Cynllun grant cyfalaf Ynni Cymru 2026 i 2027: cwestiynau ffurflen gais llwybr 2
Cwestiynau a gynhwyswyd yn y ffurflen gais llwybr 2.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
1. Cymhwystra
C1. A fydd eich prosiect wedi'i gwblhau erbyn 31 Mawrth 2027?
C2. A yw'r sefydliad arweiniol sy'n ymgeisio yn sefydliad cymunedol, yn fenter gymdeithasol, yn gorff sector cyhoeddus, neu'n fenter fach neu ganolig ei maint (BBaCh) sydd â'i phencadlys neu ei chyfeiriad gweithredu yng Nghymru?
C3. A yw'r prosiect wedi'i leoli yng Nghymru?
C4. A yw eich cais arfaethedig am grant ar gyfer gwariant sy'n gysylltiedig â chyfalaf yn unig?
C5. A yw eich prosiect System Ynni Clyfar Lleol (SLES) yn ymgorffori o leiaf ddwy dechnoleg gymwys a nodir isod (ac yn y nodyn cyfarwyddyd), yn cynnwys technoleg wresogi carbon isel a thechnoleg cynhyrchu ynni adnewyddadwy?
C6. A yw'r holl gydsyniadau cynllunio datblygiad angenrheidiol wedi'u sicrhau, neu a oes yna dystiolaeth eglur y gellir sicrhau cydsyniadau o'r fath mewn pryd i ofalu bod y prosiect yn cael ei gyflawni erbyn 31 Mawrth 2027?
C7. A yw holl gydsyniadau angenrheidiol gweithredwyr y rhwydwaith dosbarthu lleol angenrheidiol wedi'u sicrhau, neu a oes yna dystiolaeth eglur y gellir sicrhau cydsyniadau o'r fath mewn pryd i ofalu bod y prosiect yn cael ei gyflawni erbyn 31 Mawrth 2027?
C8. A yw landlord yr eiddo wedi rhoi cydsyniad ysgrifenedig i ddatblygu'r prosiect, neu a oes yna dystiolaeth eglur y gellir sicrhau ei gydsyniad mewn pryd i ofalu bod y prosiect yn cael ei gyflawni erbyn 31 Mawrth 2027?
C9. A yw'r darparwyr morgeisi i'r eiddo wedi rhoi cydsyniad ysgrifenedig i'r prosiect gael ei ddatblygu, neu a oes yna dystiolaeth eglur y gellir sicrhau eu cydsyniad mewn pryd i ofalu bod y prosiect yn cael ei gyflawni erbyn 31 Mawrth 2027?
C10. A yw darparwr eich yswiriant adeiladau wedi cadarnhau y bydd eich polisi cyfredol yn parhau'n ddilys ac y bydd y cyfarpar newydd a osodir wedi'i yswirio, neu a oes yna dystiolaeth eglur y gellir cadarnhau hyn mewn pryd i ofalu bod y prosiect yn cael ei gyflawni erbyn 31 Mawrth?
C11. A allwch gadarnhau bod eich sefydliad yn berchen ar y tir neu'r adeilad(au) lle rydych yn dymuno ymgymryd â'ch prosiect, neu fod ganddo drefniant lesio hirdymor (o leiaf 3 blynedd) ar ei gyfer? Os ydych yn cyflawni eich prosiect ar adeilad(au) neu dir sydd ar les i'ch sefydliad, neu nad yw'n eiddo nac ar les iddo, cadarnhewch fod gennych awdurdod gan berchennog priodol yr eiddo.
C12. Ydych chi wedi gofyn am gyngor neu sicrhau bod arolygon adeileddol wedi'u cynnal (gan gontractwr ag achrediad MCS, peiriannydd adeileddol, neu syrfëwr adeiladau) i bennu pa un a all adeiladau perthnasol letya eich prosiect arfaethedig, neu a oes yna dystiolaeth eglur ar gael y gellir cadarnhau hyn mewn pryd i ofalu bod y prosiect yn cael ei gyflawni erbyn 31 Mawrth?
C13. A allwch gadarnhau y bydd eich cais yn bodloni'r gofynion sylfaenol ar gyfer arian cyfatebol a nodir yn ein nodyn cyfarwyddyd ar gyfer eich math o sefydliad?
C14. Cadarnhewch eich bod yn gymwys ar gyfer y cynllun cyllido hwn.
2. Sector y sefydliad arweiniol
C15. A yw'r sefydliad arweiniol sy'n ymgeisio yn BBaCh sydd wedi'i gyfansoddi'n gyfreithiol?
3. Cymhwystra BBaChau
C15a. Cadarnhewch fod unrhyw BBaChau sy'n gysylltiedig â'r cais hwn yn cyflogi pobl yng Nghymru yn uniongyrchol a bod ganddynt gyfanswm o lai na 250 o gyflogeion:
C15b. Cadarnhewch fod cyfanswm trosiant blynyddol unrhyw BBaChau sy'n gysylltiedig â'r cais hwn yn llai na £44 miliwn yn 2025-26:
C15c. Cadarnhewch fod cyfanswm mantolen unrhyw BBaChau sy'n gysylltiedig â'r cais hwn yn llai na £38 miliwn yn 2025-26:
4. Manylion y sefydliad arweiniol sy'n ymgeisio
C16. Nodwch enw a chyfeiriad y sefydliad arweiniol sy'n ymgeisio:
C17. Nodwch ym mha sir yng Nghymru y mae'r sefydliad arweiniol sy'n ymgeisio wedi'i leoli (nodwch bob un sy'n berthnasol):
C18. Nodwch yr ardal(oedd) daearyddol lle mae'r sefydliad arweiniol sy'n ymgeisio yn gweithredu (nodwch bob un perthnasol):
C19. Nodwch statws cyfreithiol y sefydliad arweiniol sy'n ymgeisio:
C20. Darparwch rif cofrestru'r cwmni neu rif cofrestru'r elusen ar gyfer y sefydliad arweiniol sy'n ymgeisio (nodwch “Amh” os nad oes gan eich sefydliad rif):
C21. Esboniwch yn fyr yn y blwch isod brif ddiben a gweithgarwch y sefydliad arweiniol sy'n ymgeisio (dim mwy na 250 o eiriau):
C22. Darparwch fanylion unrhyw sefydliadau yr ydych mewn partneriaeth â nhw i gyflawni'r prosiect SLES (yn cynnwys eu manylion cyswllt allweddol, eu prif weithgarwch, a'u rôl yn eich prosiect) (dim mwy na 250 o eiriau):
5. Manylion cyswllt y sefydliad arweiniol
C23. Darparwch enwau a theitlau swyddi ar gyfer prif gyswllt a swyddog awdurdodi y sefydliad arweiniol sy'n ymgeisio isod:
C24. Darparwch rif ffôn ar gyfer prif gyswllt a swyddog awdurdodi y sefydliad arweiniol sy'n ymgeisio isod:
C25. Darparwch gyfeiriad e-bost ar gyfer prif gyswllt a swyddog awdurdodi y sefydliad arweiniol sy'n ymgeisio isod:
6. Manylion y prosiect
C26. Darparwch ddisgrifiad byr o'ch prosiect yn y blwch isod. Dylai eich ymateb gynnwys manylion technolegau arfaethedig, ynghyd â'r brif sail resymegol ar gyfer y prosiect. (dim mwy na 250 o eiriau).
C27. Nodwch unrhyw dechnolegau sydd eisoes wedi'u gosod yn yr adeilad(au) cysylltiedig neu ar y safle(oedd) lle byddai eich prosiect SLES yn cael ei leoli (nodwch bob un sy'n berthnasol). Defnyddiwch y maes 'Arall (gan nodi pa rai)' i fanylu ar unrhyw dechnolegau nad ydynt wedi eu rhestru.
C28. Nodwch yr holl dechnolegau a fydd yn cael eu gosod yn rhan o'ch prosiect SLES ar yr adeilad(au) cysylltiedig neu ar y safle(oedd) lle bydd eich prosiect SLES yn cael ei leoli (nodwch bob un sy'n berthnasol). Defnyddiwch y maes 'Arall (gan nodi pa rai)' i fanylu ar unrhyw dechnolegau nad ydynt wedi eu rhestru.
C29. Nodwch y systemau clyfar a ddefnyddir i gysylltu'r technolegau yn eich prosiect SLES (nodwch bob un sy'n berthnasol). Defnyddiwch y maes 'Arall (nodwch os gwelwch yn dda)' i fanylu unrhyw dechnolegau nad ydynt wedi'u rhestru.
C30. Nodwch yr ardal(oedd) daearyddol lle bydd y prosiect SLES yn cael ei leoli (nodwch bob un sy'n berthnasol):
C31. Nodwch y sir(oedd) lle bydd eich prosiect yn cael ei leoli (nodwch bob un sy'n berthnasol):
C32. Rhowch fanylion y safleoedd lle bydd eich prosiect wedi'i leoli. Llenwch y rhesi perthnasol yn unig yn y tabl isod.
7. Meini Prawf Asesu: Cyfatebiaeth ag amcanion Ynni Cymru
C33. Nodwch y modd y mae'r prosiect yn gyson â'r Egwyddorion Systemau Ynni Lleol Clyfar a nodir isod ac yn cyflawni'n unol â nhw.
8. Meini Prawf Asesu: Y posibilrwydd o'u cyflawni
C34. Lanlwythwch amserlen hygred fanwl ar gyfer cyflawni'r prosiect; rhaid i ymgeiswyr gynnig cerrig milltir y prosiect yn yr amserlen (50%).
C35. Darparwch naratif sy'n nodi'r adnoddau a'r profiad sydd ar waith i gefnogi'r broses o gyflawni'r prosiect. Rhowch fanylion am y personél allweddol, unrhyw brofiad sydd gan eich tîm o reoli contractau a chyflawni prosiectau tebyg, sut y gwneir penderfyniadau cyflawni (gan gynnwys pwy fydd â'r awdurdod i gymeradwyo newidiadau i gwmpas, cyllideb neu amserlen y prosiect, a sut y caiff problemau ac anghydfodau eu huwchgyfeirio a'u datrys) (16.66%, dim mwy na 750 o eiriau):
C36. Yn y blwch isod, nodwch y tair prif risg o ran y posibilrwydd o gyflawni'r prosiect, ynghyd â'r modd y byddwch yn ceisio eu lliniaru (dim mwy na 500 o eiriau ar gyfer y naratif):
C37. Disgrifiwch sut y bydd y prosiect yn cael ei weithredu a'i gynnal ar ôl ei gwblhau (16.66%, dim mwy na 500 o eiriau):
9. Meini Prawf Asesu: Buddion
C38. Amlinellwch a, lle bo hynny'n bosibl, meintiolwch fuddion disgwyliedig y prosiect hwn a'r modd y bydd y rhain yn cael eu gwireddu. Rhaid i'r buddion estyn y tu hwnt i'r sefydliad sy'n ymgeisio. Rhannwch eich buddion yn fuddion cymdeithasol (e.e. mynd i'r afael ag anghydraddoldeb), economaidd (e.e. arbed costau ynni) ac amgylcheddol (e.e. arbedion carbon) ehangach, a hynny yn y tri blwch priodol isod. Eglurwch ragdybiaethau a sensitifedd y fethodoleg ar gyfer pob budd.
10. Meini Prawf Asesu: Manylion costau a chaffael y prosiect
C39. Llenwch a lanlwythwch amserlen Ynni Cymru yma ar gyfer costau a buddion prosiect cyllid cyfalaf. (50%)
C40. Disgrifiwch sut y bydd y sefydliad arweiniol sy'n ymgeisio yn prynu nwyddau a gwasanaethau, a sut y byddwch yn sicrhau cydymffurfedd â chanllawiau caffael Ynni Cymru (35% – dim mwy na 500 o eiriau)
C41. Esboniwch pam y mae cyllid cyhoeddus yn ofynnol ar gyfer y prosiect hwn (15% – dim mwy na 250 o eiriau)
C42. I gefnogi eich atebion i'r cwestiynau uchod, lanlwythwch dystiolaeth o gostau gwaith dylunio, prosesau tendro yn y farchnad feddal neu brosesau tendro ffurfiol.
11. Gwybodaeth am gostau'r prosiect
C43. Nodwch gyfanswm cost eich prosiect SLES (£):
C44. Nodwch faint o arian grant yr ydych yn ymgeisio amdano (£):
C45. Nodwch faint o gyllid cyfatebol y bydd eich sefydliad yn ei gyfrannu at y prosiect (£):
C46. Cadarnhewch isod y manylion sy'n ymwneud â statws eich sefydliad o ran TAW:
C47. Darparwch eich rhif cofrestriad TAW (os nad yw'n berthnasol, nodwch “Amh”)
