Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Comisiynais yr Ysgrifennydd Parhaol i gynnal adolygiad o berthynas Llywodraeth Cymru â Peter Mandelson yn ei rolau yn Llywodraeth y DU, yn dilyn cais am ymchwiliad gan Rhun ap Iorwerth AS.

Rwyf bellach wedi derbyn yr adroddiad gan yr Ysgrifennydd Parhaol.

Bu’r adolygiad yn archwilio pob gohebiaeth – yn fewnol ac yn allanol – ac yn ystyried y ffeiliau Epstein a gyhoeddwyd. Daeth yr adolygiad i’r casgliad nad oedd dim a oedd yn cynrychioli risg i gynnal busnes Llywodraeth Cymru.