Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy'n cyhoeddi'r datganiad hwn yn ystod y toriad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cymorth sydd ar gael i'r rhai a fydd yn cael trafferth talu'r gost ychwanegol i wresogi eu cartrefi dros y misoedd nesaf. 

Bydd pobl ar incwm isel sy'n defnyddio olew gwresogi neu nwy petrolewm hylifol yn gymwys i gael taliad untro o £200 os ydynt ar Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor. Daw'r cyllid hwn o £3.8 miliwn a ddyrannwyd i Gymru gan Lywodraeth y DU, a gyhoeddwyd ar 16 Mawrth. Bydd awdurdodau lleol yn cysylltu'n uniongyrchol ag aelwydydd cymwys ac yn eu gwahodd i wneud cais. Bydd angen i bobl gadarnhau eu math o danwydd gwresogi a darparu manylion banc, a chaiff y taliadau eu gwneud yn uniongyrchol i gyfrifon banc. Bydd cyfnod hawlio o chwe mis o ddyddiad lansio'r cynllun.

Gall y rhai sy'n wynebu caledi ariannol difrifol nad ydynt yn gymwys wneud cais i'r Gronfa Cymorth yn ôl Disgresiwn (DAF). Aethom ati ar unwaith i wneud newidiadau i'r Gronfa mewn ymateb i'r sefyllfa sy'n dod i'r amlwg, wrth i ni ddatblygu'r cynllun sy'n cael ei lansio heddiw.  Fel y cyhoeddais ar 18 Mawrth, mae'r dyfarniad mwyaf ar gyfer olew gwresogi wedi cynyddu o £500 i £750, a gall pobl bellach wneud cais hyd at ddwywaith mewn cyfnod o 12 mis. 

Mae costau byw yn parhau i roi pwysau ar lawer o aelwydydd ledled Cymru, ac mae'r gwrthdaro yn y Dwyrain Canol yn codi prisiau. Bydd y cynllun sy'n cael ei gyhoeddi heddiw yn darparu cymorth ychwanegol ar unwaith i'r rhai sydd ei angen mwyaf.