôl ymgynghori'n ddiweddar ar ddiwygiadau i'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer cyllido ysgolion, gosododd Llywodraeth Cymru Reoliadau Cyllido Ysgolion, Datganiadau Cyllideb a Datganiadau Alldro (Cymru) 2026 ar 06 Mawrth, sy 'n sefydlu'r fframwaith ariannol ar gyfer ysgolion a gynhelir yng Nghymru o 2027 ymlaen. Nod y ddeddfwriaeth newydd yw gwella tryloywder, y gallu i gymharu a chysondeb ar draws y system. Mae hyn yn rhan o set ehangach o ddiwygiadau sydd â'r nod o symleiddio'r dirwedd ariannu, lleihau enghreifftiau o grantiau tameidiog, a gwella tegwch dyraniadau i ysgolion. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda llywodraeth leol a phartneriaid i ymgorffori'r newidiadau hyn ac i sicrhau bod y system ariannu yn deg, yn hygyrch ac yn ymatebol i anghenion ysgolion a dysgwyr ledled Cymru.

Ochr yn ochr â hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau clir i symleiddio trefniadau cyllido grantiau addysg, symleiddio prosesau, lleihau'r baich gweinyddol a sicrhau aliniad cryfach â threfniadau atebolrwydd a llywodraethu presennol. Fel rhan o'r gwaith hwn, mae pob un o'r pedair elfen ariannu addysg cyn 16 yn cael eu darparu i awdurdodau lleol drwy Grant Addysg yr Awdurdodau Lleol (LAEG), sy'n crynhoi ffrydiau grant a oedd gynt ar wahân mewn un system gydlynol sy'n cefnogi mwy o dryloywder a chysondeb ledled Cymru.

Rydym yn cydnabod yr heriau a amlygwyd yn yr adroddiad mewn perthynas â'r dull strategol o ddefnyddio grantiau wedi'u targedu, gan gynnwys pwysigrwydd alinio gwariant y Grant Datblygu Disgyblion â blaenoriaethau gwella ysgolion ehangach. Mae'r canfyddiadau hyn yn atgyfnerthu gwerth yr adolygiad polisi Grant Datblygu Disgyblion sy’n mynd rhagddo, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2025, sy'n archwilio sut y gall trefniadau yn y dyfodol gryfhau cysondeb, cefnogi cynllunio hirdymor a gwella gallu ysgolion ac awdurdodau lleol i ddeall a dangos tystiolaeth o effaith y Grant ar ddysgwyr.

Mae gwaith hefyd ar y gweill trwy'r adolygiad o’r fformiwla setliad llywodraeth leol i gryfhau tryloywder a chadernid y system ariannu. Mae hyn yn cynnwys diweddaru gwaith dadansoddol i adlewyrchu Cyfrifiad 2021 a data gweinyddol mwy diweddar, ochr yn ochr â diweddariadau i ddangosyddion sy'n gysylltiedig ag amddifadedd ac ystyried sut y gellir gwneud cyllid seiliedig ar fformiwla yn fwy sefydlog a rhagweladwy dros amser. Mae'r gwaith hwn yn cael ei ddatblygu mewn ymgynghoriad agos â llywodraeth leol.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn bwrw ymlaen â'r gwaith i adolygu dangosyddion amddifadedd drwy'r 'Prosiect Ymchwil eFSM a Mwy', cam cyntaf ymchwil a gomisiynwyd i ystyried a yw eFSM yn addas i’r diben fel modd o nodi anfantais economaidd-gymdeithasol yng Nghymru, ac i benderfynu pa fesurau ychwanegol y gellid eu mabwysiadu neu eu datblygu er mwyn ategu ei ddefnydd. Disgwylir i gam 2 y prosiect adrodd erbyn diwedd y flwyddyn. Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r dystiolaeth hon fel rhan o'i gwaith parhaus i adolygu a moderneiddio dulliau o adnabod ac ymateb i anfantais, gan sicrhau bod penderfyniadau yn y dyfodol yn cael eu llywio gan y data gorau sydd ar gael.

Rydym yn cydnabod canfyddiad Estyn bod cymorth ariannol strategol a hyfforddiant yn amrywio'n sylweddol ledled Cymru. Byddwn yn ymgymryd â gwaith i ddyfnhau ein dealltwriaeth o'r angen am fframwaith cenedlaethol cydlynol ar gyfer dysgu ariannol. Mewn partneriaeth â llywodraeth leol a rhanddeiliaid allweddol, byddwn yn cwmpasu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar draws rolau cyllid, addysg a llywodraethiant ac yn nodi dulliau posibl o gefnogi'r sector. Fodd bynnag, o ystyried yr etholiadau sydd i ddod, bydd unrhyw benderfyniadau ar fwrw ymlaen â'r gwaith hwn yn fater i'r llywodraeth nesaf.

Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am ariannu'r holl ysgolion a gynhelir a darparu arweiniad ariannol i gyrff llywodraethu, gan gefnogi gwaith cynllunio sy'n cyd-fynd â gofynion y cwricwlwm a'r gweithlu. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu canllawiau i gefnogi swyddogaethau cynghori awdurdodau lleol a hyfforddiant llywodraethwyr. Mae hyfforddiant gorfodol a dewisol i lywodrethwyr yn cael ei ddarparu gan awdurdodau lleol, ac mae hyn yn cynnwys modiwlau ar reoli ariannol, craffu, defnyddio tystiolaeth, a llythrennedd data.

Ym mis Hydref 2025, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg adolygiad o gyrff llywodraethu ysgolion yng Nghymru. Fel rhan o'r adolygiad, bydd lle i ystyried yr hyn sydd ei angen a'r ffordd orau o gryfhau a gwella cysondeb hyfforddiant, canllawiau a chefnogaeth i gyrff llywodraethu mewn perthynas â gwneud penderfyniadau ariannol cynaliadwy a rheoli cyrff llywodraethu yng Nghymru.

Byddwn hefyd yn archwilio'r angen am allu dadansoddol cryfach i gefnogi proffilio risg cyson, meincnodi a modelu aml-flwyddyn. Bydd hyn yn adeiladu ar y gwaith sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd fel rhan o gynllun peilot gweithwyr proffesiynol busnes ysgolion Llywodraeth Cymru sy'n gweithio gydag arweinwyr busnes ysgolion ledled Cymru. Mae hyn yn cynnwys archwilio opsiynau i wella offer cenedlaethol a seilwaith data i gefnogi penderfyniadau a meincnodi effeithiol yn seiliedig ar dystiolaeth.

Diolchwn i Estyn am yr adolygiad cynhwysfawr hwn a byddwn yn parhau i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol, ysgolion a phartneriaid i gefnogi gwytnwch ariannol a chynnal addysg o ansawdd uchel i ddysgwyr ledled Cymru.

Bydd penderfyniadau ynghylch unrhyw newidiadau polisi pellach neu gamau pellach sy'n deillio o'r argymhellion hyn yn cael eu gwneud gan y weinyddiaeth nesaf.

Ar gyfer awdurdodau lleol

  • Cryfhau ansawdd y cymorth ariannol strategol trwy ymwreiddio cynllunio aml‑flwyddyn strwythuredig, modelu senarios ac aliniad clir rhwng penderfyniadau am gyllid, y cwricwlwm a’r gweithlu.
  • Cryfhau’r cymorth strategol i ysgolion sydd â diffyg ariannol trwy sicrhau bod cynllunio adferiad ariannol yn alinio â chyngor adnoddau dynol a gwella ysgolion, wedi’i lywio gan ddadansoddiad integredig o ddata ariannol ac addysgol.
  • Gwella cydlyniad ar draws gwasanaethau cyllid, adnoddau dynol, ADY a gwella ysgolion fel bod ysgolion yn cael cyngor ac ymyrraeth gydlynol, amserol a chyson.
  • Darparu gwybodaeth ariannol glir, hygyrch ac amserol gan gynnwys arweiniad mewn iaith glir, diweddariadau dilyniannol a gwybodaeth gynharach am gyllidebau dangosol.
  • Gwella gallu dadansoddol, y defnydd o ddata a chydnerthedd systemau, gan ddefnyddio offerynnau fel dangosfyrddau, meincnodi a dadansoddi tueddiadau i nodi pwysau’n gynnar a llywio ymyrraeth.
  • Gwella effaith dysgu ariannol, gan gynnig hyfforddiant strategol sy’n benodol i rolau a gwerthuso sut mae’n cryfhau penderfyniadau.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Rydym yn cefnogi argymhellion Estyn i awdurdodau lleol gryfhau cynllunio ariannol strategol, datblygu gwaith mwy integredig ar draws cyllid, adnoddau dynol, ADY a gwasanaethau gwella ysgolion, a darparu gwybodaeth ariannol gliriach a mwy hygyrch i ysgolion a chyrff llywodraethu. Rydym yn cytuno y bydd gwell gallu dadansoddol, defnydd cyson o ddata a gwell dysgu ariannol yn cefnogi ysgolion ymhellach i wneud penderfyniadau gwybodus.

Rydym hefyd yn croesawu'r pwyslais ar degwch a chynaliadwyedd hirdymor. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol wrth iddynt ymgorffori diwygiadau rheoleiddio yn eu fformiwlâu, gwella cymorth i ysgolion mewn anawsterau ariannol a dulliau sy'n cysoni cynllunio ariannol ag anghenion y cwricwlwm a'r gweithlu.

Rydym yn diolch i awdurdodau lleol am eu hymroddiad parhaus a byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'r sector i gefnogi gwelliannau i sicrhau bod pob ysgol yn derbyn cefnogaeth gydlynol, strategol ac effeithiol.

Ar gyfer ysgolion a chyrff llywodraethol

  • Ymwreiddio cynllunio ariannol tymor canolig, yn seiliedig ar y cwricwlwm, gan sicrhau bod cynlluniau tair blynedd yn alinio â bwriadau’r cwricwlwm a gofynion y gweithlu o fewn cyllidebau.
  • Cryfhau llythrennedd ariannol a her strategol, gydag arweinwyr a llywodraethwyr yn ymgymryd â hyfforddiant priodol ac yn craffu ar ragdybiaethau yn effeithiol.
  • Defnyddio data a gwerthuso ariannol i lywio penderfyniadau, gan ddefnyddio meincnodi, modelu a thystiolaeth o effaith wrth gynllunio ac adolygu gwariant.
  • Ymgysylltu’n rhagweithiol â chymorth ac ymgynghori awdurdodau lleol, gan gynnwys uwchgyfeirio risgiau’n gynnar a chymryd rhan yn weithredol mewn trafodaethau fforymau cyllideb.

Manylion cyhoeddi

Mae'r adroddiad llawn ar gael ar wefan Estyn, ac fe'i cyhoeddwyd ar 26 Mawrth 2026.