Neidio i'r prif gynnwy

Owain Gethin Davies
Adnodd Cyf 

Annwyl Gethin,

Llythyr Cylch Gwaith Adnodd 2026 i 2027

Rwyf wrth fy modd yn gweld Adnodd yn gwbl weithredol ac yn darparu cefnogaeth ymarferol i addysg yng Nghymru. Gan wireddu un o ymrwymiadau strategaeth Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr i 'gynllunio seilwaith Cymru gyfan ar gyfer cynhyrchu adnoddau perthnasol ac amserol ar gyfer y cwricwlwm yn y Gymraeg a’r Saesneg', mae Adnodd bellach mewn sefyllfa dda i barhau i gyflawni ymrwymiadau allweddol ar gyfer addysg yng Nghymru.

Rwy'n cydnabod yr ymdrech sylweddol fu ynghlwm â rhoi Adnodd ar waith, ac rwyf am weld y cwmni yn parhau i gymryd camau breision i'w sefydlu ei hun fel y gwasanaeth naturiol i droi ato i sicrhau bod adnoddau addysgol a deunyddiau ategol dwyieithog yn cael eu darparu a'u hyrwyddo yng Nghymru.

Mae Adnodd yn llwyr atebol i Weinidogion Cymru, fel is-gwmni y maent yn berchen arno'n gyfan gwbl, sy'n gyfyngedig drwy warant. Dyma'r llythyr cylch gwaith ffurfiol a roddwyd i Adnodd ynghylch amcanion i'w cyflawni. Yn y bôn, mae'n ymestyn eich cylch gwaith blaenorol am flwyddyn arall, ac yn ystod y cyfnod hwnnw bydd cylch gwaith newydd yn cael ei ddatblygu ar gyfer tymor nesaf y Senedd. Mae'r llythyr cylch gwaith wedi'i ategu gan Erthyglau Cymdeithasu Adnodd, a'r Cytundeb Fframwaith rhwng Llywodraeth Cymru ac Adnodd. Y ddwy ddogfen hon, ynghyd â'r llythyr cylch gwaith hwn a'r Cynllun Busnes a Gweithredol cysylltiedig dilynol a gymeradwywyd, sy'n ffurfio'r contract rhwng Adnodd a Llywodraeth Cymru.

Cynllun Busnes

Bydd angen i Adnodd barhau i ddatblygu ei Gynllun Busnes, a fydd yn ystyried y Llythyr Cylch Gwaith hwn, unrhyw amcan-setliadau cyllidebol gan Lywodraeth Cymru a, lle bo'n berthnasol, yr Erthyglau Cymdeithasu a'r Cytundeb Fframwaith. Rhaid i'r Cynllun gynnwys digon o fanylion i roi sicrwydd bod blaenoriaethau yn cael eu gweithredu. Disgwylir i'ch

Cynllun Gweithredol gwmpasu'r holl elfennau a nodir yn y cylch gwaith hwn a'r Atodiad cysylltiedig.

Dylid amlinellu'n glir faterion Llywodraethiant a Chorfforaethol, gan gynnwys:

  • Llywodraethiant Corfforaethol (gan ystyried canllawiau a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru a'r Cytundeb Fframwaith, gan gynnwys y cod ymddygiad ar gyfer aelodau Bwrdd Adnodd).
  • Datblygiadau corfforaethol/sefydliadol gan gynnwys cydraddoldeb ac amrywiaeth, y Gymraeg, iechyd a diogelwch, sicrhau ansawdd a chyfathrebu/marchnata.
  • Ystyriaethau gwerth am arian.
  • Staffio ac adnoddau.

Dylid cyflwyno Cynllun Busnes 2026 i 2027 i swyddogion i'w gytuno cyn diwedd chwarter 1 (30 Mehefin 2026).

Blaenoriaethau Strategol

Mae'r blaenoriaethau strategol a nodir yn y llythyr hwn yn ymwneud â 2026 i 2027. Rwy'n disgwyl i'r rhain aros yr un fath, fwy neu lai, ond gall yr is-amcanion ddatblygu a newid dros amser. Nodir y manylion yn Atodiad A. Bydd y llythyr cyllid blynyddol yn gyfle i adolygu'r amcanion, gan sicrhau eu bod yn parhau i fod yn gyfredol ac yn adlewyrchu'r blaenoriaethau sy'n codi, a bod y lefel ariannu yn briodol. Bydd angen i Adnodd, ynghyd â holl gyrff eraill Llywodraeth Cymru, gyfrannu hefyd at nodau ehangach Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a'r Strategaeth Genedlaethol i fynd i'r afael â thrais ar sail rhywedd.

Dyraniad cyllid

Ar gyfer blwyddyn ariannol 2026 i 2027, fel y'i nodir yn eich Llythyr Cyllid ar gyfer 2026 i 2027, bydd cyllideb adnodd o £4,974,194 ar gael i Adnodd i gefnogi'r amcanion hynny. Er y gallai'r swm hwn newid, gallwch ei ddefnyddio fel amcan i lywio eich cynllunio a'ch rhagolygon ar gyfer blynyddoedd ariannol i ddod.

Adrodd a pwynt cyswllt yn Llywodraeth Cymru

Dirprwy Gyfarwyddwr Cwricwlwm ac Asesu fydd yn arwain eich perthynas â Llywodraeth Cymru, a'ch pwynt cyswllt arferol o fewn y Tîm Partneriaeth fydd y Pennaeth Cyflawni Polisi. Bydd angen cynllun busnes drafft ar y Tîm Partneriaeth erbyn 30 Mehefin, a bydd ganddo hyd at bythefnos wedyn i'w adolygu a darparu adborth, ac i awgrymu newidiadau posibl. Bydd y cynllun busnes yn cael ei gymeradwyo'n ffurfiol ar ddiwedd y bythefnos hon erbyn 14 Gorffennaf.

Yn gywir,

Lynne Neagle AS/MS

Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Cabinet Secretary for Education

Adnodd 

Blaenoriaethau strategol 2026 i 2027

1. Datblygu gallu corfforaethol Adnodd Amcanion penodol ar gyfer 2026 i 2027

  1. Cynnal trefniadau llywodraethiant corfforaethol effeithiol sy'n adlewyrchu gofynion Deddf Cwmnïau 2006, yr Erthyglau Cymdeithasu a'r Cytundeb Fframwaith, megis cynlluniau dirprwyo, polisïau statudol perthnasol, a pholisïau caffael.
  2. Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i'r holl gwmnïau sy'n perthyn i'r Llywodraeth weithredu yn unol â'r pum ffordd o weithio a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Byddwch yn adrodd i'ch Tîm Partneriaeth ar y ffordd y mae Adnodd yn defnyddio'r pum ffordd o weithio, sut y mae'n cyfrannu at gyflawni'r saith nod llesiant, a sut y bydd ei ddull gweithredu yn datblygu bob blwyddyn. Futuregenerations Wales: cenedlaethaur dyfodol Cymru
  3. Wrth ddatblygu amcanion, dylid ystyried strategaeth Cymraeg 2050, Deddf y
    Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025 a basiwyd yn ddiweddar a Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo ers talwm i fynd i'r afael â thrais ar sail rhywedd, ac mae deddf arloesol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yn dyst i hynny, ynghyd â'n Strategaeth Genedlaethol ar gyfer 2022 i 2026.
  4. Cynnal swyddogaethau a gwasanaethau busnes hanfodol cymesur i sicrhau gweithrediad effeithiol y cwmni.
  5. Cynnal trefniadau rheoli ariannol, gan gynnwys amcan o'r llif arian a rhagolwg o alldro'r adnodd ar gyfer y cyfnod 12 mis sydd dan sylw yn y llythyr hwn.
  6. Cynnal gwefan gorfforaethol ar gyfer Adnodd a pharhau i sicrhau presenoldeb ymatebol ar-lein ac ar y cyfryngau cymdeithasol.

2. Sicrhau bod adnoddau a deunyddiau ategol perthnasol, amserol ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg, ar yr un pryd, i gefnogi'r Cwricwlwm i Gymru a'i gymwysterau

Amcanion penodol ar gyfer 2026 i 27:

  1. Ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol i gynnal y ddealltwriaeth o anghenion y gynulleidfa o ran comisiynu a darparu adnoddau, h.y. nodi anghenion, fformat adnoddau.
  2. Parhau i ymgysylltu â Chymwysterau Cymru a chynnal perthynas waith â nhw a chyrff dyfarnu ynghylch adnoddau gofynnol ar gyfer cymwysterau.
  3. Ymgysylltu â Dysgu, y corff dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth newydd ar gyfer Cymru, i gael dealltwriaeth o anghenion y sector ac i sicrhau cysondeb clir wrth ddatblygu adnoddau.
  4. Ymgysylltu â'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, y sefydliad arweiniol ar gyfer y sector Dysgu Cymraeg, i gynllunio'r cymorth sydd ei angen i weithredu Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru). Yn benodol, adnoddau mewn perthynas â'r Cod i ddisgrifio gallu yn y Gymraeg (sydd i'w gyhoeddi yng ngwanwyn 2027) i gefnogi ysgolion i gyflawni eu nodau o ran dysgu Cymraeg.
  5. Ymgysylltu â sefydliadau sy'n cael eu hariannu drwy raglen cymorth grant y Cwricwlwm i Gymru yn ôl yr angen, i sicrhau bod yr adnoddau a ddatblygir fel rhan o'r cymorth hwnnw yn ateb y galw.
     

3. Darparu fframwaith sicrhau ansawdd ar gyfer comisiynu, datblygu a chynhyrchu adnoddau, gan sicrhau bod yr adnoddau yn unol ag ethos ac egwyddorion craidd y Cwricwlwm i Gymru a'u bod yn ateb y galw

Amcanion penodol ar gyfer 2026 i 2027:

  1. Ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol a chynulleidfaoedd er mwyn deall y ffordd orau o sicrhau ansawdd adnoddau, a sut y gall ymarferwyr yn arbennig gefnogi'r broses hon a chyfrannu ati, i wneud yn siŵr bod adnoddau a gomisiynir yn ateb y galw ac yn addas i'w hanghenion.
  2. Parhau i brofi a datblygu fframwaith sicrhau ansawdd yn seiliedig ar fewnwelediad a ddarperir drwy'r broses ymgysylltu, sy'n sicrhau bod adnoddau a deunyddiau ategol:
    1. yn adlewyrchu'r egwyddorion a nodir yn y canllaw adnoddau a deunyddiau ategol a gyd-luniwyd ac a gyhoeddwyd ar Hwb 
    2. yn unol ag ethos ac egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru
    3. yn cael eu hadolygu a'u cadw'n berthnasol.

4. Hybu'r gwaith o hyrwyddo adnoddau, codi ymwybyddiaeth ohonynt a'u defnyddio'n effeithiol

Amcanion penodol ar gyfer 2026 i 2027:

  1. Ymgysylltu â thimau cyfathrebu a pholisi Llywodraeth Cymru a phartneriaid allweddol eraill i gefnogi cyfathrebu effeithiol ynghylch yr adnoddau a ddarperir i'r sector, ac i'w hyrwyddo.
  2. Gweithio gyda swyddogion dysgu digidol Llywodraeth Cymru i gefnogi'r gwaith o barhau i ddatblygu platfform Hwb fel y gwasanaeth naturiol i droi ato i ymarferwyr sy'n chwilio am gefnogaeth, adnoddau ac ysbrydoliaeth i gyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru.
  3. Datblygu a gweithredu eich cynllun strategol ymgysylltu a chyfathrebu fel rhan o'ch gweithgarwch busnes.
  4. Cynnal model comisiynu priodol, ar sail cydadeiladu, sydd:
    1. yn adlewyrchu ac yn diwallu anghenion y sector addysg a rhanddeiliaid allweddol
    2. yn sicrhau gwerth am arian
    3. yn gwneud y defnydd gorau o'r arbenigedd, y wybodaeth a'r sgiliau sydd ar gael yng Nghymru
    4. yn alinio cydberthnasau a dulliau gweithredu sydd eisoes yn bodoli ar draws y sector addysg, ac yn manteisio arnynt.

5. Datblygu a buddsoddi mewn sgiliau a'r gallu i greu, rhannu a chyhoeddi adnoddau addysgol yng Nghymru

Amcanion penodol ar gyfer 2026 i 2027:

  1. Gan adeiladu ar lwyddiant cronfa Cydweithredu ac Arloesi yn 2025-26, parhau i gefnogi, annog ac ariannu dulliau a syniadau arloesol a fydd yn datblygu ystod y crewyr cynnwys yng Nghymru.
  2. Drwy eich dull comisiynu a'ch gwaith gyda sefydliadau partner, parhau i ddatblygu eich perthynas â chyhoeddwyr, datblygwyr a chrewyr cynnwys i helpu i gefnogi cynllunio cynaliadwy a buddsoddi mewn sgiliau a chapasiti yng Nghymru.