Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r wybodaeth am adeiladu tai newydd yn seiliedig ar adroddiadau arolygwyr adeilad yr awdurdodau lleol a'r Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai (NHBC).  Ni cheir yn y datganiad hwn wybodaeth gan PAIs eraill, sy’n debygol o arwain at dan gyfrif yng nghyfanswm yr anheddau newydd a ddechreuwyd ac a gwblhawyd (gweler y nodiadau). Mae'r wybodaeth yn yr adroddiad hwn yn cwmpasu chwarter 3 blwyddyn ariannol 2025 i 2026 (Hydref i Ragfyr 2025).

Pwyntiau allweddol

Ffigur 1: nifer yr anheddau newydd a ddechreuwyd ac a gwblhawyd, chwater 3 2016 i 2017 i chwater 3 2025 i 2026

Image

Disgrifiad o ffigur 1: siart llinell sy'n dangos y cafwyd gostyngiad cyffredinol yn nifer y tai newydd a ddechreuwyd rhwng chwarter 3 2016 i 2017 a chwarter 3 2025 i 2026.  Er bod nifer y cychwyniadau anheddau newydd wedi parhau i ostwng yn y flwyddyn ddiweddaraf, mae nifer y cwblhau anheddau newydd wedi cynyddu.

Ffynhonnell: arolygwyr adeiladu yr awdurdodau lleol a data’r NHBC

[Nodyn 1] Ni chasglwyd data chwarterol ar gyfer 2020 i 2021 na 2021 i 2022 oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19).

[Nodyn 2] Mae ffigurau amcangyfrifedig wedi'u cynnwys ar gyfer Gwynedd ar gyfer Chwarter 3 2025 to 2026.

  • Dechreuwyd 765 o anheddau newydd yn ystod Hydref i Ragfyr 2025, 1% mwy na’r un chwarter yn 2024 (760). 
  • Cwblhawyd 1,811 o anheddau newydd yn ystod Hydref i Ragfyr 2025, 42% mwy na’r un chwarter yn 2024 (1,275). Dyma'r ffigur uchaf a gofnodwyd ers Chwarter 3 2017 i 2018.
  • Mae'r cynnydd hwn yn cael ei yrru'n bennaf gan gwblhau datblygiad mawr o fflatiau yng Nghaerdydd yn ystod y cyfnod hwn.
  • Roedd hanner o anheddau newydd a gwblhawyd yn cynnwys tair ystafell wely neu fwy.
  • Roedd y rhan fwyaf o’r anheddau newydd a gwblhawyd yn perthyn i’r sector preifat (85%), gyda chyfran lai yn perthyn i awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (15%) (dylid trin gwybodaeth am ddeiliadaeth yn ofalus – gweler y Nodiadau am fanylion).

Nodiadau

  • Oherwydd talgrynnu, mae’n bosibl na fydd pob ffigur yn dod i 100%.
  • Mae'r data hwn yn seiliedig ar adroddiadau archwilwyr adeiladu awdurdodau lleol a'r NHBC sy’n arolygwr preifat cymeradwy. Nid yw'n cynnwys gwybodaeth oddi wrth arolygwyr preifat cymeradwy eraill, sy’n debygol o arwain at dan gyfrif yng nghyfanswm yr anheddau newydd a ddechreuwyd ac a gwblhawyd.. Mae'n anodd weithiau i swyddogion rheoli adeiladu a’r NHBC sy'n cofnodi'r data i nodi daliadaeth derfynol arfaethedig yr eiddo (sy’n sail ar gyfer y wybodaeth am ddeiliadaeth). Gall hyn arwain at dan gyfrif  tai newydd yn y sector cymdeithasol a gor-gyfrif ar gyfer y sector breifat. O fewn y sector gymdeithasol, gall hefyd arwain at dan gyfrif tai newydd gan awdurdodau lleol a gor-gyfrif tai landlordiaid cymdeithasol. Felly dylid trin y data daliadaeth yn ofalus. 
  • Bydd amrywiadau chwarterol yn dylanwadu ar y dechreuadau a chwblhadau, gan gynnwys amseru dechrau a chwblhau ar safleoedd mawr mewn rhai awdurdodau a ffactorau tymhorol fel gwyliau a thywydd. Nid yw'r ystadegau hyn yn cael eu haddasu'n dymhorol.
  • Rydym hefyd yn cyhoeddi ystadegau ar wahân ar ddarpariaeth tai fforddiadwy. Mae'r ffigurau'n cwmpasu'r holl unedau tai fforddiadwy ychwanegol, p'un ai drwy adeiladu o'r newydd, prynu, caffael, prydlesu neu addasu anheddau presennol.
  • Y hysbydsiad ystadegau Asesu dichonoldeb defnyddio data gweinyddol i fesur cyflenwad tai newydd i'w gyhoeddi ar 14 Mai 2026.

Cyhoeddir pwyntiau allweddol a data StatsCymru yn chwarterol a chyhoeddir adroddiad blynyddol. Mae’r data ar StatsCymru yn cynnwys data ar lefel awdurdodau lleol yn ogystal â nifer yr anheddau newydd a gwblhawyd fesul math yr annedd a nifer yr ystafelloedd gwely.

Manylion cyswllt

Tîm Tystiolaeth Cyflwr Tai
E-bost: ystadegau.tai@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099