Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Andrew Goodall (Cadeirydd) 
  • Carys Williams 
  • Aled Edwards 
  • Mike Usher 
  • Judith Paget 
  • Emma Williams 
  • Sioned Evans 
  • Tracey Burke 
  • Jacqueline Totterdell 
  • David Richards 
  • Dean Medcraft 
  • Dom Houlihan 
  • Nicola Williams 
  • Cynrychiolydd Ochr yr Undebau Llafur (TUS)
  • Zakhyia Begum 

Yn mynychu

  • Glyn Jones 
  • Sinead Gallagher 
  • Carwyn Wycherley 
  • Jason Thomas 

Ymddiheuriadau

  • Andrew Slade 
  • Hyrwyddwr Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Ysgrifenyddiaeth

  • Swyddfa'r Ysgrifennydd Parhaol

1. Croeso a materion cyfredol

1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod, gan nodi'r ymddiheuriadau a oedd wedi dod i law. Ni nodwyd unrhyw wrthdaro buddiannau. Cymeradwywyd cofnodion cyfarfod y Bwrdd a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr.

1.2 Rhoddodd y Cadeirydd drosolwg o'r materion diweddar ynghylch Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil a'r ymateb trawslywodraethol i fynd i'r afael â'r sefyllfa. Rhoddodd Dean Medcraft drosolwg o'r trefniadau i helpu staff sy'n profi caledi ariannol o ganlyniad i'r oedi o ran taliadau, a'r camau sy'n cael eu cymryd i sicrhau bod mesurau diogelu ac eglurder priodol ynghylch atebolrwydd ar waith. Nododd y Bwrdd yr effaith ar gyn-aelodau o staff a phwysigrwydd ymdrin ag achosion mewn modd tosturiol.

1.3 Myfyriodd y Cadeirydd ar ddigwyddiadau byd-eang diweddar, gan nodi effaith y cyd-destun cynyddol gyfnewidiol ar Gymru. Trafododd y Bwrdd risgiau i'r economi a chydlyniant cymunedol yng Nghymru.

1.4 Cyfeiriodd y Cadeirydd at gysylltiadau rhynglywodraethol gan nodi heriau o ran ymgysylltu a chyfathrebu amserol gan Lywodraeth y DU, sy'n cyfyngu ar y gallu i ddylanwadu ar benderfyniadau sy'n ymwneud â chyfrifoldebau datganoledig.

1.5 Nododd y Cadeirydd gymeradwyaeth y Senedd o Gyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27.

1.6 Wrth edrych ymlaen at etholiad y Senedd ym mis Mai, nododd y Cadeirydd y cyfle i'r sefydliad ailosod ei ffyrdd o weithio, ac atgoffodd y Bwrdd o niwtraliaeth a pharodrwydd y Gwasanaeth Sifil i wasanaethu'r llywodraeth a fydd mewn grym.

1.7 Croesawodd y Cadeirydd yr ymateb cadarnhaol gan staff Llywodraeth Cymru i'r hyfforddiant Un Peth Mawr – Deallusrwydd Artiffisial i Bawb. Nododd y Bwrdd yr her o ran ariannu trwyddedau Copilot ar gyfer staff, gan nad yw'r cyllidebau presennol yn darparu ar gyfer mynediad i bawb.

2. Risg Ddigidol

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Glyn Jones, y Prif Swyddog Digidol i'r cyfarfod a'i wahodd i roi cyflwyniad ynglŷn â chofnod y Gofrestr Risgiau Corfforaethol ar ddarparu polisïau a gwasanaethau modern wedi'u cynllunio o amgylch cwsmeriaid a'n staff. Gofynnwyd i'r Bwrdd nodi'r risg, y gweithgarwch cyfredol a'r gweithgarwch wedi'i gynllunio i liniaru'r risg, yn ogystal â gweithredu fel eiriolwyr dros faterion digidol, data a thechnoleg.

2.2 Nododd Glyn fod trawsnewid digidol yn broses barhaus a'i fod yn hanfodol ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus effeithlon a phrofiadau cadarnhaol i staff. Mae heriau'n cynnwys capasiti'r gweithlu, cyllid, rhwystrau diwylliannol, a'r angen am fuddsoddi strategol mewn seilwaith a sgiliau digidol. Tynnwyd sylw at integreiddio'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol yn rhan o Lywodraeth Cymru fel cyfle allweddol i gryfhau arweinyddiaeth a gallu yn y maes hwn. Nododd Glyn y tensiwn rhwng cynnal gwasanaethau presennol a rhyddhau amser i arloesi a phwysleisiodd pa mor bwysig yw ariannu trawsnewid digidol yn rhan o ddarparu gwasanaethau.

2.3 Nododd Jacqueline Totterdell y manteision y gallai rhagor o ddefnydd o AI eu cynnig i wasanaethau clinigol yn y GIG. Fodd bynnag, pwysleisiodd nad yw cyflwyno technolegau newydd yn weithgaredd annibynnol, hynny yw, mae angen iddo fod yn rhan o raglen newid sydd wedi'i chynllunio a'i strwythuro'n dda.

2.4 Roedd Dean Medcraft o blaid y cyfeiriad ar gyfer y dyfodol a amlinellwyd yn y papur a nododd fod trawsnewid gwasanaethau corfforaethol yn gofyn am newid diwylliannol yn ogystal â newidiadau i systemau TG.

2.5 Cyfeiriodd Emma Williams at y gwaith rhagorol sy'n cael ei wneud yn y Grŵp Addysg, Diwylliant a'r Gymraeg ond galwodd am ddull gweithredu gwahanol ar gyfer cael gafael ar gymorth arbenigol canolog. Nododd Emma yr heriau o ran sicrhau adnoddau ar gyfer prosiectau digidol ar raddfa fawr.

2.6 Tynnodd Sioned Evans sylw at bwysigrwydd cynllunio cynnar wrth ddatblygu polisi i ymgorffori ystyriaethau digidol o'r cychwyn cyntaf, gan osgoi datrysiadau technolegol munud olaf, a'r newid diwylliannol y mae ei angen i sicrhau newid. Nododd Sioned y rôl y gall strwythurau llywodraethiant ei chwarae o ran hyrwyddo newidiadau diwylliannol yn y sefydliad.

2.7 Dywedodd Mike Usher ei fod wedi'i galonogi gan y papur ond nododd y rhwystrau rhag cyflawni newid, rhai gwirioneddol a rhai canfyddedig, gan dynnu sylw at bwysigrwydd annog staff i fod yn rhagweithiol o ran rhannu arferion da. Wrth fyfyrio ar y mesurau lliniaru a ddisgrifiwyd yn y papur, holodd Mike, er y byddent yn cyflawni'r sgôr risg darged, a ddylid ailystyried y parodrwydd i dderbyn risg.

2.8 Gofynnodd Carys Williams sut fyddai'r ffordd orau o gyfieithu'r brwdfrydedd a ddangoswyd yn y drafodaeth i weithredu ar ôl y cyfarfod. Awgrymodd Carys gael hyrwyddwyr ar gyfer trawsnewid digidol ar draws y sefydliad, gyda chanolbwynt arbennig ar y proffesiynau, er enghraifft polisi neu gyllid, er mwyn sicrhau bod atebion digidol yn cael eu hystyried o'r cychwyn. Cytunodd Glyn a nododd y gweithred i adrodd yn ôl i'r Bwrdd am gynnydd.

2.9 Nododd Zakhyia Begum fod y Bwrdd Cysgodol wedi codi pwyntiau tebyg iawn i'r rhai a wnaed gan y Bwrdd.

2.10 Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu sylwadau, gan nodi'r her o ddenu'r raddfa o fuddsoddi y mae ei hangen i gyflawni'r uchelgeisiau ar gyfer trawsnewid digidol.

3. Y diweddaraf ar gyflawni'r Rhaglen Lywodraethu

3.1 Croesawodd y Cadeirydd Sinead Gallagher a Carwyn Wycherley i'r cyfarfod a'u gwahodd i gyflwyno'r wybodaeth ddiweddaraf am y Rhaglen Lywodraethu. Mae 284 o ymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu ac mae'r mwyafrif wedi'u cwblhau neu ar y trywydd iawn. Mae gwaith yn mynd rhagddo i gwblhau'r eitemau sy'n weddill. Mae'r Cwnsler Cyffredinol yn cynnal rownd arall o gyfarfodydd â chydweithwyr yn y Cabinet, a bydd canlyniadau'r cyfarfodydd hyn yn llywio papur arall gan y Cabinet i gytuno ar y safbwynt terfynol ar gyflawni'r Rhaglen Lywodraethu ar gyfer y tymor presennol.

3.2 Cyfeiriodd Sinead at y gwersi a ddysgwyd o gyflawni'r Rhaglen Lywodraethu gyfredol gan nodi pwysigrwydd diffinio canlyniadau'n glir, ymgysylltu cynnar â gweinidogion o ran eu disgwyliadau, ymrwymiadau symlach, a chydbwyso blaenoriaethau'r rhaglen â gweithgarwch busnes fel yr arfer. Tynnwyd sylw at fanteision dull gweithredu pendant ar gyfer nifer bach o flaenoriaethau allweddol.

3.3 Cydnabu'r Bwrdd yr ymdrechion sylweddol gan staff sydd wedi bod yn sail i'r gwaith cyflawni ar draws y Rhaglen Lywodraethu, a'r manteision o gael her weinidogol reolaidd, o dan arweiniad y Gweinidog Cyflawni, o ran ymdrin â materion.

3.4 Wrth edrych ymlaen at dymor y Senedd newydd, tynnodd Carys Williams sylw at bwysigrwydd gosod yr amodau priodol ar gyfer cyflawni'n effeithiol, a nododd Mike Usher yr angen i reoli disgwyliadau, yn enwedig yn wyneb galwadau posibl am lwyddiannau cyflym.

3.5 Atgoffodd Judith Paget y Bwrdd o bwysigrwydd parhau i ganolbwyntio ar flaenoriaethau hirdymor megis Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ochr yn ochr â chyflawni ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu.

3.6 Nododd Emma Williams y budd o gael arweinwyr cyflawni pwrpasol gan eu bod wedi dod â mwy o ffocws a her, a hynny heb ddyblygu atebolrwydd adrannol. Fodd bynnag, mae'r dull gweithredu yn gofyn am lawer o adnoddau ac felly, dim ond ar gyfer nifer bach o brif flaenoriaethau y mae’n addas.

4. Cyflawni Mega-ddigwyddiadau: Tour de France 2027 ac Ewro 2028

4.1 Rhoddodd Jason Thomas yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd am gynlluniau i Gymru gynnal cymal o Tour de France 2027 a chwe gêm yn ystod Ewro 2028 yn Stadiwm Genedlaethol Cymru (Stadiwm Principality). Nododd Jason fod y "mega-ddigwyddiadau" hyn yn gofyn am gydweithredu helaeth rhwng llywodraethau ac awdurdodau lleol a bod y ddau ddigwyddiad wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol i sicrhau parhad ni waeth beth fo'r newid gwleidyddol.

4.2 Croesawodd Carys Williams y papur gan ofyn am sicrwydd pellach ynghylch y risgiau sy'n gysylltiedig â chynnal y digwyddiadau hyn o ran enw da, a'r gwaith o archwilio mesurau rheoli a lliniaru sy'n cael eu rhoi ar waith i reoli'r risg. Gofynnodd Carys hefyd am sicrwydd ynghylch yr adenillion o fuddsoddi a chynllunio gwaddol.

4.3 Cododd Mike Usher y posibilrwydd o brotestiadau wedi'u trefnu a rhwystredigaeth leol a allai fod yn gysylltiedig â'r digwyddiadau. Gofynnodd am sicrwydd ynghylch y mesurau lliniaru i fynd i'r afael â'r risgiau hyn.

4.4 Gofynnodd Sioned Evans am sicrwydd bod yr holl dimau perthnasol yn Llywodraeth Cymru yn rhan o'r trafodaethau, gan gynnwys Gwasanaethau Cyfreithiol a Chyllid Canolog.

4.5 Nododd Emma Williams y cyfle y mae'r digwyddiadau yn ei gynnig i hyrwyddo'r Gymraeg a'r angen i dîm y Gymraeg yn Llywodraeth Cymru fod yn rhan o'r gwaith cynllunio. Tynnodd Emma sylw hefyd at y cyfle y mae'r digwyddiadau yn ei gynnig i fyfyrwyr yn y sector addysg bellach a thrydyddol sy'n astudio pynciau perthnasol ee twristiaeth a rheoli digwyddiadau, i ennill profiadau gwerthfawr. Nododd hefyd y cyfle i feithrin cysylltiadau â cholegau addysg bellach, yn enwedig ar hyd llwybr y Tour de France.

4.6 Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu cyfraniadau a nododd y gweithred i Jason roi adroddiad yn ôl i'r Bwrdd ar y pwyntiau a godwyd.

5. Y diweddaraf ar Barodrwydd ar gyfer yr Etholiad

5.1 Oherwydd cyfyngiadau amser, cafodd yr eitem hon ei chanslo ac awgrymodd y Cadeirydd y dylai'r Cyfarwyddwyr Anweithredol gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar ôl y cyfarfod.

6. Unrhyw fater arall

6.1 Gofynnodd Carys Williams am gopi o’r cynllun ymlaen ar gyfer cyfarfodydd y Bwrdd. Cynhelir cyfarfod nesaf y Bwrdd ar 13 Mawrth.