Neidio i'r prif gynnwy

Building regulations circular

Rhif y Cylchlythyr: WGC 006/2026

Dyddiad cyhoeddi: 7 Ebrill 2026

Statws: Er gwybodaeth

Teitl: Cyhoeddi Dogfen Gymeradwy L (2026) Cyfrolau 1 a 2, a Dogfen Gymeradwy F, Awyru, Cyfrol 1

Cyhoeddwyd gan: Paul Keepins, Rheolwr Technegol Safonau Adeiladu

Cyfeirir at:

Prif Weithredwyr yr Awdurdodau Lleol
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru 
Cyngor y Diwydiant Adeiladu
Fforwm Personau Cymwys

I'w anfon at:

Swyddogion Rheoli Adeiladu yr Awdurdodau Lleol
Aelodau Senedd Cymru

Crynodeb: 

Cylchlythyr yw hwn i ddatgan bod Dogfen Gymeradwy newydd L 2026 (Arbed tanwydd a phŵer a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr) Cyfrolau 1 a 2, a Dogfen Gymeradwy F, Awyru, Cyfrol 1, wedi'u cyhoeddi. 

For further information contact:

Tîm Rheoliadau Adeiladu
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Rhyd-y-car
Merthyr Tudful 
CF48 1UZ  

Llinell uniongyrchol: 0300 060 4400
E-bost: enquiries.brconstruction@llyw.cymru 
Gwefan: adeiladu a chynllunio  

Cyflwyniad

  1. Mae Gweinidogion Cymru wedi'm cyfarwyddo i dynnu eich sylw bod Dogfen Gymeradwyo L 2026 (Arbed tanwydd a phŵer a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr), Cyfrolau 1 (Anheddau) a 2 (Adeiladau ac eithrio anheddau), a hefyd, Dogfen Gymeradwy F, Awyru, Cyfrol 1 (Anheddau), wedi’u cyhoeddi
     
  2. Yn unol ag adran 14(7) o Ddeddf Adeiladu 1984, gwnaed y Rheoliadau Adeiladu etc. (Diwygio) (Cymru) 2026 ar ôl ymgynghori â Phwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu. 
     
  3. Pwrpas y Cylchlythyr hwn yw tynnu eich sylw at y ffaith ein bod wedi cyhoeddi Dogfen Gymeradwy L 2026 (Arbed tanwydd a phŵer a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr) Cyfrolau 1 a 2, a Dogfen Gymeradwy F, Awyru, Cyfrol 1.
     
  4. Nid yw'r cylchlythyr hwn yn rhoi cyngor ar ofynion technegol Rheoliadau Adeiladu 2010 gan fod Dogfennau Cymeradwy yn ymdrin â'r materion hynny.

Cwmpas

  1. Mae'r Dogfennau Cymeradwy yn ymdrin ag adeiladau a gwaith adeiladu yng Nghymru yn unig.

Diwygiadau i'r dogfennau cymeradwy

  1. Mae Gweinidogion Cymru wedi cymeradwyo canllawiau statudol newydd i helpu pobl i gydymffurfio â Rheoliadau Adeiladu etc (Diwygio) (Cymru) 2026 (gweler cylchlythyr WGC 003/2026) a Rhan L yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau Adeiladu. Mae Atodiad A i'r Cylchlythyr hwn yn rhoi'r Hysbysiad o Gymeradwyaeth ar gyfer y Ddogfen Gymeradwy L newydd, Cyfrolau 1 a 2, a'r Ddogfen Gymeradwy F, Awyru, Cyfrol 1. Mae'r dogfennau cymeradwy hyn yn ddarostyngedig i'r darpariaethau trosiannol.
     
  2. Mae Atodiad B y Cylchlythyr hwn yn rhoi'r Hysbysiad Tynnu'n Ôl ar gyfer argraffiadau blaenorol o'r Dogfennau Cymeradwy, yn ddarostyngedig i'r darpariaethau trosiannol.
     
  3. Mae'r Dogfennau Cymeradwy ar gael yn: Rheoliadau adeiladu: dogfennau cymeradwy

Trefniadau trosiannol

  1. Nid yw'r dogfennau cymeradwy newydd yn gymwys os ystyrir bod gwaith adeiladu ar adeilad unigol wedi dechrau cyn 4 Mawrth 2027 yn unol ag unrhyw ddarpariaeth hysbysu berthnasol, neu os y cydymffurfiwyd â darpariaeth hysbysu berthnasol mewn perthynas â gwaith adeiladu arfaethedig ar adeilad unigol cyn 4 Mawrth 2027 ac os ystyrir i'r gwaith adeiladu ddechrau cyn y cyfnod sy'n dod i ben ar 3 Mawrth 2028.
     
  2. Mewn rhai achosion, bydd ceisiadau'n gysylltiedig â nifer o adeiladau ar y safle, er enghraifft, nifer o dai. Mewn achosion o'r fath, dim ond yr adeiladau unigol hynny y mae gwaith wedi dechrau arnynt fydd yn cael manteisio ar y darpariaethau trosiannol.

Rhagor o wybodaeth

Ymholiadau

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y Cylchlythyr hwn, dylech eu hanfon at: 

Mark Tambini
Rheoliadau Adeiladu
Llywodraeth Cymru
Rhydycar
Merthyr Tudful
CF48 1UZ 

E-bost: enquiries.brconstruction@llyw.cymru 

Yn gywir,

Mark Tambini 
Pennaeth Polisi Rheoliadau Adeiladu

Atodiad A: Deddf Adeiladu 1984

Hysbysiad cymeradwyo i newid dogfennau sy'n rhoi arweiniad ymarferol ar ofynion Rheoliadau Adeiladu 2010

Mae Gweinidogion Cymru drwy hyn yn rhoi hysbysiad o dan adran 6 o Ddeddf Adeiladu 1984 eu bod, wrth arfer y pwerau a nodir o dan adran 6, wedi cymeradwyo'r diwygiadau i'r Dogfennau Cymeradwy a restrir isod at ddibenion rhoi arweiniad ymarferol ar ofynion penodedig Rheoliadau Adeiladu 2010 (fel y'u diwygiwyd) yng Nghymru yn unig.

Daw'r gymeradwyaeth i rym ar 4 Mawrth 2027 ac eithrio mewn perthynas â gwaith ar adeiladau unigol y mae hysbysiad adeiladu neu hysbysiad cychwynnol wedi'i roi ar ei gyfer neu y mae cynlluniau llawn wedi'u hadneuo ar ei gyfer cyn y dyddiad hwnnw ac ar yr amod bod y gwaith yn dechrau cyn y cyfnod sy'n dod i ben ar 3 Mawrth 2028. 

DogfenGofynion Rheoliadau Adeiladu 2010 y cymeradwyir y ddogfen hon mewn cysylltiad â hwy Y dyddiad y daw'r diwygiad i rym
Dogfen Gymeradwy L, Arbed tanwydd a phŵer a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, Cyfrol 1: Anheddau (argraffiad 2026)Rheoliadau 4, 6, 21, 22, 23, 24, 25, , 25C, 26, 26A, 26B, 26C, 27,27A, 27B, 27C, 28, 40, 40A, 43, 44, 44ZA ac Atodlen 1, Rhan L4 Mawrth 2027
Dogfen Gymeradwy L, Arbed tanwydd a phŵer a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, Cyfrol 2: Adeiladau ac eithrio anheddau (argraffiad 2026)Rheoliadau 4, 6, 21, 22, 23, 24, 25, 25C, 26, 26A, 27, 27A, 28, 40, 40A, 43, 44, 44ZA ac Atodlen 1, Rhan L  4 Mawrth 2027
Dogfen Gymeradwy F, Awyru, Cyfrol 1: Anheddau (argraffiad 2026)Rheoliadau 39, 42, 44 ac Atodlen 1: Rhan F4 Mawrth 2027

Atodiad B: Deddf Adeiladu 1984

Hysbysiad ynghylch tynnu dogfrennau yn ôl sy'n rhoi arweiniad ymarferol ar ofynion Rheoliadau Adeiladu 2010

Mae Gweinidogion Cymru yn hysbysu o dan adran 6 o Ddeddf Adeiladu1984 eu bod, wrth arfer y pwerau a enwyd o dan adran 6, wedi tynnu cymeradwyaeth yn ôl ar gyfer y dogfennau a restrir isod sy'n rhoi arweiniad ymarferol mewn perthynas â gofynion penodedig Rheoliadau Adeiladu 2010. 

Daw'r cynnig i dynnu cymeradwyaeth yn ôl i rym ar 4 Mawrth 2027 ac eithrio mewn perthynas â gwaith ar adeiladau unigol y mae hysbysiad adeiladu neu hysbysiad cychwynnol wedi'i roi ar ei gyfer neu y mae cynlluniau llawn wedi'u hadneuo ar ei gyfer cyn y dyddiad hwnnw ac ar yr amod bod y gwaith yn dechrau cyn y cyfnod sy'n dod i ben ar 3 Mawrth 2028.

DogfenGofynion Rheoliadau Adeiladu 2010 y cymeradwyir y ddogfen hon mewn cysylltiad â hwy Y dyddiad y daw'r diwygiad i rym
Dogfen Gymeradwy L, Arbed tanwydd ac ynni, Cyfrol 1: Anheddau (argraffiad 2022)Rheoliadau 4, 6, 21, 22, 23, 24, 25, 25A, 25B, 25C, 26, 26A, 26B, 26C, 27,27A, 27B, 27C, 28, 40, 40A, 43, 44, 44ZA ac Atodlen 1, Rhan L4 Mawrth 2027
Dogfen Gymeradwy L, Arbed tanwydd ac ynni, Cyfrol 2: Adeiladau ac eithrio anheddau (argraffiad 2022)Rheoliadau 4, 6, 21, 22, 23, 24, 25, 25A, 25B, 25C, 26, 26A, 27, 27A, 28, 40, 40A, 43, 44, 44ZA ac Atodlen 1, Rhan L4 Mawrth 2027
Dogfen Gymeradwy F, Awyru, Cyfrol 1: Anheddau (argraffiad 2022)Rheoliadau 39, 42, 44 ac Atodlen 1: Rhan F4 Mawrth 2027