Neidio i'r prif gynnwy

Mae naw prosiect teledu newydd wedi'u cymeradwyo ar gyfer cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru hyd yn hyn eleni, gan greu ystod o sioeau uchelgeisiol wedi'u sgriptio a fydd yn dod â £50.6 miliwn ychwanegol i economi Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gyda chymorth ychydig o dan £4 miliwn o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol, mae'r rownd ddiweddaraf hon o gymorth yn tynnu sylw at enw da cynyddol Cymru fel cyrchfan o'r radd flaenaf ar gyfer cynyrchiadau sgrin o ansawdd uchel.

Mae'n dilyn cyfres o gynyrchiadau poblogaidd a wnaed yng Nghymru yn ddiweddar, gan gynnwys House of the Dragon (Tymor 2 a 3) HBO, Industry (Cyfres 4), Under Salt Marsh, The Other Bennett Sister, Madfabulous a Young Sherlock ar Amazon, pob un ohonynt wedi elwa ar gyllid cynhyrchu Cymru Greadigol.

Ymhlith y prosiectau sydd newydd eu cymeradwyo, ond sydd eto i'w cyhoeddi, mae pedwar yn dod o gwmnïau cynhyrchu Cymreig, mae un yn gynhyrchiad Cymraeg ac mae un yn gyfres gefn-wrth-gefn, sy'n golygu y bydd fersiynau Cymraeg a Saesneg yn cael eu cynhyrchu. O'r naw cynhyrchiad a gymeradwywyd, bydd saith yn portreadu straeon gwirioneddol Gymreig.

Mae cymorth hefyd wedi'i gytuno ar gyfer sioe ryngwladol fawr gyda chefnogaeth cwmni cynhyrchu rhyngwladol blaenllaw y bydd ei bresenoldeb yng Nghymru yn ychwanegu at y rhestr o bartneriaid byd-eang sydd bellach yn defnyddio Cymru fel canolfan ar gyfer cynyrchiadau.

Mae'r naw prosiect sydd newydd eu cymeradwyo yn cynnwys animeiddio, teledu o'r radd flaenaf, comedi a drama, ac maent yn cyd-fynd â ffocws strategol Cymru Greadigol ar barhau i adeiladu sector cynhyrchu ffilm a theledu cynaliadwy, hirdymor yng Nghymru.

Dywedodd Jack Sargeant, Gweinidog y Diwydiannau Creadigol:

Nid yw Cymru erioed wedi bod yn lle mwy cyffrous ar gyfer creu teledu. Mae'r cynyrchiadau hyn sydd ar y gweill yn dangos yn glir bod ein sector ffilm a theledu yn mynd o nerth i nerth, gan ddenu partneriaid rhyngwladol mawr dro ar ôl tro, ar yr un pryd â meithrin talentau cynhenid a chwmnïau sy'n gwneud adrodd straeon Cymru mor unigryw.

O ddrama Gymraeg i gynyrchiadau cefn-wrth-gefn a ffilmiau rhyngwladol llwyddiannus posibl, mae'r rhestr o gynyrchiadau sydd newydd eu cymeradwyo yn dangos ehangder ac uchelgais go iawn.

Gydag amcangyfrif o £50.6 miliwn ychwanegol ar fin dod i economi Cymru, mae hwn yn fwy na newyddion da i'r diwydiant sgrin - mae'n newyddion da i'r criwiau, y gweithwyr llawrydd, y busnesau a'r cymunedau ledled Cymru a fydd yn elwa hefyd.

Gan adeiladu ar lwyddiant cynyrchiadau fel trydydd tymor House of the Dragon neu'r Young Sherlock sydd newydd ei ryddhau ar Amazon, rydym yn parhau i fuddsoddi mewn sector sy'n rhoi Cymru ar lwyfan y byd - ac ni allaf aros i weld y prosiectau newydd hyn yn dod yn fyw.

Mae Quay Street Productions yn un o'r naw prosiect sydd wedi'u cymeradwyo eleni.

Dywedodd Sam McMillon, Prif Swyddog Gweithredu yng nghwmni ITV Studios, Quay Street Productions:

Rydym wrth ein bodd i fod yn datblygu a chynhyrchu gwaith newydd yng Nghymru ac i fod yn gweithio unwaith eto gyda Cymru Greadigol. Ar ôl ffilmio prosiectau fel Men Up a The Guest yn Abertawe, Caerdydd a Phenrhyn Gŵyr a'r cyffiniau, rydym wedi gweld dros ein hunain pa mor amhrisiadwy yw'r cymorth hwn o ran galluogi adrodd straeon uchelgeisiol, unigryw, gan ymgorffori cynyrchiadau yn lleol, o'r criw a'r talentau i leoliadau. Rydym yn gyffrous am yr hyn sydd o'n blaenau ac yn edrych ymlaen at ddychwelyd i ddod â'n prosiect nesaf yn fyw.

Mae cynllun Cyllid Cynhyrchu Cymru Greadigol yn cefnogi gwaith cynhyrchu teledu, ffilm, gemau ac animeiddio yng Nghymru ar gyfer cynulleidfaoedd yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol.

Ochr yn ochr â sbarduno effaith economaidd, mae'r cynllun yn blaenoriaethu cynyrchiadau cynaliadwy, a gwaith datblygu gweithlu medrus, amrywiol ledled y wlad.

Ers ei sefydlu yn 2020, mae Cymru Greadigol wedi dyfarnu dros £35.5 miliwn o gyllid cynhyrchu i 74 o brosiectau, gan sicrhau dros £434m o wariant yn ôl i economi Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am gynllun Cyllid Cynhyrchu Cymru Greadigol, ewch i cymrugreadigol.cymru.