Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Cadeirydd: Gina Neff, Prifysgol y Frenhines Mary Llundain
Alexander Iosad, Sefydliad Tony Blair ar gyfer Newid Byd-eang
Shavanah Taj, TUC Cymru
Walter Pasquarelli, Siaradwr, Awdur a Chynghorydd ar AI a Realiti Synthetig
Marloes Pomp, Fforwm AI Ewrop
Santosh Takoor, Microsoft UK
Ruth McGuinness, Kainos
Louise Harris, Tramshed Tech
Diane Gutiw, CGI
Roger Whitaker, Prifysgol Caerdydd
Paul Spencer, Prifysgol Bangor
Myra Hunt, Y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol
Glyn Jones, Llywodraeth Cymru
Jas Pal Baydal, Llywodraeth Cymru
Mike Thomas, Llywodraeth Cymru
Janine Pepworth, Llywodraeth Cymru
Liberty Hill, Llywodraeth Cymru

Ymddiheuriadau

Anthony Tracey, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Lindsey Phillips, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Rachel Purchase, Veygo

Eitem 1 ar yr Agenda: Croeso a Chyflwyniadau

1.1 Croesawodd y Cadeirydd Roger Whitaker a Paul Spencer fel aelodau newydd o'r grŵp. 

Eitem 2 ar yr Agenda: Meysydd Blaenoriaeth - Hyfforddiant a Sgiliau AI

2.1 Rhoddodd swyddogion Llywodraeth Cymru yr wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sy'n cael ei wneud i gefnogi sgiliau AI ar draws y sector cyhoeddus a'r economi ehangach.

2.2 Nododd y grŵp raddfa'r gweithgarwch sy'n mynd rhagddo, gan gynnwys cyfraddau cwblhau uchel ar gyfer rhaglen hyfforddi AI ‘Un Peth Mawr’ ar draws y gwasanaeth sifil, yn ogystal â gwaith parhaus i ddeall anghenion sgiliau AI ar draws sector cyhoeddus Cymru drwy weithgarwch asesu sylfaenol.

2.3 Tynnodd y Grŵp sylw at bwysigrwydd ymgorffori defnydd cyfrifol a moesegol mewn rhaglenni sgiliau a thrafododd gyfleoedd i sicrhau bod gweithgarwch yng Nghymru yn cyd-fynd â mentrau ehangach yn y DU ac yn rhyngwladol. 

Eitem 3 ar yr Agenda: Lleoli Cymru - AI mewn Gwasanaethau Cyhoeddus

3.1 Trafododd y Grŵp enghreifftiau o ddefnydd o AI sy'n dod i'r amlwg mewn gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys cymwysiadau mewn llywodraeth leol, addysg a gofal cymdeithasol. Tynnodd y grŵp sylw at bwysigrwydd canolbwyntio ar nifer fach o achosion defnydd sy'n uchel eu heffaith i feithrin dysgu a hyder cyn ceisio ei ehangu.

3.2 Trafodwyd gwerth dysgu o brofiad rhyngwladol, gan nodi enghreifftiau o Ewrop, Gogledd America, gwladwriaethau'r Gwlff a Japan. Cytunodd y Grŵp fod gwerth tynnu ynghyd astudiaethau achos ymarferol a mewnwelediadau o wledydd eraill i lywio polisi a gwaith cyflawni AI yng Nghymru.

Eitem 4 ar yr Agenda: Archwilio Oedraniaeth Ddigidol - Adroddiad Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

4.1 Cyflwynodd swyddogion Llywodraeth Cymru adroddiad Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Archwilio Oedraniaeth Ddigidol, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2025, ac amlinellodd ei berthnasedd i gylch gwaith y Grŵp.

4.2 Nododd y grŵp ganfyddiadau'r adroddiad ar sut y gall pobl hŷn wynebu anfantais mewn systemau a gwasanaethau digidol. Trafododd yr angen i sicrhau nad yw systemau AI yn atgyfnerthu rhagfarn sy'n gysylltiedig ag oedran, a myfyriodd ar yr argymhellion penodol o ran AI yn yr adroddiad.

4.3 Pwysleisiodd y grŵp yr angen i integreiddio ystyriaethau sy'n gysylltiedig ag oedran mewn prosesau cydraddoldeb, hygyrchedd a chaffael presennol yn hytrach na chreu fframweithiau ar wahân. 

4.4 Hefyd, trafodwyd y potensial i AI leihau anghydraddoldebau sy'n gysylltiedig ag oedran pan fo wedi'i gynllunio a'i ddefnyddio'n dda, gan gynnwys drwy well mynediad at wasanaethau, technolegau cynorthwyol a sianeli amgen fel systemau sy'n seiliedig ar lais.

Eitem 5 ar yr Agenda: Unrhyw Fater Arall

5.1 Rhoddodd swyddogion Llywodraeth Cymru yr wybodaeth ddiweddaraf i'r grŵp am ddiddordeb parhaus gan sefydliadau sy'n dymuno ymuno â'r Grŵp Cynghori ar AI Strategol.

5.2 Nododd y Grŵp y cyfnod etholiadol sydd ar y gweill, ac y gallai gwaith ymgysylltu anffurfiol a rhannu gwybodaeth barhau, yn amodol ar lywodraethu priodol.

Eitem 6 ar yr Agenda: Y Camau Nesaf

6.1 Cytunodd y grŵp ar y camau nesaf canlynol:

  • Parhau i ddatblygu arlwy sgiliau AI a dargedwyd yn well ar gyfer rolau penodol, gan adeiladu ar hyfforddiant sylfaenol presennol.
  • Archwilio cyfleoedd ar gyfer rhannu astudiaethau achos rhyngwladol ac enghreifftiau o arferion da i lywio'r gwaith o gyflawni yng Nghymru.
  • Ystyried sut y gellir ymgorffori effeithiau cydraddoldeb sy'n gysylltiedig ag oedran yn fwy penodol mewn prosesau caffael, sicrwydd a llywodraethu AI presennol. 
  • Archwilio'r defnydd o weithgorau tymor byr ar gyfer pynciau sy'n gofyn am fewnbwn manylach.

Dyddiad y cyfarfod nesaf: 

Mehefin 2026