Panel Cynghori Cyfiawnder Ieuenctid Cymru: 14 Gorffennaf 2025
Cofnodion y Panel Ymgynghorol Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Mynychwr
Mynychwyr yn bersonol
- Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip Llywodraeth Cymru
- Mike Connolly (cyd-Gadeirydd), Llywodraeth Cymru
- Karin Phillips (cyd-Gadeirydd), Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid
- Darren Trollope (DT), Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid
- Mark Cox (MC), Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid
- Keith Fraser (KF); Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid
- Stephanie Roberts-Bibby (SRB), Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid
- Sasha Yilmaz (SY), Llywodraeth Cymru
- Kirsty Davies (KD), Rheolwyr Timau Troseddau Ieuenctid Cymru (YMC)
- Paul Morris (PM), Uned Gyswllt yr Heddlu
- Kate Williams (KW), Cynrychiolydd academaidd
- David Richmond (DR), Y Gwasanaeth Ieuenctid yn y Ddalfa
- Sarah Evans (SE), Llywodraeth Cymru
- Helen Nolan (HN), Llywodraeth Cymru
- Lynzi Jarman (LJ), Llywodraeth Cymru
- James Gerard (JG), Llywodraeth Cymru
- Martyn Gunter (MG), Llywodraeth Cymru
- Sarah Day (SD), Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru
Yn mynychu ar TEAMS
- Gweinidog Dakin, Gweinidog Cyfiawnder, Y Weinyddiaeth Gyfiawnder
- Rachel Morgan, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)
- Stephen Wood, Rheolwyr Timau Troseddau Ieuenctid Cymru (YMC)
- Jay McCabe, Rheolwyr Timau Troseddau Ieuenctid Cymru (YMC)
- Gill Adams, Rheolwyr Timau Troseddau Ieuenctid Cymru (YMC)
- James White, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru
- DCC Nicola Brain, Heddlu Gwent
- Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys
- Eleri Thomas, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent
- Alan Webster, Y Weinyddiaeth Cyfiawnder
- James Warr, Rheolwyr Timau Troseddau Ieuenctid Cymru
- Mark Brace, Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel
- Julie Davies, Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ar gyfer Cyngor Dinas Abertawe
- Alison Lott, Llywodraeth Cymru
Ymddiheuriadau
- Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru
- Michelle Davies, Cynrychiolydd Bwrdd Iechyd y GIG
- Mark Shephard, Cymdeithas Prif Weithredwyr yr Awdurdodau Lleol
- Daniel Jones, Uned Atal Trais Cymru
- Lucy Peates, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF
- Surinder Randhawa, Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF
- Tim Melville, Ynadon Ieuenctid
- Christine Harley, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF
Eitem 1 ar yr agenda: croeso a chyflwyniadau
Croesawodd KP yr aelodau i gyfarfod Panel Cynghori Cyfiawnder Ieuenctid Cymru.
Dywedodd KP wrth yr aelodau y byddai’r cyfarfod yn cael ei recordio ac y dylent godi eu dwylo pe bai ganddynt unrhyw wrthwynebiadau. Nid oedd unrhyw wrthwynebiadau.
Croesawodd KP y Gweinidog Dakin i’r cyfarfod ynghyd ag aelod newydd, Tim Melville, sef cynrychiolydd Ynadon Ieuenctid yng Nghymru. Mae Tim wedi ymuno â’r Panel yn dilyn penderfyniad David Davies i ymddiswyddo o’r Panel. Diolchodd KP i David am ei gyfraniad ar y Panel dros rai blynyddoedd.
Hefyd, croesawodd KP Sarah Day o Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Julie Davies, Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yng Nghyngor Dinas Abertawe. Cadarnhaodd KP mai Julie fyddai’r cynrychiolydd ar Banel Cynghori Cyfiawnder Ieuenctid Cymru.
Diolchodd KP i Lynzi Jarman sydd bellach wedi symud o’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid i rôl newydd fel Pennaeth Datganoli Cyfiawnder Ieuenctid yn Llywodraeth Cymru, a chroesawodd Paula Williams, Cyfarwyddwr Gweithrediadau newydd Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru.
Dywedodd KP wrth y Panel fod ei Chyd-gadeirydd, Mike Connolly, yn cefnogi Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip yn Sesiwn Cydgraffu’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar Gyfiawnder Troseddol a’i fod yn bwriadu ymuno â’r cyfarfod yn nes ymlaen gydag Ysgrifennydd y Cabinet.
Nodwyd yr ymddiheuriadau.
Eitem 2 ar yr agenda: Diweddariad Gweinidogol y dirwedd Cyfiawnder Ieuenctid
Keith Fraser, Cadeirydd y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid
Esboniodd KF fod cysylltiad cryf rhwng blaenoriaethau’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid a Phanel Cynghori Cyfiawnder Ieuenctid Cymru. Tynnodd sylw at flaenoriaethau ledled Cymru a Lloegr, sy’n cynnwys:
- cefnogi gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid a’u gwella
- lleihau gorgynrychiolaeth yn y system cyfiawnder troseddol, yn enwedig plant o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig
- mabwysiadu dulliau plentyn yn gyntaf a chael system plentyn yn gyntaf
Eglurodd KF fod angen i ddull plentyn yn gyntaf gynnwys pob plentyn a bod angen sicrhau bod cymorth ar gael i bob plentyn sy’n ymwneud â’r system gyfiawnder. Rhoddodd enghraifft o Wasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Lloegr, a nododd fod cynnydd mewn hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd mewn perthynas â gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid.
Y Gweinidog Nic Dakin, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder
Ystyriodd y Gweinidog ei ymweliad â Chymru ym mis Mawrth a chanmolodd yr arweinyddiaeth yng Nghartref Diogel i Blant Hillside a’r dull plentyn yn gyntaf sy’n ystyriol o drawma. Tynnodd sylw at y diwylliant arloesol o fewn y model aml-asiantaeth yng Ngwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Sir Gaerfyrddin a’r gwaith sy’n cael ei wneud mewn perthynas â dargyfeirio gan Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru.
Rhoddodd wybod i’r Panel fod yr Arglwydd Ganghellor a’r Dirprwy Brif Weinidog wedi cyfarfod ym mis Mehefin i drafod ymrwymiad maniffesto Llywodraeth y DU mewn perthynas ag archwilio datganoli cyfiawnder. Ychwanegodd ei fod wedi cwrdd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip ers hynny ac wedi cytuno i ddechrau rhaglen waith yn ymwneud â datganoli cyfiawnder ieuenctid i Gymru.
Eitem 3 ar yr agenda: Blaenoriaethau strategol Panel Cynghori Cyfiawnder Ieuenctid Cymru
Partneriaeth â Phlismona
Rhoddodd DL wybod i’r Panel fod pob un o’r heddluoedd yng Nghymru, ers y cyfarfod diwethaf, yn ymgymryd â hunanasesiad o ran dulliau a strwythurau plismona sy’n canolbwyntio ar y plentyn mewn perthynas â’r Biwro. Dywedodd ei fod wedi cadeirio cyfarfod cyntaf y Grŵp Llywio, gan oruchwylio’r ddwy ffrwd waith a oedd hefyd wedi cael eu sefydlu, sef y ffrwd waith adolygu Plismona dan arweiniad Phil O’Connell o Heddlu Gwent a ffrwd waith adolygu’r Biwro dan arweiniad Darren Trollope o’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid. Dywedodd PM fod Uned Gyswllt yr Heddlu yn cefnogi’r gwaith a hefyd yn gweithio ar ddatblygu dangosfwrdd data i helpu i reoli’r wybodaeth sy’n cael ei chasglu.
Holodd KW a SD ynghylch ansawdd y data sy’n cael ei gasglu a’r math o ddata sy’n cael ei gasglu a gofynnodd KP iddynt roi enghreifftiau penodol o’r bylchau yn y data er mwyn helpu i lywio cyfarfodydd Panel Cynghori Cyfiawnder Ieuenctid Cymru yn y dyfodol. Cyfeiriodd DT at y Dangosyddion Perfformiad Allweddol newydd a nododd y byddent yn rhoi darlun mwy manwl o berfformiad wrth fynd ymlaen.
Ychwanegodd DL mai’r bwriad oedd ymgymryd â gwaith dros yr Haf i sicrhau presenoldeb amlwg gan yr Heddlu mewn cymunedau, a hynny yn sgil cyllid diweddar gan y Swyddfa Gartref a’r Warant Plismona yn y Gymdogaeth arfaethedig.
Mewn ymateb i’r sylw gan KF ynghylch pwysigrwydd sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu rhwng cyfiawnder oedolion a chyfiawnder ieuenctid, eglurodd ET fod aelodau Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru wedi cynnal diwrnod datblygu ar gyfiawnder oedolion yn ddiweddar, a gofynnodd a fyddai’n fuddiol atgynhyrchu diwrnod o’r fath ar gyfiawnder ieuenctid a gwahodd aelodau Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru i sicrhau bod cyfiawnder troseddol, cyfiawnder oedolion a gwasanaethau plant yn cael eu cynrychioli. Croesawodd KP y cynnig a chytunodd ET a PW i fwrw ymlaen â’r cam gweithredu.
Cam gweithredu 1: Gofynnodd KP i KW a SD roi enghreifftiau penodol o fylchau yn y data er mwyn helpu i lywio Panel Cynghori Cyfiawnder Ieuenctid Cymru yn y dyfodol.
Pwynt gweithredu 2: ET a PW i gynnig i Gyfiawnder Troseddol yng Nghymru y dylid cynnal diwrnod datblygu ynghylch cyfiawnder ieuenctid.
Partneriaeth ag Addysg
Rhoddodd MG drosolwg o faes polisi Tegwch mewn Addysg Llywodraeth Cymru. Esboniodd ei fod yn cynnwys amrywiaeth o bolisïau gan gynnwys rhai ar bresenoldeb, ymddygiad a gwaharddiadau, iechyd meddwl a llesiant meddyliol, a gwrthfwlio. Roedd y meysydd allweddol eraill yn cynnwys Ysgolion Bro, ac roedd hyn yn hyrwyddo ac yn cefnogi gwaith amlasiantaeth ac ymgysylltu â’r gymuned a theuluoedd. Rhan sylweddol o’r gwaith hwnnw oedd mynd i’r afael â rhwystrau tlodi.
Ar hyn o bryd, 91 y cant yw’r brif gyfradd presenoldeb mewn ysgolion, sy’n welliant o 1 y cant ers y flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, mae hynny’n is na’r gyfradd cyn y pandemig, sef 94 y cant. Mae’r Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi ymrwymo i ddychwelyd i gyfraddau cyn y pandemig, ac ymhlith y mentrau i fynd i’r afael â’r mater mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi tua £30 miliwn eleni ar gefnogi dulliau Ysgolion Bro, gyda dros £13 miliwn ar gyfer gweithgareddau ymgysylltu â’r gymuned, gan gynnwys £9.5 miliwn yn benodol ar gyfer recriwtio a chadw swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd.
Cynhaliodd Llywodraeth Cymru Uwchgynhadledd Genedlaethol ar Ymddygiad ar 22 Mai. Ar ddiwedd y digwyddiad, nododd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg bum cam gweithredu ar unwaith i wella ymddygiad mewn ysgolion.
- Creu’r strwythurau sydd eu hangen i gefnogi gwaith amlasiantaeth er mwyn helpu sefydliadau i ddod at ei gilydd i fynd i’r afael â’r materion cymdeithasol sy’n cyfrannu at ymddygiad heriol.
- Diweddaru canllawiau i ysgolion er mwyn sicrhau bod mwy o eglurder a chysondeb ledled Cymru.
- Sefydlu system ar gyfer rhannu arferion gorau rhwng ysgolion, yn lleol ac yn genedlaethol, gan ddysgu gwersi o ddulliau atal trais sy’n cael eu treialu mewn ysgolion ar hyn o bryd.
- Datblygu cyfleoedd dysgu proffesiynol sy’n canolbwyntio ar dechnegau rheoli ymddygiad a thechnegau tawelu ac ymyrryd, a sicrhau diffiniadau cyson ac adrodd ynghylch achosion.
- Setiau data clir ar lefel awdurdod lleol a chenedlaethol.
Dywedodd MG fod adroddiad cryno o’r Uwchgynhadledd Genedlaethol ar Ymddygiad a’r Bwrdd Crwn ar Drais a Diogelwch mewn Ysgolion ar fin cael ei gyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf, a chytunodd i’w rannu â’r Panel.
Rhoddodd SW gyflwyniad ar y pwyntiau canlynol ar ran y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid:
- Dangosyddion Perfformiad Allweddol.
- Problemau, rhwystrau a phryderon.
- Deall y garfan.
- Rôl y Swyddog Addysg a Chyflogaeth.
- Ymateb y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid.
Mae manylion llawn y cyflwyniad wedi’u cynnwys fel Atodiad A yn y cofnodion.
Mewn ymateb i gyflwyniad SW, eglurodd SBR fod y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid yn ymgymryd â gwaith i ymgysylltu â phartneriaid statudol yng Nghymru a Lloegr er mwyn cryfhau trefniadau gweithio mewn partneriaeth ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol.
Cafwyd nifer o sylwadau gan y Panel, gan gynnwys;
- Holodd MP a oedd cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag ESTYN. Dywedodd MG eu bod, a chytunodd i rannu adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan ESTYN ynghylch ymddygiad mewn ysgolion â’r Panel.
- Bwriedir rhoi ystyriaeth i Blant sy’n Derbyn Gofal yn sgil y lefel uchel sydd yn y system cyfiawnder ieuenctid.
- Sicrhau bod y gwasanaethau sy’n cael eu darparu i unigolion yn gywir a bod trefn blaenoriaeth y gwasanaethau hefyd yn gywir.
- Mae angen ystyried bod plentyn yn teimlo ei fod yn bwysig ac yn perthyn a bod croeso iddo fod yn rhan o amgylchedd yr ysgol.
- Ystyried cyfleoedd i reoli heriau a chynnig cymorth i grŵp oedran iau mewn ysgolion.
- Ystyried effeithiolrwydd ysgolion sy’n ystyriol o drawma a dulliau adferol mewn ysgolion.
- Rhannu arferion da ar draws pob ysgol yng Nghymru.
Gofynnodd DR am grynodeb byr o’r materion cyfiawnder ieuenctid a nodwyd. Tynnodd sylw hefyd at y fantais o gynnwys partneriaid cyfiawnder ieuenctid eraill yn y gwaith, yn enwedig gan ei fod hefyd yn berthnasol i’r ystad ddiogel. Cynigiodd DR i rannu manylion cyswllt y cydweithwyr perthnasol yn y Gwasanaeth Ieuenctid yn y Ddalfa gydag MG. Cytunodd KP i grynodeb gael ei gynhyrchu i gynnwys materion allweddol o safbwynt cyfiawnder ieuenctid, yr hyn sy’n cael ei wneud, a nodi’r bylchau. Ychwanegodd mai dechrau darn o waith ydy hwn a bod rôl Panel Cynghori Cyfiawnder Ieuenctid Cymru yn hanfodol er mwyn bwrw ymlaen â’r gwaith ar y cyd i archwilio’r opsiynau sydd ar gael i ddatrys y materion a nodwyd.
Cam gweithredu 3: MG i rannu adroddiad cryno o’r Uwchgynhadledd Genedlaethol ar Ymddygiad a’r bwrdd crwn ar Drais a Diogelwch mewn Ysgolion pan gaiff ei gyhoeddi.
Cam gweithredu 4: Crynodeb o faterion cyfiawnder ieuenctid i gael ei gynhyrchu. Bydd yn cynnwys y gwaith sy’n cael ei wneud ac yn nodi’r bylchau.
Cam gweithredu 5: Cytunodd MG i rannu’r adroddiad a gyhoeddwyd gan ESTYN ynghylch ymddygiad mewn ysgolion.
Cam gweithredu 6: Cytunodd DR i rannu manylion cyswllt y cydweithwyr perthnasol yn y Gwasanaeth Ieuenctid yn y Ddalfa gydag MG.
Eitem 4 ar yr agenda: Diweddariad Gweinidogol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip
Ymunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip â’r cyfarfod a rhoddodd ddiweddariad ar y dirwedd cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru. Roedd y prif bwyntiau’n cynnwys;
- Cyhoeddi’r Glasbrintiau yn 2019 ochr yn ochr â chynllun gweithredu 5 mlynedd ar y cyd â Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF, y Weinyddiaeth Gyfiawnder, Plismona yng Nghymru, y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid a phartneriaid yn y trydydd sector.
- Cyflwynwyd Datganiad Llafar ar 17 Mehefin ynghylch y Glasbrintiau i nodi eu cynnydd hyd yma ac i edrych ar ddyfodol y gwaith pwysig hwn.
- Erbyn mis Ebrill 2025 roedd y Glasbrintiau wedi symud i gam cyflawni newydd, gan adeiladu ar y fframwaith presennol a pharhau i sefydlu arferion gorau, gan gynnal dull cyd-gysylltiedig sy’n cydnabod anghenion penodol menywod a phlant, hyrwyddo llesiant cadarnhaol a chefnogi canlyniadau hirdymor llwyddiannus i leihau aildroseddu.
- Dros y pymtheng mlynedd diwethaf, gwelwyd gostyngiad dramatig a pharhaus yn nifer y plant sy’n troseddu ac yn cael eu tynnu i mewn i’r system cyfiawnder troseddol ffurfiol yng Nghymru. Bu gostyngiad sylweddol hefyd yn nifer y plant sy’n wynebu canlyniadau caethiwo.
- Mae Ystadegau Blynyddol y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid yn dangos tuedd gadarnhaol barhaus o lai o blant yn ymuno â’r system cyfiawnder ieuenctid, gyda nifer y rhai sy’n ymuno â’r system cyfiawnder ieuenctid am y tro cyntaf yng Nghymru wedi gostwng o 1,386 yn 2013 i 422 o bobl ifanc yn 2023.
- Roedd trefniadau llywodraethu ar y cyd wedi darparu strwythur ar gyfer cyfarwyddo a goruchwylio’r gwaith o weithredu’r Glasbrint. Darparodd y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid uwch arweinyddiaeth yn sgil ei arbenigedd penodol dros y blynyddoedd. Wrth symud ymlaen, bydd mwy o bwyslais yn cael ei roi ar barhau i gryfhau rôl y Panel.
- Ar 17 Mehefin cyhoeddwyd Fframwaith Atal ym maes Cyfiawnder Ieuenctid i gefnogi plant sydd mewn perygl o ymuno â’r system cyfiawnder troseddol. Mae’r Fframwaith yn rhoi darlun o’r hyn sy’n gweithio i atal troseddu, a sut rydym yn cefnogi plant agored i niwed i fyw bywydau gwerth chweil heb droseddu.
- Mae cronfeydd Hyrwyddo Ymgysylltiad Cadarnhaol yn darparu cymorth ataliol a dargyfeiriol i blant sydd mewn perygl o ymuno â’r system cyfiawnder ieuenctid ac i blant sydd eisoes yn rhan o’r system.
- Un o’r blaenoriaethau ar hyn o bryd yw gweithio gyda Llywodraeth y DU ar yr ymrwymiad yn ei maniffesto i ystyried datganoli cyfiawnder ieuenctid i Gymru. Roedd y Dirprwy Brif Weinidog a’r Arglwydd Ganghellor wedi cyfarfod yn ddiweddar ac wedi cytuno y dylai gwaith ddechrau’n ddi-oed i archwilio’r opsiynau cychwynnol. Ochr yn ochr â’r gwaith hwn ar ddyfodol datganoli yng Nghymru, mae’n hanfodol parhau i fwrw ymlaen â gwaith mewn partneriaeth er mwyn gwella gweithrediad y system bresennol, gan adeiladu ar y llwyddiannau presennol.
Eitem 5 ar yr agenda: Diweddariad Llywodraeth y DU
Rhannodd AW yr wybodaeth ddiweddaraf am Hybiau Dyfodol Ieuenctid. Dywedodd fod y gwaith deddfwriaethol yn mynd rhagddo, sef creu trosedd mewn perthynas â chamfanteisio ar blant. Cadarnhaodd AW fod Llywodraeth y DU yn buddsoddi o ran datblygu polisi a chymorth ariannol.
Roedd dull graddol yn cael ei ddefnyddio mewn perthynas â Phartneriaethau Atal. Mae Llywodraeth y DU wedi ysgrifennu at yr 20 o Unedau Lleihau Trais i ofyn iddynt enwebu o leiaf un ardal awdurdod lleol. Cadarnhaodd AW fod cyhoeddiad am gael ei wneud ar hybiau atal a bod trafodaethau wedi cael eu cynnal gyda chydweithwyr Llywodraeth Cymru ynghylch y dull mwyaf priodol i’w ddefnyddio yng Nghymru i fwrw ymlaen â’r hybiau.
Roedd adroddiad annibynnol yr adolygiad o’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid a gomisiynwyd gan y Gweinidog Dakin wedi’i gwblhau gan Steve Crocker, a tra bo’r argymhellion yn cael eu hystyried, roedd yn rhaid ystyried yr adolygiad o’r holl gyrff hyd braich. Dywedodd AW y byddai diweddariad yn cael ei rannu maes o law.
Mewn ymateb i ddiweddariad AW, cadarnhaodd MC fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio’n agos â’r Swyddfa Gartref. Mae cynllun peilot ar fin cael ei gynnal o fewn awdurdodau lleol Unedau Lleihau Trais De Cymru yn ogystal â chynllun peilot arall yng Ngogledd Cymru mewn ardal nad yw’n Uned Lleihau Trais fel bod modd dysgu gwersi ar elfen ‘panel’ y rhaglen Partneriaethau Atal. Dywedodd MC fod gweithgor rhanddeiliaid Cymru yn mynd i gael ei sefydlu a’i gadeirio ar y cyd gan y Swyddfa Gartref, yr Uned Lleihau Trais a Llywodraeth Cymru. O ran Hybiau Dyfodol Ifanc, dywedodd MC wrth y Panel fod Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â’r Adran Addysg i annog Grŵp Rhanddeiliaid Cymru.
Eitem 6 ar yr agenda: Cofnodion a chamau gweithredu o’r cyfarfod ar 07 Ebrill 2024
Cytunodd y Panel fod cofnodion y cyfarfod blaenorol yn gofnod gwir a chywir. Nodwyd y camau gweithredu.
Mewn perthynas â cham gweithredu 4, naratif y Glasbrint Cyfiawnder Ieuenctid i’w rannu â’r Panel ar ôl cytuno arno. Cadarnhaodd SY ei bod yn fwy buddiol cael eitem benodol ar yr agenda yng nghyfarfod nesaf y Panel sy’n canolbwyntio ar ddiweddariadau o ran y Glasbrintiau, yn hytrach na dim ond rhannu’r naratif. Ychwanegodd KP y byddai gwers a ddysgwyd ar y Glasbrint Cyfiawnder Ieuenctid hefyd yn cael ei hychwanegu at yr agenda.
Cam gweithredu 7: Yr ysgrifenyddiaeth i ychwanegu’r Glasbrint Cyfiawnder Ieuenctid at agenda mis Hydref a fydd yn cynnwys diweddariad cyffredinol, naratif y Glasbrint Cyfiawnder Ieuenctid, a’r gwersi a ddysgwyd.
Eitem 7 ar yr agenda: Unrhyw Fater Arall
Dywedodd KW fod Canolfan Trosedd a Chyfiawnder Cymdeithasol Cymru yn ffurfioli trefniadau â Llywodraeth Cymru ac roedd hyn yn cynnwys gofyn i academyddion a swyddogion roi gwybod i’w gilydd pan ddefnyddiwyd cyhoeddiadau academaidd. Gofynnodd KW, mewn perthynas â defnyddio gwaith academyddion yn nogfennau Llywodraeth Cymru, a fyddai modd sicrhau bod yr awdur yn cael gwybod sut a ble y cafodd ei ddefnyddio. Dywedodd KW y byddai’n rhoi gwybod i Banel Cynghori Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Llywodraeth Cymru am unrhyw ddiweddariadau mewn perthynas â’r defnydd o gyhoeddiadau.
Gofynnodd KW i adborth ynghylch yr ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ynghylch datganoli gael ei rannu â’r Panel naill ai drwy ddiweddariad llafar neu ysgrifenedig.
Cam gweithredu 8: Bydd y Panel yn cael diweddariadau ynghylch y defnydd o gyhoeddiadau academaidd.
Cam gweithredu 9: Bydd y gwaith ymchwil a wnaed ynghylch datganoli cyfiawnder ieuenctid yn cael ei rannu â’r Panel bob chwarter.
Rhoddodd SW wybod i’r Panel nad oedd Consortiwm Comisiynu Plant Cymru (4C) bellach yn gyfrifol am arwain y gwaith ar ddad-droseddoli Plant sy’n Derbyn Gofal. Eglurodd fod y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid wedi ymrwymo cymorth a data ac er y gofynnwyd iddo gadeirio’r Grŵp Llywio yn y dyfodol, rhannodd ei bryderon bod potensial i’r grŵp golli ffocws ar y gwaith. Gofynnodd am gefnogaeth y Panel a dywedodd y byddai’n adrodd yn ôl yn y cyfarfod nesaf. Cynigiodd KW weithio gyda SW, a chadarnhaodd KP gefnogaeth y Panel.
Cam gweithredu 10: SW i roi adborth ar sefyllfa’r gwaith sy’n ymwneud â dad-droseddoli Plant sy’n Derbyn Gofal.
Cynigiodd KP, ar ôl clirio cofnodion Panel Cynghori Cyfiawnder Ieuenctid Cymru yn y cyfarfod dilynol, y byddent wedyn yn cael eu cyhoeddi i rannu gwaith y Panel yn fwy eang. Nid oedd unrhyw wrthwynebiadau.
Cam gweithredu 11: Yr ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi cofnodion Panel Cynghori Cyfiawnder Ieuenctid Cymru wedi i’r Panel gytuno.
