Hyrwyddo Ymwybyddiaeth o'r Cynllun Cyflawni Llygredd Aer: crynodeb o'r ymatebion
Crynodeb o'r ymatebion i'n gynllun gweithredoedd i hybu ymwybyddiaeth o'r risg i iechyd ac amgylchedd a achosir gan lygredd aer.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Y Cefndir
Mae ein strategaeth genedlaethol, Cynllun Aer Glân i Gymru: Awyr Iach, Cymru Iach ("y Cynllun Aer Glân"), yn cynnig llwybr 10 mlynedd tuag at sicrhau aer glanach. Bydd y gweithgareddau ynddo'n mynd i’r afael â ffynonellau hysbys o lygredd aer fel trafnidiaeth, diwydiant (gan gynnwys amaethyddiaeth), ac allyriadau o gartrefi a busnesau. Un o'r prif ymrwymiadau ynddo yw cyfathrebu'n well a chryfhau'r gefnogaeth i annog pobl i newid eu hymddygiad. Mae hyn yn adlewyrchu bod gan bawb ran i'w chwarae o ran cydweithredu i sicrhau aer glanach.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella ansawdd aer a lleihau effeithiau llygredd aer ar iechyd pobl, bioamrywiaeth, yr amgylchedd naturiol a’n heconomi.
Mae llygredd aer yn achosi risgiau sylweddol i iechyd pobl, byd natur a'r amgylchedd ehangach, gan effeithio ar unigolion a chymunedau ledled Cymru. Mae codi ymwybyddiaeth o'r effeithiau hyn yn hanfodol i roi grym i bobl allu dewis yn ddoeth i gyfrannu at aer glanach ac amgylchedd iachach.
Mae Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i hyrwyddo ymwybyddiaeth o risgiau llygredd aer ac annog gweithredu i leihau allyriadau. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod pobl yn deall sut mae llygredd aer yn effeithio ar iechyd – yn enwedig iechyd grwpiau mwyaf bregus, fel plant, oedolion hŷn, a'r rhai sydd â chyflyrau anadlol. Mae'r Cynllun Cyflawni drafft yn disgrifio'r hyn rydym yn bwriadu ei wneud wrth ysgwyddo'r ddyletswydd hon.
Cafodd y Cynllun Cyflawni ei ddatblygu gyda chymorth Grŵp Cyflawni Hyrwyddo Ymwybyddiaeth o Lygredd Aer. Mae'r Athro Paul Lewis, Cadeirydd y grŵp, wedi dod ag arbenigedd helaeth ym maes effeithiau amgylcheddol ar iechyd anadlol. Mae'r Athro Lewis wedi cyfrannu at nifer o baneli cynghori pwysig, gan gynnwys Panel Cynghori ar Aer Glân Llywodraeth Cymru, gan helpu i osod targedau gronynnau mân ar gyfer y Ddeddf Aer Glân arfaethedig yng Nghymru. Mae hefyd yn wedi bod yn cefnogi Panel Adolygu Annibynnol Cyfarwyddyd Ansawdd Aer Cymru a'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen Llosgi Tanwydd Solet Domestig yng Nghymru. Mae'r Grŵp Cyflawni yn cynnwys hefyd gydweithwyr sydd â phrofiad ymarferol ym maes iechyd cyhoeddus, newid ymddygiad, addysg, ymgysylltu â'r gymuned, cyfathrebu ac awdurdodau lleol.
Mae'r Cynllun Cyflawni drafft yn canolbwyntio ar gefnogi a hyrwyddo newid cadarnhaol, gan sicrhau bod gan unigolion a busnesau'r wybodaeth angenrheidiol i gymryd camau gwirfoddol i gyfyngu ar lygredd aer. Er bod mesurau gorfodi’n parhau i fod yn bwysig, ar addysg a grymuso y mae'r pwyslais, gan sicrhau bod aer glanach yn nod hygyrch i bawb.
Yn y Cynllun Cyflawni drafft rydym yn cynnig nifer o bethau y gellid eu gwneud i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd ac i drafod mwy â nhw. Gall hynny gynnwys ymgyrchoedd cyfathrebu cenedlaethol, darparu adnoddau addysgol, canllawiau i awdurdodau lleol i gefnogi eu strategaethau newid ymddygiad eu hunain yn unol â'u hanghenion lleol a sicrhau bod gan unigolion a sefydliadau yr hyn sydd ei angen arnyn nhw i gyfrannu at wella ansawdd aer ledled Cymru. Trwy'r ymgynghoriad, cawsom glywed barn am yr ymrwymiadau hyn.
Trosolwg o'r Ymgynghoriad
Gofynnodd yr ymgynghoriad am adborth gan y cyhoedd ar y Cynllun Cyflawni drafft ar gyfer Hyrwyddo Ymwybyddiaeth o Lygredd Aer (Cynllun Cyflawni). Mae'r drafft yn esbonio sut rydym am godi ymwybyddiaeth yng Nghymru am y risgiau y mae llygredd aer yn eu creu i iechyd pobl a'r amgylchedd naturiol, ac mae'n disgrifio'r camau i leihau neu gyfyngu ar lygredd aer. Mae'r rheini'n cynnwys ymgyrchoedd newid ymddygiad, adnoddau addysg i ysgolion a chymunedau, gwybodaeth gliriach i'r cyhoedd am ansawdd aer lleol, a chanllawiau ymarferol i helpu newidiadau bach o ran teithio, gwresogi ac ymddygiad pob dydd.
Y broses ymgynghori
O 5 Awst tan 28 Hydref 2025, gwnaethon ni ofyn barn am y graddau y bydd y Cynllun Cyflawni ar Hyrwyddo Ymwybyddiaeth am Lygredd Aer yn helpu i godi ymwybyddiaeth ac yn cyfrannu at newid cadarnhaol. Roedd y Cynllun Cyflawni drafft yn cynnwys un ar bymtheg o weithredoedd penodol a fydd yn cael eu cynnal gan Lywodraeth Cymru a'i phartneriaid. Mae'r camau wedi'u rhestru o dan bedwar pennawd yn ôl y maes y mae pob gweithred wedi'i thargedu ar ei gyfer.
Gwnaethom ofyn:
- a fyddai camau gweithredu'r Cynllun Cyflawni yn helpu i godi ymwybyddiaeth o'r risgiau i iechyd pobl sy'n deillio o lygredd aer;
- a fyddai'r camau gweithredu’n helpu i godi ymwybyddiaeth o'r risgiau i'r amgylchedd naturiol sy'n deillio o lygredd aer;
- a fyddai'r camau gweithredu’n helpu pobl i nodi ffyrdd o leihau eu cyfraniad at lygredd aer;
- a fyddai'r camau gweithredu’n helpu pobl i nodi ffyrdd o leihau eu cysylltiad â llygredd aer; ac
- a fyddai'r Cynllun Cyflawni’n cael effaith gadarnhaol ar gyfleoedd pobl i ddefnyddio'r Gymraeg ac a fydd yn sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei thrin yn gyfartal â'r Saesneg.
Gwnaethom ofyn hefyd am unrhyw sylwadau perthnasol eraill ar y cynllun cyflawni nad yw'r cwestiynau uchod yn ymdrin â nhw.
Canlyniad yr ymgynghoriad
Cawsom 28 o ymatebion gan aelodau'r cyhoedd, awdurdodau lleol, sefydliadau iechyd ac amgylcheddol, a phartïon eraill â diddordeb, gan gynnwys grwpiau cymunedol, cyrff proffesiynol, cynrychiolwyr diwydiant a mudiadau trydydd sector a gwirfoddol. Hefyd, cynhaliwyd gweithdy ymgynghori gydag awdurdodau lleol ar 10 Medi 2025.
Roedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad ar Hyrwyddo Ymwybyddiaeth o Lygredd Aer yn gymysg, gyda llawer yn cefnogi nodau'r cynllun i godi ymwybyddiaeth a grymuso'r gweithredu, ond eraill yn mynegi amheuon am ei effaith debygol neu a fyddai'r mesurau a gynigir yn ddigon. Er bod y farn am y cynllun drafft ei hun yn amrywio, roedd cytundeb bras ynghylch pwysigrwydd gwybodaeth glir, hygyrch a'r angen i dargedu addysg – yn enwedig ar grwpiau bregus, ysgolion a gweithwyr iechyd proffesiynol. Tynnodd rhai ymatebwyr ein sylw at fylchau, megis prinder sylw ar yr amgylchedd naturiol, ansawdd aer gwledig a rôl busnesau a gorfodi. Codwyd pryderon am effeithiolrwydd gweithredoedd gwirfoddol yn unig, yr angen am ymgysylltu cryfach â rhanddeiliaid ac anawsterau newid ymddygiadau heb gymorth systemig ehangach. Er gwaetha'r farn gymysg ar gynigion penodol, roedd cydnabyddiaeth gyffredinol bod angen am gyfathrebu cydgysylltiedig, adnoddau dwyieithog a chymorth ymarferol i helpu unigolion a chymunedau i leihau eu cysylltiad â llygredd aer a'u cyfraniad ato.
Mewn ymateb i'r adborth a gafwyd, rydym wedi gwneud sawl newid i gryfhau'r cynllun. Yn eu plith, cynyddu nifer y camau gweithredu o 16 i 18 a mireinio sawl maes i adlewyrchu'r awgrymiadau a gafwyd yn yr ymgynghoriad. Ceir rhagor o fanylion isod.
Crynodeb o’r ymatebion
Cwestiwn 1
I ba raddau ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno y bydd camau gweithredu'r Cynllun Cyflawni yn helpu i godi ymwybyddiaeth o'r risgiau i iechyd pobl sy'n deillio o lygredd aer?
- Cytuno'n gryf: 8
- Cytuno: 13
- Ddim yn cytuno nac yn anghytuno: 3
- Anghytuno: 3
- Anghytuno'n gryf: 1
Dadansoddiad Cryno
Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr yn cytuno neu'n cytuno'n gryf y byddai'r Cynllun Cyflawni yn helpu i godi ymwybyddiaeth o risgiau iechyd llygredd aer, ac yn croesawu'r ffocws ar addysg, cyfathrebu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid. Tynnodd rhai sylw at yr angen am dargedu negeseuon yn well ar gyfer grwpiau bregus, gan gynnwys plant, oedolion hŷn a'r rhai â chyflyrau iechyd cronig. Roedd gan leiafrif amheuon, gan holi a fyddai ymwybyddiaeth yn unig yn arwain at newid ystyrlon, a galwyd am weithredu mwy cadarn a thystiolaeth o effaith. Roedd rhai ymatebwyr yn teimlo nad oedd y cynllun yn mynd yn ddigon pell i gysylltu llygredd aer â chanlyniadau iechyd difrifol, fel canser, neu ag anghydraddoldebau.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Rydym yn croesawu'r gefnogaeth fras i godi ymwybyddiaeth am y risgiau i iechyd sy'n deillio o lygredd aer. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cyfathrebu clir, hygyrch a'i dargedu, yn enwedig i grwpiau agored i niwed. Bydd yr adborth yn dylanwadu ar adnoddau ac ymgyrchoedd dwyieithog, a byddwn yn gweithio gyda gweithwyr iechyd proffesiynol a phartneriaid cymunedol i sicrhau bod negeseuon yn berthnasol ac yn effeithiol. Rydym yn cydnabod y pryderon bod angen gwneud mwy na chodi ymwybyddiaeth a byddwn yn parhau i fonitro a gwerthuso effeithiolrwydd ein gwaith.
Cwestiwn 2
I ba raddau ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno y bydd y camau gweithredu’n helpu i godi ymwybyddiaeth o'r risgiau i'r amgylchedd naturiol sy'n deillio o lygredd aer?
- Cytuno'n gryf: 4
- Cytuno: 15
- Ddim yn cytuno nac yn anghytuno: 4
- Anghytuno: 4
- Anghytuno'n gryf: 1
Dadansoddiad Cryno
Er bod llawer o ymatebwyr yn cytuno y byddai'r cynllun yn helpu i godi ymwybyddiaeth o'r risgiau i'r amgylchedd, dywedodd sawl un fod mwy o ffocws ar iechyd pobl nag ar yr amgylchedd naturiol. Galwodd rhai am ddangos yn gliriach y cysylltiad rhwng llygredd aer, colli bioamrywiaeth a newid hinsawdd, ac am fwy o wybodaeth am effaith llosgi domestig, amaethyddiaeth, a thanau gwyllt. Roedd rhai ymatebwyr yn teimlo y dylai'r cynllun gynnwys monitro rhywogaethau a chynefinoedd allweddol, ac enghreifftiau mwy ymarferol o niwed amgylcheddol.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Rydym yn cydnabod yr ymatebion a ddywedodd y gallai'r Cynllun Cyflawni dynnu mwy o sylw at effeithiau llygredd aer ar yr amgylchedd. Byddwn yn adolygu'r cynllun i gryfhau'r cyfeiriadau at fioamrywiaeth, ecosystemau a'r cysylltiadau rhwng ansawdd aer, newid hinsawdd, a datblygu cynaliadwy. Byddwn yn archwilio cyfleoedd i fonitro a chofnodi canlyniadau amgylcheddol, ac yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod negeseuon yn berthnasol i iechyd ac i'r amgylchedd.
Cwestiwn 3
I ba raddau ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno y bydd y camau gweithredu’n helpu pobl i nodi ffyrdd o leihau eu cyfraniad at lygredd aer?
- Cytuno'n gryf: 6
- Cytuno: 14
- Ddim yn cytuno nac yn anghytuno: 5
- Anghytuno: 2
- Anghytuno'n gryf: 1
Dadansoddiad Cryno
Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr yn cytuno neu'n cytuno'n gryf y byddai'r cynllun yn helpu pobl i nodi ffyrdd iddynt leihau eu cyfraniad, yn enwedig trwy ymgyrchoedd newid ymddygiad a chyngor ymarferol. Dywedodd rhai fod angen mwy o addysg wedi'i thargedu ar gyfer grwpiau penodol (e.e. defnyddwyr stôfau, busnesau, ysgolion), a mwy o gyngor clir, hawdd ei weithredu. Nododd eraill fod angen defnyddio amgylcheddau galluogi i helpu unigolion i newid eu hymddygiad, megis gwell trafnidiaeth gyhoeddus a seilwaith teithio llesol. Roedd lleiafrif yn teimlo na fyddai gweithredu gwirfoddol ar ei ben ei hun yn ddigon a galwyd am fesurau gorfodi a pholisi cryfach.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi unigolion, busnesau a chymunedau i leihau eu cyfraniad at lygredd aer. Byddwn yn parhau i ddatblygu a hyrwyddo canllawiau ymarferol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, a byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i fynd i'r afael â rhwystrau i newid ymddygiad. Byddwn yn ystyried yr adborth ar yr angen am amgylcheddau galluogi a mesurau polisi cryfach wrth i ni adolygu a diweddaru'r Cynllun Cyflawni a'r strategaethau cysylltiedig.
Cwestiwn 4
I ba raddau ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno y bydd y camau gweithredu’n helpu pobl i nodi ffyrdd o leihau eu cysylltiad â llygredd aer?
- Cytuno'n gryf: 5
- Cytuno: 14
- Ddim yn cytuno nac yn anghytuno: 6
- Anghytuno: 3
- Anghytuno'n gryf: 0
Dadansoddiad Cryno
Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr yn cytuno y byddai'r cynllun yn helpu pobl i leihau eu cysylltiad â llygredd, yn enwedig trwy raglenni a mentrau ysgolion a chymunedol. Ond dywedodd sawl un nad yw ysgolion yn gallu rheoli'r cysylltiad hwnnw, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig neu sydd â lefel uchel o lygredd. Galwodd rhai am ymyriadau ar sail lle, am wella seilwaith teithio llesol a pholisïau i ddelio ag ansawdd aer dan do. Dywedodd eraill bod angen cyngor a chefnogaeth glir ac ymarferol ar grwpiau agored i niwed.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Rydym yn cydnabod bod dod i lai o gysylltiad â llygredd aer yn gofyn am weithredoedd unigol a systemig. Bydd y Cynllun Cyflawni yn parhau i flaenoriaethu ymyriadau mewn meysydd lle ceir yr angen mwyaf ac sy'n cefnogi datblygu seilwaith a pholisïau sy'n galluogi pobl i'w hamddiffyn eu hunain. Byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid cymunedol i sicrhau bod adnoddau a chymorth yn cael eu targedu lle mae eu hangen fwyaf.
Cwestiwn 5
I ba raddau ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno y bydd y Cynllun Cyflawni’n cael effaith gadarnhaol ar gyfleoedd pobl i ddefnyddio'r Gymraeg ac y bydd yn sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei thrin yn gyfartal â'r Saesneg?
- Cytuno'n gryf: 6
- Cytuno: 11
- Ddim yn cytuno nac yn anghytuno: 9
- Anghytuno: 1
- Anghytuno'n gryf: 1
Dadansoddiad Cryno
Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr yn cytuno neu 'ddim yn cytuno nac yn anghytuno' ond roedd rhai'n gweld darpariaeth ddwyieithog yn hanfodol i sicrhau cynhwysiant ac ymgysylltu, yn enwedig mewn cymunedau gwledig a chymunedau Cymraeg. Roedd rhai'n teimlo y gallai'r cynllun wneud mwy i ymwreiddio'r Gymraeg mewn ffordd ystyrlon ym mhob gweithred, ond roedd ymatebwyr eraill yn ei weld yn bwnc llai perthnasol i bolisi ansawdd aer.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod yr holl gyfathrebiadau ac adnoddau ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid i ymgorffori'r Gymraeg ym mhob agwedd ar y Cynllun Cyflawni, gan sicrhau bod pawb yng Nghymru yn gallu cael gwybodaeth a chymryd rhan lawn mewn ymdrechion i wella ansawdd aer.
Cwestiwn 6
Os oes gennych unrhyw safbwyntiau neu sylwadau perthnasol eraill am y Cynllun Cyflawni nad ydych wedi gallu eu rhannu uchod, gallwch eu nodi yma.
Roedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn gefnogol i nodau'r Cynllun Cyflawni ar y cyfan, gyda llawer yn croesawu'r ffocws ar godi ymwybyddiaeth a rhoi'r grym i bobl weithredu. Roedd consensws bras ar bwysigrwydd gwybodaeth glir, hygyrch a dwyieithog, a'r angen i dargedu addysg, yn enwedig ar gyfer grwpiau bregus, ysgolion a gweithwyr iechyd proffesiynol. Tynnodd rhai ymatebwyr ein sylw at fylchau, megis prinder sylw ar yr amgylchedd naturiol, ansawdd aer gwledig a rôl busnesau a gorfodi. Codwyd pryderon am effeithiolrwydd gweithredoedd gwirfoddol yn unig, yr angen am ymgysylltu cryfach â rhanddeiliaid ac anawsterau newid ymddygiadau heb gymorth systemig ehangach. Er gwaethaf gwahaniaethau barn, roedd cydnabyddiaeth eang fod angen cydgysylltu cyfathrebu, canllawiau ymarferol, a phartneriaethau â rhanddeiliaid i helpu unigolion a chymunedau i ddod i lai o gysylltiad â llygredd aer, a lleihau eu cyfraniad ato.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Yn dilyn yr ymgynghoriad, mae'r Cynllun Cyflawni drafft wedi'i adolygu a'i gwblhau i adlewyrchu'r adborth a dderbyniwyd. Mae hyn yn cynnwys cynyddu nifer y camau gweithredu o 16 i 18, cryfhau cyfeiriadau at effeithiau amgylcheddol, darparu canllawiau cliriach i awdurdodau lleol, a mireinio'r elfennau am newid ymddygiad.
Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl cyhoeddi'r Cynllun terfynol ym mis Mawrth, ar ôl i'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig. ei gymeradwyo. Bydd y gwaith ar y camau gweithredu, sy'n rhedeg tan 2028, yn dechrau y gwanwyn hwn. Byddwn yn gwneud y gwaith cychwynnol gyda'n partneriaid dros y misoedd nesaf i ddechrau datblygu strategaeth ymgyrchu genedlaethol ac adnoddau ategol. Bydd y Grŵp Cyflawni Hyrwyddo Ymwybyddiaeth o Lygredd Aer yn ategu'r cyflawni a bydd ei rôl cynghori yn parhau.
