Adroddiad a argymhellion Grŵp Cynghori Annibynnol ar Grid Trydan y Dyfodol i Gymru: ymateb Llywodraeth Cymru
Yr hyn rydym yn bwriadu ei wneud yn ymateb i argymhellion ar ddatblygiad grid trydan yn y dyfodol yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Bydd grid Cymru'n wynebu cyfnod digynsail o ddatblygu dros y 25 mlynedd nesaf, yn dilyn chwarter canrif pan na welwyd fawr o ehangu sylweddol ar y rhwydwaith.
Mae uwchraddio'r grid yn hanfodol ar gyfer datgarboneiddio, diogelu cyflenwadau ynni a chyfleoedd economaidd. I gadw pobl yn gynnes, gwefru cerbydau trydan a gwella ac ehangu busnesau, rhaid wrth drydan. Yn ôl ein hadroddiadau ar Gridiau Ynni'r Dyfodol i Gymru, bydd angen pum gwaith yr ynni adnewyddadwy yr ydym yn ei gario nawr i fodloni'r gofynion hyn yng Nghymru. Mae angen felly gwella'r grid a'i ddiweddaru. Rhaid i ni wella sut rydym yn cynllunio ac yn cynnal y newid hwn - heb gyflwyno oedi a fyddai'n arafu'r gwelliannau i ddiwydiant neu gymunedau.
Hoffwn ddiolch i'r Grŵp Cynghori Annibynnol am ei waith ac am gynnig argymhellion ymarferol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ynghylch sut y dylid ystyried cynigion ar gyfer grid trydan newydd. Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu'r adroddiad hwn fel cam pwysig tuag at sicrhau bod ein grid trydan yn gallu diwallu anghenion Cymru'r dyfodol.
Wrth i Gymru agosáu at gyfnod o newid etholiadol, bydd y cyfrifoldeb am benderfynu sut mae'r casgliadau a'r argymhellion hyn yn cael eu symud ymlaen yn trosglwyddo i Lywodraeth Cymru yn y dyfodol. Felly, bwriad yr ymateb hwn yw cefnogi parhad ac ystyriaeth wybodus o'r materion a nodwyd. Bydd ymrwymiad terfynol i'r camau gweithredu a amlinellir yn yr ymateb hwn yn amodol ar benderfyniadau'r Llywodraeth nesaf.
Argymhelliad 1: Paratoi’r cyhoedd a chyfathrebu â nhw
Crynodeb o’r argymhelliad
Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod pobl a busnesau Cymru wedi cael eu paratoi ar gyfer y newidiadau i’r grid sydd eu hangen ar gyfer datgarboneiddio, gan gynllun cyfathrebu clir i gefnogi a hysbysu pawb trwy’r newid. Dylai’r cynllun hwn dynnu sylw at fanteision y newidiadau i’r seilwaith a darparu gwybodaeth am y cymorth a’r iawndal sydd ar gael i’r rheini yr effeithir arnyn nhw.
Ymateb: derbyn
Er mwyn ennyn cefnogaeth pobl ledled Cymru i ddarparu'r rhwydwaith trydan sydd ei angen ar gyfer dyfodol carbon isel tecach, mae'n hanfodol eu bod yn meddu ar wybodaeth a thystiolaeth berthnasol a bod Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa i allu hyrwyddo'r gwaith sydd eisoes ar y gweill yn y sector ynni ac ychwanegu ato.
Byddwn yn cychwyn drwy chwilio am opsiynau i gryfhau'r dystiolaeth trwy ymchwil gymdeithasol a deialog ddwyffordd gyda'r cyhoedd. Gallwn defnyddio'r dystiolaeth i lywio penderfyniadau polisi a chyfathrebu'r Llywodraeth i helpu'r cyhoedd i ddeall bod angen buddsoddi yn y rhwydwaith trydan yng Nghymru.
Mae gan Lywodraeth Cymru raglen genedlaethol, Gweithredu ar Newid Hinsawdd, ar gyfer cyfathrebu ac ymgysylltu â'r cyhoedd sy'n golygu gwrando ar farn y cyhoedd a rhoi gwybod am ffynonellau cymorth a gwybodaeth am y newid yn yr hinsawdd. Trwy'r rhaglen hon, gallwn datblygu naratif cryfach a mwy ystyrlon sy'n tynnu sylw at rôl hanfodol y grid wrth fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd, a byddwn yn defnyddio platfformau cyfathrebu sydd eisoes wedi ennill eu plwyf fel Wythnos Hinsawdd Cymru a grantiau Sgyrsiau am yr Hinsawdd i ategu'r gwaith sydd eisoes ar y gweill i drafod â chymunedau am y seilwaith grid. Bydd cyfleoedd hefyd i weithio â sefydliadau eraill gan gynnwys llywodraethau a chwmnïau’r rhwydwaith i ddatblygu'r ddeialog gyhoeddus bresennol am rwydweithiau.
Argymhelliad 2: Gwybodaeth ffeithiol hygyrch am seilwaith y grid
Crynodeb o’r argymhelliad:
Dylai Llywodraeth Cymru hyrwyddo neu gomisiynu gwybodaeth ffeithiol, hygyrch am seilwaith y grid trydan, gan esbonio agweddau ac opsiynau technegol mewn ffordd sy’n hawdd i’r cyhoedd eu deall.
Ymateb: derbyn
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod manteision darparu gwybodaeth glir a hygyrch am seilwaith y rhwydwaith trydan yn eang i'r cyhoedd a rhanddeiliaid. Rydym yn cytuno y gall hyn sicrhau eglurder ynghylch y dewisiadau ar gyfer y rhwydwaith, yn enwedig i'r rhai yr effeithir arnynt gan ddatblygiadau posibl, a gwella'r trafod rhwng yr holl randdeiliaid.
Byddwn yn edrych am lwybrau i weithio gydag arbenigwyr technegol a phartneriaid y diwydiant i ddatblygu gwybodaeth glir, hygyrch am y technolegau a'r opsiynau technegol sy'n gysylltiedig â datblygu’r seilwaith a’r rhwydwaith trydan. Gallwn hefyd gydweithio â gweithwyr cyfathrebu a chynrychiolwyr o'r gynulleidfa fwriedig i sicrhau bod y deunyddiau hyn yn hawdd eu deall ac yn hybu’r sgwrs â'r rheini yr effeithir arnynt, gan gynnwys pobl nad ydynt yn arbenigwyr yn y maes hwn.
Argymhelliad 3: Trosolwg clir o’r prosesau ar gyfer datblygu prosiectau seilwaith
Crynodeb o’r argymhelliad:
Dylai Llywodraeth Cymru roi trosolwg clir o’r prosesau sydd ynghlwm wrth brosiectau seilwaith mawr, gan gynnwys amserlenni, camau a chyfleoedd i’r cyhoedd gyfrannu. Bydd hyn yn helpu pobl i ddeall sut a phryd y cân nhw gymryd rhan a gallai ddatgelu ffyrdd i’w darparu’n gyflymach er mwyn taro targedau datgarboneiddio.
Ymateb: derbyn
Mae darparu gwybodaeth fanwl am benderfyniadau, amserlenni, a chyfleoedd i'r cyhoedd gymryd rhan wrth ddatblygu'r grid yn debygol o helpu'r cyhoedd i ddeall y broses yn well. Gallai'r ddealltwriaeth hon helpu i roi ffocws i ddisgwyliadau o ran cyfleoedd i drafod, gan ddisgrifio'r amserlenni sy’n gysylltiedig â phrosiectau seilwaith mawr, a hyrwyddo cyfranogiad effeithiol gan randdeiliaid yn y prosesau hynny yn y camau ymgynghori pwysicaf.
Bydd Llywodraeth Cymru yn chwilio am ffyrdd i ymgymryd â, neu comisiynu gwaith i ddatblygu gwybodaeth gliriach a mwy hygyrch ar gyfer y cyhoedd am y prosesau sy'n gysylltiedig â chynllunio a chynnal prosiectau seilwaith grid. Bydd hyn yn adeiladu ar y pwyslais ar ymgysylltu â'r gymuned a roddwyd gydol proses Deddf Seilwaith (Cymru) 2024, a bydd yn cynnwys gweithio gyda phartneriaid arbenigol i sicrhau cywirdeb a pherthnasedd technegol, gan droi at arbenigedd sefydliadau fel Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, cyrff cynllunio, a rhanddeiliaid technegol perthnasol eraill. Rydym yn rhagweld y bydd dulliau graffig a gweledol yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith hwn.
Argymhelliad 4: Tystiolaeth i helpu i gymharu costau ac effeithiau seilwaith trawsyrru a dosbarthu.
Crynodeb o’r argymhelliad:
Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda chyrff Prydeinig i gomisiynu adroddiadau sy’n cymharu costau a nodweddion technegol seilwaith trawsyrru a dosbarthu, gan gynnwys technegau amgen a’u heffeithiau ar yr amgylchedd. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer rhwydweithiau dosbarthu yng Nghymru.
Ymateb: derbyn
Mae penderfyniadau cadarn yn dibynnu ar dystiolaeth yr un mor gadarn, sy'n seiliedig ar ddata, hynny am fanteision tymor byr a thymor hwy. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwella'r data a'r dystiolaeth mewn cysylltiad â chostau a nodweddion technegol gwahanol opsiynau i'r seilwaith, yn enwedig ar y lefel ddosbarthu lle mae'r tystiolaeth yn llai datblygedig.
Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno bod angen adroddiad sy'n cynnwys ffocws ar gostau lefel dosbarthu. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y bydd yn bwysig diffinio cwmpas unrhyw adroddiad er mwyn sicrhau bod technolegau fel aredig cebl yn cael eu cynnwys wrth ystyried cost a chyflymder dulliau. Bydd swyddogion yn gweithio gydag arbenigwyr y diwydiant, fel y Gymdeithas Rhwydweithiau Trydan ac Ofgem, i gwmpasu'r ffordd orau o gyflawni'r gwaith a sefydlu costau ac amserlenni i lywio penderfyniadau comisiynu.
Argymhelliad 5: Rhagor o ymchwil i aredig ceblau
Crynodeb o’r argymhelliad
Dylai Llywodraeth Cymru gydweithio â chwmnïau’r rhwydwaith a rhaglenni arloesi i ystyried aredig ceblau fel opsiwn ar gyfer rhai llwybrau, gan adeiladu ar wybodaeth a dealltwriaeth sy’n bod eisoes o’i gostau, ei effeithiau a’i addasrwydd ar draws tirweddau a folteddau gwahanol.
Ymateb: derbyn mewn egwyddor
Y polisi a ffefrir gan Lywodraeth Cymru yw y dylai rhwydweithiau trydan fynd dan ddaear lle bo hynny'n bosibl. Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno y gallai rhagor o ymchwil i aredig ceblau roi data gwerthfawr i ddatblygu cytundeb â'r diwydiant ynghylch pryd y byddai orau rhoi ceblau dan ddaear, a'r costau o'u cymharu â thechnegau eraill.
Mae cyfle i adeiladu ar y ddealltwriaeth a'r cysylltiadau a ddatblygwyd trwy waith IAG i gasglu tystiolaeth fanylach am aredig ceblau. Gall hyn yn gynnwys gweithio gyda chwmnïau'r rhwydwaith i nodi lle mae angen rhagor o fanylion technegol neu gostau neu waith, a bod yn glir a yw'r prif fylchau yn ymwneud â deall costau cymharol, addasrwydd safle, neu ymwybyddiaeth ehangach y sector o ble y byddai'r dechneg ar ei mwyaf effeithiol. Byddai casglu’r dystiolaeth hon yn nodi a oes angen astudiaethau neu dreialon wedi'u targedu i gefnogi ystyriaeth fwy a mwy cyson o aredig cebl wrth gyflenwi grid. Bydd swyddogion yn archwilio'r potensial ar gyfer gweithredu i lywio penderfyniadau cynnar gan Lywodraeth yn y dyfodol.
Mae derbyn hyn ac argymhellion eraill mewn egwyddor yn dangos y bydd angen cyfranogiad a chydweithrediad nifer o sefydliadau eraill i wireddu bwriad yr IAG. Bydd y Llywodraeth Cymru nesaf yn penderfynu a ddylid gweithredu fel cynullydd ac arweinydd wrth fynd â'r gwaith hwn yn ei flaen.
Argymhelliad 6a: Polisi Llywodraeth Cymru ynghylch rhwydweithiau trydan
Crynodeb o’r argymhelliad:
Dylai Llywodraeth Cymru adolygu’r polisi ar brosiectau seilwaith grid, er mwyn gwella penderfyniadau a thryloywder.
Ymateb: derbyn
Mae'n bwysig bod yr holl feysydd polisi perthnasol yn rhoi eu cefnogaeth i ddarparu rhwydweithiau ynni hanfodol yn brydlon ac i'r egwyddorion lles ac amgylcheddol a ddaw o dan ddeddfwriaeth Cymru.
Yn ein barn ni, mae'n hanfodol penderfynu ar bolisi strategol ar gyfer seilwaith y grid ar lefel genedlaethol, a mynd ati mewn ffordd integredig i gynllunio datblygiadau ynni a seilwaith ychwanegol ar gyfer y rhwydwaith grid trydan. Gellid defnyddio’r fframweithiau ehangach hyn wedyn i gefnogi gwaith i nodi lle mae angen gwella polisi cynllunio.
Gallai Llywodraeth nesaf Cymru ystyried ymrwymo i ddatblygu polisi manylach mewn perthynas â rhwydweithiau trydan, gan gefnogi penderfyniadau tryloyw a chyson yn y maes hwn.
Argymhelliad 6b: Fframwaith strwythuredig ar gyfer cynllunio a chydsynio
Crynodeb o’r argymhelliad:
Dylai Llywodraeth Cymru ystyried datblygu fframwaith strwythuredig ar gyfer adolygu cynlluniau seilwaith a chydsynio ceisiadau, gan sicrhau bod yr holl gostau, effeithiau a manteision yn cael eu hystyried.
Ymateb: derbyn
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fod yn dryloyw, yn enwedig ynghylch sut mae penderfyniadau’n cael eu gwneud, sut mae effeithiau'n cael eu hasesu a sut mae gwahanol opsiynau technegol yn cael eu hystyried. Daeth y broses Prosiectau Seilwaith Arwyddocaol (SIP) o dan Ddeddf Seilwaith (Cymru) 2024 i rym ar 15 Rhagfyr 2025 - proses a ddatblygwyd mewn partneriaeth â'r holl randdeiliaid. Mae'n sicrhau bod yr holl ffactorau perthnasol yn cael eu hystyried wrth wneud penderfyniadau ac mae'n ganllaw manwl ar gyfer trafod â chymunedau am brosiectau o'r math hwn.
Rydym hefyd wedi ymrwymo i helpu cyrff cydsynio i wneud penderfyniadau amserol a chadarn yn y maes cymhleth hwn.
Rydym yn cydnabod bod angen sgiliau ac adnoddau digonol i sicrhau system ymgeisio effeithiol ac effeithlon. Mae'r adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan RTPI Cymru, Adnoddau Cynllunio'r Sector Cyhoeddus yng Nghymru, yn nodi heriau sylweddol o ran adnoddau, gydag anghenion yn ymddangos ym meysydd cynllunio rhanbarthol, gwaith achos a phrosiectau seilwaith mawr. Rydym eisoes wedi cymryd camau i ddarparu adnoddau seilwaith ar sail ranbarthol.
Gallai Llywodraeth nesaf Cymru edrych ar y posibilrwydd o ddatblygu fframwaith strwythuredig, cyson ar gyfer cyflwyno costau, effeithiau a dewisiadau amgen o fewn prosesau cynllunio ar gyfer seilwaith y grid.
Argymhelliad 7: Mynd i’r afael â bylchau ehangach yn y dystiolaeth
Crynodeb o’r argymhelliad:
Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda rhanddeiliaid i nodi a llenwi bylchau yn y dystiolaeth a ddefnyddir i asesu effeithiau seilwaith y grid, gan gomisiynu ymchwil yn ôl y gofyn i sicrhau y gall penderfyniadau ystyried yr effeithiau amgylcheddol, cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd yn llawn.
Ymateb: Derbyn mewn egwyddor
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod angen sylfaen dystiolaeth gryfach a mwy ystyrlon o effeithiau amgylcheddol, cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd seilwaith y grid. Mae deall effeithiau hirdymor a chronnus rhwydweithiau trydan ledled Cymru yn bwysig er mwyn gallu bodloni egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ac mae'r Grŵp Cynghori Annibynnol (IAG) eisoes wedi tynnu sylw at nifer sylweddol o feysydd lle mae angen rhagor o waith.
Rydym yn cydnabod y meysydd eang o dystiolaeth a nodwyd gan y Grŵp ac yn cydnabod y bydd datblygu'r dystiolaeth hon ymhellach yn orchwyl fawr a hirdymor. Bydd angen rhannu'r gwaith hwn yn elfennau clir, rheoladwy, gyda chefnogaeth y partneriaid cywir yn y llywodraeth, diwydiant a'r byd academaidd, gydag adnoddau ymchwil digonol i'w ategu.
Comisiynodd Llywodraeth Cymru dri adolygiad o'r llenyddiaeth i gefnogi'r IAG. Mae hynny'n creu sylfaen ar gyfer adeiladu rhaglen ehangach, fwy strategol ar gyfer datblygu tystiolaeth.
O ystyried natur cynllunio a rheoleiddio'r rhwydwaith ledled y DU, bydd Llywodraeth Cymru yn ysgrifennu at Lywodraeth y DU i greu partneriaeth i gynnal y rhaglen waith hon.
Casgliad
Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno â chasgliadau'r Grŵp Cynghori Annibynnol y bydd gwybodaeth gliriach i'r cyhoedd, cyfathrebu gwell, a phrosesau mwy gweladwy yn ennyn ymddiriedaeth, yn lleihau gwrthdaro, ac yn helpu prosiectau rhwydwaith hanfodol i fynd rhagddyn nhw'n esmwyth.
Mae'r adroddiad hwn yn cynnig sylfaen i lywio trafodaeth a gwneud penderfyniadau yn y dyfodol. Rydym yn edrych ar ein tymor nesaf yn y Llywodraeth i fynd ati i roi'r argymhellion hyn ar waith mewn ffordd fydd yn helpu i ddatblygu'r grid yn gyflym, yn adlewyrchu anghenion a gwerthoedd Cymru, ac yn sicrhau bod ein system ynni yn barod ar gyfer y degawdau i ddod.
