Neidio i'r prif gynnwy

1. Introduction

Cafodd Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 ("Deddf REUL") y Cydsyniad Brenhinol ar 29 Mehefin 2023. Mae Deddf REUL yn rhoi pwerau i Weinidogion y DU a'r awdurdodau datganoledig i ddirymu, disodli a diwygio is-gyfraith a gymathwyd ("Cyfraith yr UE a Ddargedwir").

Mae adran 17 o Ddeddf REUL yn ei gwneud yn ofynnol, ar ôl pob cyfnod adrodd (bob chwe mis hyd at 23 Mehefin 2026), i Lywodraeth y DU gyhoeddi adroddiad ar y gyfraith a gymathwyd sydd wedi cael ei dirymu a'i diwygio, ac i ddiweddaru dangosfwrdd cyfraith a gymathwyd. Ar gyfer y pumed diweddariad hwn, y cyfnod o dan sylw yw mis Gorffennaf 2025 i fis Rhagfyr 2025.

Ar ôl i Lywodraeth y DU baratoi ei phumed Adroddiad Seneddol ar Gyfraith a Gymhathwyd ("Adroddiad Llywodraeth y DU") ar gyfer yr un cyfnod, mae Llywodraeth Cymru yn darparu'r adroddiad ategol hwn i'r Senedd ar offerynnau statudol sy'n berthnasol i Gymru, gan gynnwys achosion lle y defnyddiodd Llywodraeth y DU bwerau Deddf REUL i osod OSau o fewn cymhwysedd datganoledig.

Mae Adroddiad Llywodraeth y DU yn dilyn yr un strwythur â'r fersiwn flaenorol. Yn unol â'n dull blaenorol, mae strwythur yr adroddiad hwn yn  debyg ac nid yw'n canolbwyntio ond ar yr offerynnau statudol hynny y mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi cydsyniad ar eu cyfer i Lywodraeth y DU arfer pwerau cydredol o dan Ddeddf REUL. Mae hyn hefyd yn adlewyrchu'r dull wedi'i ddefnyddio gan Lywodraeth yr Alban, y mae ei phwyllgor seneddol hefyd yn cyhoeddi ei adroddiad ei hun. Bydd dolen i adroddiad Llywodraeth yr Alban, pan fydd wedi'i gyhoeddi, ar gael yma: Assimilated law (Retained EU law) - Europe - gov.scot

2. Polisi a rheolaeth Llywodraeth Cymru ar gyfraith a gymathwyd

Rydym yn parhau i ddefnyddio pwerau Deddf REUL mewn ffordd gymesur a synhwyrol, gan ganolbwyntio adnoddau ar gyflawni ein rhaglen ddeddfwriaethol ein hunain ac ystyried pwerau REUL dim ond pan fydd manteision clir i Gymru. Parhaodd Llywodraeth Cymru â'n polisi o ystyried, fesul achos a lle byddai defnyddio pwerau Deddf REUL yn egluro'r llyfr statud, yn cefnogi gweinyddiaeth effeithiol yng Nghymru, neu'n cyd-fynd ag ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu.

Yn ystod y cyfnod adrodd hwn, ni wnaeth Gweinidogion Cymru wneud OSau o dan bwerau Deddf REUL. Fodd bynnag, mae trafodaethau â Llywodraeth y DU wedi parhau lle y cynigir defnyddio pwerau cydredol mewn meysydd datganoledig.

Mae Adroddiad Llywodraeth y DU yn nodi, rhwng mis Mehefin 2025 a mis Rhagfyr 2025, fod Llywodraeth y DU wedi gosod un OS gan ddefnyddio pwerau o dan Ddeddf REUL ac un OS gan ddefnyddio pwerau o dan Ddeddf REUL a phwerau deddfwriaethol eraill.

  • Rheoliadau Diogelwch Hedfan (Diwygio) 2025 (O.S. 2025/1150)
  • Rheoliadau Llongau Masnach (Offer Morol) 2025 (O.S. 2025/1280)

Roedd y ddau OS hyn mewn meysydd sydd wedi'u llwyr ddargadw ac felly ni wnaeth Llywodraeth y DU ofyn i Lywodraeth Cymru am ei chydsyniad. 

Mae Llywodraeth y DU yn cadw Dangosfwrdd o gyfraith yr UE a ddargedwir a Chyfraith a Gymathwyd. Mae'r rhestr ar gael i'r cyhoedd (Mae dangosfwrdd REUL yn cynnwys deddfwriaeth y DU a ddargedwir, sydd â chymhwysedd cymysg neu sy'n perthyn i faes lle y mae cymhwysedd wedi ei ddatganoli. Nid yw'n cynnwys unrhyw ddeddfwriaeth a wnaed gan lywodraethau datganoledig Cymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon). Ar adeg paratoi'r adroddiad hwn, diweddarwyd y Dangosfwrdd ddiwethaf ar 15 Ionawr 2026. Cafodd ei ddiweddaru ochr yn ochr â chyhoeddi Adroddiad Llywodraeth y DU ac mae'n parhau i fod yn adnodd ar gyfer olrhain statws cyfraith a gymathwyd wedi'i nodi gan Lywodraeth y DU. 

Ar ddiwedd Adroddiad Llywodraeth y DU nodir nad oedd angen ailddatgan na chodeiddio hawliau Adran 4 ymhellach yn ystod y cyfnod adrodd hwn, gan adlewyrchu barn Llywodraeth y DU bod deddfwriaeth ddomestig bresennol eisoes yn darparu amddiffyniad cyfatebol. Mae'r safbwynt hwn yn dilyn Deddf REUL yn dileu egwyddor goruchafiaeth cyfraith yr UE ac egwyddorion cyffredinol cyfraith yr UE fel offer dehongli, gyda hawliau Adran 4 bellach yn cael eu cadw dim ond pan gânt eu hailddatgan yn benodol. Mae Llywodraeth y DU yn cadarnhau bod y pwerau ailddatgan hyn yn parhau i fod ar gael tan 23 Mehefin 2026, ond nad ydynt wedi cael eu defnyddio ers yr adroddiad blaenorol.

Mae'r trafodaethau rhwng Llywodraeth y DU, y llywodraethau datganoledig eraill a Llywodraeth Cymru ar lefel swyddogion ynghylch defnyddio pwerau Deddf REUL wedi parhau i fod yn bositif.

3. Gweithgarwch Llywodraeth y DU a chynlluniau yn y dyfodol i ddirymu a diwygio cyfraith a gymhathwyd

Mae Adroddiad Llywodraeth y DU yn disgrifio diwygiadau i'r gyfraith fel elfen o'i hagenda reoleiddio ehangach, wedi'i fframio o fewn blaenoriaethau strategol fel Strategaeth Ddiwydiannol Fodern Llywodraeth y DU, twf economaidd, symleiddio rheoleiddio, a chymorth i fusnesau bach a chanolig. 

Er bod disgwyl i weithgarwch Llywodraeth y DU sydd yn yr arfaeth ddibynnu i raddau helaeth ar ddeddfwriaeth ddomestig arall, mae Llywodraeth y DU yn nodi y bydd pwerau Deddf REUL yn parhau i gael eu defnyddio mewn ffordd ddethol mewn meysydd technegol iawn—mae enghreifftiau'n cynnwys rheoliadau diogelwch hedfan ac offer morol. O safbwynt Llywodraeth Cymru, mae datblygiadau o'r fath yn tanlinellu pwysigrwydd ymgysylltu'n gynnar i sicrhau bod buddiannau datganoledig yn cael eu hystyried yn briodol wrth lunio diweddariadau ar gyfer y DU gyfan.

Wrth i agenda ehangach Llywodraeth y DU ar gyfer diwygio rheoleiddio ddatblygu, byddwn yn parhau i asesu goblygiadau posibl i Gymru. Yn ei hadroddiad mae Llywodraeth y DU yn ailadrodd ei hymrwymiad i atgyfnerthu'r berthynas â'r llywodraethau datganoledig a chyda'r UE, gan gydnabod pwysigrwydd trafodaethau adeiladol wrth i ddiwygiadau fynd rhagddynt.

4. Edrych tua'r dyfodol

Bu gostyngiad sylweddol yn y defnydd o bwerau Deddf REUL gan Lywodraeth y DU ers ein hadroddiad chwemisol diwethaf. Nid ydym yn disgwyl i Lywodraeth y DU ddefnyddio pwerau Deddf REUL lawer cyn iddynt ddod i ben, ac mae'r dystiolaeth o'r cyfnod adrodd hwn yn awgrymu bod cynigion pellach yn debygol o barhau i fod yn gyfyngedig ac wedi'u targedu. Mae adrannau Llywodraeth y DU yn parhau i nodi cywiriadau technegol wedi'u diffinio'n gul lle y gall diwygiadau fod yn fuddiol, ond disgwylir i weithgarwch cyffredinol fynd rhagddo mewn ffordd ddethol a bod wedi'u cyfyngu i feysydd arbenigol.

Wrth edrych tua'r dyfodol, efallai y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried defnydd cyfyngedig, wedi'i dargedu o bwerau Deddf REUL lle byddai hyn yn egluro'r llyfr statud, yn gwella sicrwydd cyfreithiol neu'n cynorthwyo gweinyddiaeth effeithiol yng Nghymru. Bydd unrhyw ystyriaethau o'r fath yn cael eu cwmpasu'n ofalus a'u hasesu fesul achos, gan sicrhau bod  defnyddio'r pwerau hyn yn darparu manteision clir i Gymru.

Byddwn hefyd yn parhau i asesu goblygiadau rhaglen ddiwygio ehangach Llywodraeth y DU ar gyfer cyfrifoldebau datganoledig, gan barhau i cydweithredu'n agos ag adrannau'r DU a sicrhau bod y Senedd yn parhau i gael ei hysbysu drwy'r mecanweithiau adrodd arferol.

Disgwylir mai dyma fydd yr adroddiad olaf ond un ar ddefnyddio pwerau Deddf REUL, gydag adroddiad terfynol i ddilyn pan fydd y pwerau wedi dod i ben.