Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Ym mis Rhagfyr 2018, cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ar y pryd, Lesley Griffiths AS, gyd-destun polisi newydd ar gyfer echdynnu tanwydd ffosil a chyda hynny Cyfarwyddyd Cynllunio Gwlad a Thref (Hysbysu) (Glo a Petrolewm) (Cymru) 2018.
Mae Polisi Cynllunio Cymru (Rhifyn 12) yn cynnwys yr Hierarchaeth Ynni ym maes Cynllunio sy'n rhoi cloddio deunydd ynni carbon-ddwys ar y gwaelod. Mae hyn yn golygu y dylid rhoi blaenoriaeth i effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy
Mae Polisi Cynllunio Cymru hefyd yn nodi na ddylid caniatáu cynigion ar gyfer datblygiadau glo brig, pyllau glo dwfn neu waredu gwastraff pyllau glo ac eithrio mewn amgylchiadau cwbl eithriadol lle byddai angen iddynt ddangos eu bod eu hangen yng nghyd-destun targedau lleihau allyriadau newid yn yr hinsawdd ac am resymau diogelwch ynni cenedlaethol.
Polisi Llywodraeth Cymru yw rhoi terfyn ar gloddio a defnyddio glo mewn modd rheoledig. Cyhoeddwyd datganiad polisi glo ym mis Mawrth 2021 a oedd yn gam pwysig tuag at y nod hwnnw.
Er mwyn sicrhau bod y Datganiad Polisi Glo a Chyfarwyddyd Cynllunio Gwlad a Thref (Hysbysu) (Glo a Petrolewm) (Cymru) 2018 yn ddigon cadarn, rwyf yn disodli Cyfarwyddyd 2018 fel bod glo, a echdynnir o ddyddodion gwaith-mwynau, gan gynnwys tomenni segur, yn dod o fewn cwmpas Cyfarwyddyd newydd 2026.
O’r 7 o Ebrill 2026, pan nad yw awdurdod cynllunio lleol yn bwriadu gwrthod cais cynllunio ar gyfer datblygu petrolewm neu ddatblygu glo gan gynnwys glo a echdynnir o ddyddodion gwaith-mwynau (gan gynnwys tomenni segur), rhaid i'r awdurdod hysbysu Gweinidogion Cymru i roi cyfle i benderfynu a ddylid galw'r cais am benderfyniad.
