Neidio i'r prif gynnwy

Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu ac adfer byd natur a bioamrywiaeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo i ddarparu'r cartrefi a'r seilwaith sydd eu hangen ar ein gwlad. 

Gwnaeth cyhoeddi asesiadau cyflwr Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar 25 Mehefin 2025 gadarnhau bod llygredd maethynnau yn cyfrannu at gyflwr gwael nodweddion safleoedd mewn sawl Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) forol.

Er mwyn sicrhau bod gwaith datblygu yn ailddechrau cyn gynted â phosibl, mewn ffordd gynaliadwy, sefydlodd y Prif Weinidog Dasglu gydag uwch-swyddogion o Lywodraeth Cymru, Awdurdodau Cynllunio Lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru, a Dŵr Cymru.

Cyhoeddais Ddatganiad Ysgrifenedig ar 10 Hydref 2025 i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau ar sefydlu'r Tasglu Datblygu Nitradau Morol, ac eto ar 17 Rhagfyr 2025 i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd.

Mae cynnydd sylweddol wedi'i wneud trwy waith y Tasglu a thrwy ymrwymiad ac ymdrechion yr holl bartïon.

Cyflwynwyd y Cyfrifiannell Maethynnau a sefydlwyd y Grŵp Masnachu Credydau Maethynnau yn gynharach eleni. 

Y mis hwn, darparwyd offer a chanllawiau pellach. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflogi ymgynghorwyr ecolegol arbenigol i ddatblygu canllawiau ac astudiaethau achos a fydd yn cynorthwyo awdurdodau cynllunio i fwrw ymlaen â Chynlluniau Datblygu Lleol a phenderfynu ar geisiadau cynllunio ar gyfer cartrefi a busnesau mewn ardaloedd yr effeithir arnynt. 

Ochr yn ochr â'r canllawiau hyn, mae Awdurdodau Cynllunio Lleol, dan arweiniad Cyngor Sir Caerfyrddin, wedi datblygu a chyhoeddi llawlyfr lliniaru i ddatblygwyr.

Ac yn olaf, mae Nodyn o Eglurhad wedi'i gyhoeddi gan y Prif Swyddog Cynllunio a fydd yn cynorthwyo Awdurdodau Cynllunio Lleol ac arolygwyr cynllunio i baratoi ac archwilio Cynlluniau Datblygu Lleol.

Bydd yr offer a'r canllawiau hyn yn adnoddau hanfodol i gynllunwyr a datblygwyr, a byddant yn galluogi ystod o ddulliau gweithredu posibl ar gyfer datblygiadau newydd mewn ardaloedd yr effeithir arnynt gan lygredd maethynnau.

Bydd Tasglu'r Prif Weinidog yn cyfarfod am y tro olaf ar 31 Mawrth. Yn y cyfarfod hwnnw, bydd aelodau'r grŵp hefyd yn cwblhau trefniadau newydd addas i sicrhau y gall y gwaith barhau i symud ymlaen yn gyflym, gyda'r cydweithio cryf mewn partneriaeth ar draws ardaloedd yr effeithir arnynt sydd wedi nodweddu dull gweithredu llwyddiannus y Tasglu yn parhau i'r dyfodol.

Hoffwn ddiolch i holl aelodau'r Tasglu am eu hamser a'u cyfraniadau, ac am eu hagwedd gadarnhaol a chydweithredol.