Neidio i'r prif gynnwy

Mae'n debyg nad safle treftadaeth y byd sy'n llawn hanes eiconig yw'r lle cyntaf sy'n dod i'r meddwl fel cartref newydd i griw o famaliaid pedair coes, ond yn fuan dyna lle bydd 18 gafr yn byw.

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Ebrill 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r argloddiau serth a'r archaeoleg ryfeddol yn Safle Treftadaeth y Byd Gwaith Haearn Blaenafon, sydd wedi'i leoli wrth odre Bannau Brycheiniog ac yn cael ei reoli gan Cadw, yn her wirioneddol o'i chymharu â'r ffordd arferol o reoli mannau gwyrdd hanesyddol. Ond mae'r hyn a ddechreuodd fel problem wedi agor y drws i gyfle annisgwyl.

A dyna hanes geifr Bagot.

Yn naturiol, mae'n well gan eifr blanhigion coediog a ffibrog fel mieri, rhedyn a draenen wen, y mae da byw eraill yn tueddu i'w hosgoi. Gall y mathau hyn o rywogaethau orlethu tirweddau diwydiannol yn gyflym, ond bydd arferion bwyta'r geifr yn helpu i'w cynnal yn naturiol.

Yn ecolegol, mae geifr hefyd yn darparu manteision gwirioneddol i fywyd gwyllt drwy deneuo llystyfiant trwm, sy'n golygu bod golau'n cyrraedd y tir yn well ac yn annog blodau gwyllt, glaswellt a phryfed i ffynnu. Yn wahanol i beiriannau sy'n lefelu llystyfiant yn unffurf, mae geifr yn creu amrywiaeth sy'n llawer mwy buddiol i beillwyr a bywyd gwyllt arall.

Mae'r fenter hefyd yn cefnogi nodau cynaliadwyedd Cadw. Nid oes angen tanwydd na chemegau ar eifr, maent yn cynhyrchu ychydig iawn o wastraff, ac yn helpu i leihau'r ôl troed carbon sy'n gysylltiedig â chynnal a chadw traddodiadol. Bydd gofal y geifr yn arloesol hefyd; bydd coleri ffensio rhithwir yn cael eu ffitio arnyn nhw ac byddan nhw'n cael eu monitro drwy gamerâu solar 4G.

Dywedodd Dr Kate Roberts, Prif Swyddog Gweithredol Cadw:

Does dim modd gwahanu hanes a thirwedd yng Ngwaith Haearn Blaenafon, ac mae'r fenter hon yn adlewyrchu hynny'n berffaith. Mae geifr Bagot wedi bod yn rhan o gefn gwlad Cymru ers cenedlaethau, a nawr byddan nhw'n ein helpu i ofalu am y dirwedd ryfeddol hon mewn ffordd sy'n sensitif i'w chymeriad, yn well i fywyd gwyllt ac yn fwy caredig wrth yr amgylchedd – ac rydyn ni'n  gobeithio y bydd ymwelwyr yn mwynhau eu gweld fel rhan o stori'r safle."

Bydd y geifr yn cael eu darparu a'u rheoli gan Grazing Management Ltd, cwmni rheoli tir arbenigol sy'n canolbwyntio ar atebion naturiol ac ecolegol ar gyfer safleoedd heriol.

Dywedodd Alex o Grazing Management Ltd:

Roedd Blaenafon yn safle arloesi anhygoel ac mae'n fraint dod ag arloesi newydd i helpu i warchod y safle hanesyddol hwn."