Cofrestr etholiadol: 2025
Ystadegau ar bobl sydd wedi cofrestru i bleidleisio mewn etholiadau seneddol y Deyrnas Unedig (DU) fel a gofnodwyd ar 1 Rhagfyr 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Ar gyfer Cymru (a Lloegr), cymerir ystadegau etholiadol o ddata a gyflenwir i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG) gan swyddogion cofrestru etholiadol. Mae data ar gyfer yr Alban yn cael ei gasglu yn yr un modd gan Gofnodion Cenedlaethol yr Alban. Mae data ar gyfer Gogledd Iwerddon yn cael ei gasglu gan Swyddfa Etholiadol Gogledd Iwerddon.
Cyfrifon blynyddol o nifer y bobl sydd wedi eu cofrestru ar gofrestrau etholiadol ac felly â'r hawl i bleidleisio yw ystadegau etholiadol. Mae cyfanswm nifer yr etholwyr yn cynnwys y bobl sy’n gymwys i bleidleisio a chyrhaeddwyr. Mae cyrhaeddwyr yn golygu’r rhai sydd yn cyrraedd oedran pleidleisio yn ystod y flwyddyn hyd at y gofrestr nesaf, hynny ydy, mis Rhagfyr 2026.
Nid yw’r pennawd ystadegol hwn yn cynnwys gwybodaeth am etholwyr y Senedd a llywodraeth leol yng Nghymru ar gyfer 2025. Mae’n cynnwys gwybodaeth am etholwyr seneddol y Deyrnas Unedig (DU) yng Nghymru yn unig. Nid yw data etholwyr llywodraeth leol Cymru a gasglwyd a chyhoeddwyd gan y SYG ar gyfer y cyfnod 2020 i 2023 yn adlewyrchu'r newidiadau mewn cymhwysedd pleidleisio ar gyfer etholiadau'r Senedd a llywodraeth leol ers 2020 oherwydd nad yw'r wybodaeth a gesglir gan swyddogion cofrestru etholiadol ar hyn o bryd yn cynnwys pob etholwr 16 oed a'r rhai sy'n cyrraedd yr oedran pleidleisio 15 oed ym mhob etholaeth. Rydym yn parhau i weithio gyda’r SYG i ddatrys y mater fel y gallwn gyhoeddi ystadegau wedi eu cywiro ar gyfer nifer etholwyr y Senedd a llywodraeth leol yng Nghymru yn y dyfodol. Noder, mae hyn hefyd yn golygu nad ydym yn gallu diweddaru ein tablau StatsCymru chwaith.
Gweler tablau data y SYG am ragor o wybodaeth.
Pwyntiau allweddol
- Cyfanswm nifer yr etholwyr seneddol y DU a gofrestrwyd i bleidleisio yng Nghymru ar 1 Rhagfyr 2025 yw 2,324,400.
- Mae hyn yn gynnydd o 0.8% o’i gymharu â 1 Rhagfyr 2023 sef pryd gafodd y data eu cyhoeddi ddiwethaf, pan gofrestrwyd 2,304,800 o etholwyr i bleidleisio.
- Bu cynnydd yng nghyfanswm nifer yr etholwyr seneddol y DU a gofrestrwyd i bleidleisio yn y DU gyfan o 1.9% rhwng 1 Rhagfyr 2023 ac 1 Rhagfyr 2025.
Nodiadau
Mae cofrestrau etholiadol yn dangos nifer y bobl sydd wedi cofrestru i bleidleisio. Dylid nodi nad yw nifer y bobl sydd â'r hawl i bleidleisio yr un peth â'r boblogaeth breswyl. Mae nifer o resymau dros hyn. Er enghraifft, nid oes gan bawb sydd fel arfer yn preswylio yng Nghymru yr hawl i bleidleisio, nid yw rhai pobl yn cofrestru i bleidleisio a gall pobl sydd â mwy nag un cyfeiriad gofrestru mewn mwy nag un lle. Ar ben hyn, mae'n anochel bod rhai etholwyr cofrestredig yn cael eu cyfrif ddwywaith gan fod swyddogion cofrestru etholiadol yn amrywio pa mor gyflym y maent yn tynnu pobl o'r cofrestrau ar ôl iddynt symud o ardal, neu pan fyddant yn marw. Mae'r ffactorau hyn yn effeithio ar wahanol ardaloedd mewn ffyrdd gwahanol. Mae hyn yn golygu bod rhaid bod yn ofalus wrth gymharu amcangyfrifon o'r boblogaeth â'r gofrestr etholiadol.
Mae'r gwahaniaeth o ran pwy sydd â hawl i bleidleisio mewn etholiadau Seneddol y DU ac etholiadau Senedd Cymru a llywodraeth leol yn dibynnu i raddau helaeth ar oedran, amodau preswylio a dinasyddiaeth. Mae etholwyr llywodraeth leol, er enghraifft, yn cynnwys y dinasyddion hynny o’r Undeb Ewropeaidd sy’n preswylio yn y DU nad oes ganddynt hawl i bleidleisio yn etholiadau Seneddol y DU, tra bod etholwyr Seneddol y DU yn cynnwys dinasyddion Prydain sy’n preswylio dramor nad oes ganddynt hawl i bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol.
Gwnaeth Deddf y Senedd ac Etholiad (Cymru) 2020 ddarpariaethau i ostwng yr oedran pleidleisio yn etholiadau’r Senedd i 16 mlwydd oed, gan olygu roedd pobl ifanc 16 a 17 oed yn gallu pleidleisio am y tro cyntaf yn etholiadau’r Senedd yn 2021.
Gwnaeth Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 ddarpariaethau i ostwng yr oedran pleidleisio yn etholiadau llywodraeth leol er mwyn caniatáu i bobl ifanc 16 a 17 oed bleidleisio.
Nid yw data Cymru ar gyfer Rhagfyr 2020 a Rhagfyr 2021 yn cynnwys cofrestriadau etholiadol llywodraeth leol ar gyfer cyrhaeddwyr 15 oed ac etholwyr 16 oed, ac nid ydynt yn adlewyrchu'r cymhwysedd cenedligrwydd estynedig a gyflwynwyd gan y diwygiadau i etholiadau’r Senedd a llywodraeth leol. Yn ogystal, byddai pobl 17 oed wedi cael eu cyfrif fel cyrhaeddwyr. Ar gyfer Rhagfyr 2022 a Rhagfyr 2023, ac eithrio Caerdydd, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Sir Fynwy, Casnewydd ac Wrecsam, nid yw’r nifer o gofrestriadau etholiadol llywodraeth leol a’r Senedd ar gyfer ardaloedd yng Nghymru sydd wedi eu cyhoeddi ar wefan y SYG yn cynnwys cyrhaeddwyr 15 ac 16 oed.
Yn ogystal, nid oedd data cofrestriadau etholiadol seneddol y DU ar gyfer 2023 ar gyfer Gwynedd, Sir Fynwy, Powys, Torfaen, a Bro Morgannwg naill ai wedi’u derbyn mewn pryd i’w cyhoeddi, neu wedi’u derbyn ar sail ffiniau etholaethau seneddol y DU a ddaeth i rym yn yr etholiad cyffredinol diwethaf yn hytrach na’r etholaethau blaenorol. Yn yr achosion hyn, cymerwyd y cyfrif ar gyfer etholwyr a chyrhaeddwyr ar gyfer Rhagfyr 2023 o'u cyflwyniadau Rhagfyr 2022.
Er gwaethaf ymdrechion y SYG i ddiweddaru'r systemau a ddefnyddiwyd i gasglu'r data hwn yn ystod 2025, ni chawsant eu diweddaru i gyd mewn pryd ar gyfer casgliad mis Rhagfyr 2025. Mewn ymateb, cysylltodd y SYG â defnyddwyr data allweddol a chytunodd y byddai'n cyhoeddi ystadegau mis Rhagfyr 2025 ar gyfer etholaethau seneddol y DU yn unig, nad oeddent wedi'u heffeithio gan y newidiadau deddfwriaethol ar lefel leol.
Ym mis Mawrth 2026, roedd y diweddariadau i'r system bron â'u cwblhau, ac mae'r SYG yn bwriadu'n llwyr y bydd cyhoeddiad Rhagfyr 2026 unwaith eto yn cynnwys ystadegau ar gyfer awdurdodau lleol, gan adlewyrchu newidiadau deddfwriaethol yn llawn.
Manylion cyswllt
Ystadegau Poblogaeth
E-bost: ystadegau.masnach@llyw.cymru
Media: 0300 025 8099
