Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae gan Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru ran ganolog i'w chwarae o ran sicrhau bod cyfalaf sydd ei angen ar fusnesau ledled Cymru i gychwyn, cryfhau a thyfu ar gael iddyn nhw. Drwy estyn cyfnod ailgylchu'r gronfa, mae Banc Datblygu Cymru yn gallu parhau i ddarparu cyllid sefydlog, rhagweladwy i gwsmeriaid - gan gefnogi eu penderfyniadau buddsoddi, diogelu swyddi a helpu cwmnïau i ddygymod ag amodau economaidd anodd. Drwy hynny, rydym yn atgyfnerthu cenhadaeth graidd y Banc Datblygu: sef cynyddu'r cyflenwad o gyllid i fusnesau Cymru a rhoi mantais hirdymor i economi Cymru.

Gan ddatblygu argymhellion yr adolygiad canol tymor o Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru (WFIF), rwyf felly wedi cytuno bod Banc Datblygu Cymru'n cael ailgylchu cyfalaf a gafodd ei neilltuo iddo i ddarparu'r gronfa er mwyn i fwy allu cael ei fuddsoddi ym musnesau Cymru dros gyfnod mwy hirdymor.

Mae'r penderfyniad hwn yn cwblhau'r gwaith a nodwyd yn glir yn Llythyr Cylch Gwaith 2021 y Banc Datblygu, a oedd yn gofyn am adolygiad canol tymor yn 2025–26 ynghylch ailgylchu. Mae'r adolygiad bellach wedi dod i ben, yn unol â'r gofyn, ac mae'n darparu'r dystiolaeth ar gyfer gweithredu. Mae’n dilyn hefyd y cadarnhad a gafwyd gan Drysorlys EF yn gynharach eleni na fyddai unrhyw ateb cyllidebol yn cael ei gynnig i ymdrin ag effeithiau ailgategoreiddio'r Banc ar gyllidebau Llywodraeth Cymru. Yn y cyd-destun hwnnw, mae estyn yr ailgylchu yn ffordd gymesur ac effeithlon o sicrhau bod cyllid yn dal i fod ar gael i fusnesau Cymru gan sicrhau yr un pryd bod cyfalaf cyhoeddus yn sicrhau’r gwerth am arian mwyaf.

Yn benodol, rwyf wedi penderfynu:

  • estyn y gallu i ailgylchu cyfalaf Trafodion Ariannol dros y cyfnod llawn o 25 mlynedd sydd ar gael i Lywodraeth Cymru;
  • estyn proffil ad-dalu cyfalaf cyffredinol a ddyrannwyd i'r gronfa, gan hwyluso ailgylchu cyfalaf dros amser; a
  • cyflwyno cylch adolygu pedair blynedd fel y gall pob Llywodraeth yn y dyfodol asesu manteision y gronfa.

Mae'r adolygiad tymor canol yn cadarnhau bod y gronfa yn gwneud yn dda: bod y cyfraddau diofyn yn isel, bod lefelau creu swyddi yn uchel, a'i bod yn sbarduno cyfalaf preifat sylweddol. Ers ei sefydlu, mae WFIF wedi buddsoddi bron i £260 miliwn, gan helpu i greu a diogelu rhagor na 11,500 o swyddi, a rhagwelir y caiff 100% o'r cyfalaf ei ad-dalu. Mae estyn ei gapasiti ailgylchu yn golygu'n bod yn gallu cynnal y momentwm hwnnw a sicrhau y gall y gronfa weithredu ar sail gynaliadwy dros y tymor canolig.

Stiwardiaeth ariannol dda yw hyn — gan sicrhau bod cyfalaf sydd eisoes wedi'i fuddsoddi yn parhau i weithio er lles busnesau Cymru. Mae sicrhau bod cyllid sefydlog a rhagweladwy ar gael yn diogelu cynnig craidd y Banc Datblygu, yn ennyn hyder busnesau, ac yn hwb i benderfyniadau buddsoddi tymor hwy ar draws yr economi. Bydd adolygiadau bob pedair blynedd yn sicrhau tryloywder, atebolrwydd ac aliniad â blaenoriaethau rhaglenni yn y dyfodol.