Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, gallaf gadarnhau bod Gweinidogion Cymru wedi cyflawni'r gofyniad statudol ar gyfer cyfnod adrodd 2025–26 a nodir o dan adran 17 o Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 (Deddf 2023).

Mae Deddf 2023 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol (y Cyngor) ar benderfyniadau o natur strategol ynghylch y camau rhesymol y maent yn eu cymryd tuag at gyflawni eu hamcanion llesiant, fel y'u nodir o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. 

Mae adran 19 o'r Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru baratoi adroddiad blynyddol mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol yn esbonio'r hyn y maent wedi'i wneud i gydymffurfio â'r ddyletswydd hon yn ystod y 12 mis diwethaf. Rhaid cytuno ar yr adroddiad gyda'r Cyngor neu gynnwys datganiad yn egluro pam na chytunwyd arno.

Cytunodd y Cabinet y byddai dyletswydd adran 17 yn cael ei chyflawni drwy ymgynghori â'r Cyngor bob blwyddyn ar y tri sbardun trosfwaol sydd yn rhan o gyflawni Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn strategol: Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru, Adolygiad Blynyddol o'r Amcanion Llesiant, a blaenoriaethau blynyddol y gyllideb. Gallaf gadarnhau bod ymgyngoriadau ar y rhain wedi digwydd trwy gydol 2025 yng nghyfarfodydd y Cyngor ar 12 Mawrth, 4 Mehefin, a 22 Medi yn y drefn honno.  Roedd yr ymgyngoriadau hyn yn caniatáu i aelodau'r Cyngor gymryd rhan ar adeg ffurfiannol o'r broses benderfynu strategol ar gyflawni tri sbardun trosfwaol y Rhaglen Lywodraethu.

Blaenoriaethau Deddfwriaethol

Ymgynghorais â'r Cyngor ar flaenoriaethau deddfwriaethol y Llywodraeth drwy roi trosolwg i'r aelodau o'r cynnydd gyda'r Biliau a oedd yn cael eu hystyried gan y Senedd ar y pryd yn ogystal â Biliau arfaethedig Blwyddyn 5.  Roedd y drafodaeth yn canolbwyntio ar y Bil Bysiau a'r angen i ddiogelu gweithwyr, y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol a dileu elw o wasanaethau plant, a'r Bil Digartrefedd.  Cafodd barn y Cyngor ei chyflwyno i'r Cabinet a Gweinidogion perthnasol y Biliau fel rhan o gwblhau'r rhaglen ddeddfwriaethol cyn fy natganiad i'r Cyfarfod Llawn.

Adolygiad Blynyddol o'r Amcanion Llesiant

Cefais drafodaeth adeiladol gydag aelodau’r Cyngor am y cynnydd tuag at ein hamcanion llesiant, gyda'r aelodau yn mynegi barn ar fesur cynnydd, sut i gyflawni newid o un genhedlaeth i'r llall, a ph'un a ddylai, yn y dyfodol, fod amcan ar wahân yn ymwneud â hyrwyddo'r Gymraeg.  Buom hefyd yn trafod yr Adolygiad o Wariant Cymru

Cyllideb Ddrafft 2026-27 

Tynnodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg sylw at yr anhawster o sicrhau cymeradwyaeth y Senedd ar gyfer Cyllideb 2026–27 a phwysleisiodd yr angen i roi sicrwydd i wasanaethau cyhoeddus ar ôl etholiad mis Mai. Rhybuddiodd y byddai methu â phasio cyllideb yn sbarduno toriadau i'r lefelau gwariant presennol, gan effeithio'n ddifrifol ar wasanaethau a swyddi.

Roedd Aelodau’r Cyngor yn cydnabod y cyd-destun anodd, gan ddweud y byddent yn pwysleisio pwysigrwydd pasio cyllideb i'w rhwydweithiau. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet fod gwaith gyda llywodraeth leol a sectorau eraill yn parhau, ac y byddai'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i liniaru risgiau yn dilyn.

Mae'r holl gofnodion a phapurau sy'n ymwneud â'r Cyngor wedi'u cyhoeddi ar wefan y Cyngor, a gellir dod o hyd iddynt yma.