Neidio i'r prif gynnwy

Manylion yr adroddiad

Mae Estyn wedi cynnal adolygiad thematig ar sut mae awdurdodau lleol ledled Cymru yn trefnu ac yn darparu gwasanaethau tiwtora i ddysgwyr AHY.

Mae'r adroddiad yn rhoi crynodeb o’r dulliau cyfredol o gomisiynu, trefnu a sicrhau ansawdd gwasanaethau tiwtora, gan dynnu sylw at arfer effeithiol ochr yn ochr ag anghysondebau o ran goruchwyliaeth a darpariaeth. Mae'n holi pa mor dda mae tiwtora unigol yn cefnogi ymgysylltiad, llesiant a chynnydd myfyrwyr, a’u mynediad at gwricwlwm eang a chytbwys.

Mae'r adroddiad yn cynnwys cyfres o argymhellion ar gyfer awdurdodau lleol Cymru, darparwyr dysgu AHY, a Llywodraeth Cymru i wella ansawdd, tegwch ac atebolrwydd tiwtora AHY ledled Cymru.

Crynodeb o'r prif ganfyddiadau

Er bod enghreifftiau cryf o ymarfer effeithiol, mae profiadau disgyblion yn amrywio'n fawr yn dibynnu ar ble maent yn byw, y staff sydd ar gael, a chysondeb systemau lleol.

Mewn rhai ardaloedd, mae cyfeiriad strategol yn glir ac yn cael ei gefnogi gan waith amlasiantaeth effeithiol sy'n creu llwybrau pwrpasol, amserol. Fodd bynnag, mae prosesau goruchwylio cenedlaethol a phrosesau comisiynu, monitro ac ailintegreiddio lleol yn aml yn anghyson, gan arwain at ddisgwyliadau a darpariaeth anwastad.

Mae nifer fach o ddarparwyr yn cynnig profiadau cwricwlwm cyfoethog, personol sy'n cyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru. Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf o ddysgwyr yn derbyn cwricwlwm cyfyngedig, yn aml Saesneg a mathemateg yn unig am ychydig oriau yr wythnos, gyda llai o fynediad at wyddoniaeth, pynciau creadigol, sgiliau digidol, llwybrau galwedigaethol a dysgu cyfrwng Cymraeg. Mae gan lawer o’r dysgwyr anghenion cymhleth, ac mae cymorth effeithiol yn ystyriol o drawma, yn meithrin cysylltiadau cadarnhaol ac yn defnyddio CDU yn ystyrlon. 

Lleiafrif o’r awdurdodau sy'n gwerthuso ehangder y cwricwlwm, ansawdd yr addysgu a chynnydd dysgwyr ar draws yr holl drefniadau tiwtora. Mae goruchwylio darpariaeth a gomisiynwyd a darpariaeth ar-lein yn aml yn rhy ddibynnol ar adroddiadau’r darparwyr eu hunain.

Pan fydd cynlluniau pontio yn cael eu cydlynu'n dda, bydd disgyblion yn symud yn llwyddiannus i addysg bellach, hyfforddiant neu gyflogaeth. Mewn llawer o ardaloedd, fodd bynnag, mae ailintegreiddio a chynllunio ôl-16 yn adweithiol, heb fonitro cyson, gan adael disgyblion yn ansicr am eu camau nesaf. Mae tiwtora cyfrwng Cymraeg yn parhau i fod yn gyfyngedig ar y cyfan. Ychydig o awdurdodau sy'n cynnig llwybrau cydlynol, ac mae dibyniaeth ar diwtoriaid unigol yn arwain at oedi a chefnogaeth anghyson i ddysgwyr cyfrwng Cymraeg.

Ar y cyfan, mae gwasanaethau dysgu yn chwarae rhan hanfodol i rai o ddisgyblion mwyaf agored i niwed Cymru. Er bod arferion cadarn, mae'r ddarpariaeth yn parhau i fod yn anghyson. Mae gwella arweinyddiaeth strategol, ehangu mynediad i'r cwricwlwm, cryfhau prosesau ADY a gwella prosesau sicrhau ansawdd yn allweddol i ddarparu gwasanaethau tiwtora teg, uchelgeisiol a chyson i bob dysgwr sydd eu hangen.

Argymhellion

Argymhellion 1 i 3 i Lywodraeth Cymru

  1. Egluro disgwyliadau cenedlaethol ar gyfer darpariaeth diwtora o fewn addysg heblaw yn yr ysgol, yn cynnwys tegwch, ehangder a chydbwysedd y cwricwlwm, i leihau amrywioldeb ledled Cymru.
  2.  Cryfhau disgwyliadau strategol ar gyfer tiwtora cyfrwng Cymraeg, gan sicrhau alinio â Cymraeg 2050 a’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCAau).
  3. Gwella casglu data yn genedlaethol am ddarpariaeth diwtora, yn cynnwys nifer y disgyblion sy’n manteisio ar diwtora bob blwyddyn, darpariaeth cyfrwng Cymraeg, disgyblion ag ADY, cymwysterau a chyrchfannau. 

Ymateb Llywodraeth Cymru

Rydym yn derbyn yr argymhellion hyn. Rydym eisoes wedi dechrau drafftio canllawiau atgyfeirio a chomisiynu AHY ac yn bwriadu ymgynghori ar hyn yn ddiweddarach yn 2026, gyda disgwyl cyhoeddiad terfynol yn 2027. 

Bydd y canllawiau yn nodi disgwyliadau cenedlaethol clir a chyson ar gyfer comisiynu a darparu AHY, gan gynnwys ar gyfer dysgwyr mewn gwasanaethau tiwtora. Bydd hyn yn cynnwys mwy o eglurder ar ehangder y cwricwlwm, cydbwysedd a chynnydd i sicrhau bod pob dysgwr sy'n cael mynediad at diwtora yn derbyn cynnig o ansawdd uchel sy'n eu helpu i ailintegreiddio ac yn cefnogi eu deilliannau addysgol hirdymor. Drwy ddarparu fframwaith cenedlaethol cyson, nod y canllawiau yw lleihau'r amrywioldeb presennol yn y ffordd y mae gwasanaethau tiwtora yn cael eu cynllunio, eu comisiynu a'u darparu ledled Cymru, gan sicrhau mwy o degwch i ddysgwyr waeth ble maent yn byw.

Bydd y canllawiau hefyd yn cryfhau'r disgwyliadau ar gyfer tiwtora cyfrwng Cymraeg. Bydd gofynion comisiynu yn gyson â Cymraeg 2050 a Chynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg lleol, gan sicrhau bod penderfyniadau ynghylch darpariaeth gwasanaethau tiwtora yn cefnogi uchelgeisiau ieithyddol cenedlaethol. Bydd hyn yn helpu i yrru mwy o gynllunio strategol, gwella argaeledd llwybrau cyfrwng Cymraeg, a hyrwyddo mwy o barhad ieithyddol i ddysgwyr sydd angen darpariaeth AHY.

Yn ogystal, mae'r canllawiau ADY ac AHY bellach wedi'u drafftio a byddant yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir. Mae'r canllawiau hyn yn darparu cyfarwyddyd cenedlaethol clir ar sut y dylid cymhwyso'r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol ar gyfer dysgwyr ag ADY sydd mewn lleoliadau AHY. Mae'n ymateb i adborth gan awdurdodau lleol ac ymarferwyr trwy ddileu'r dryswch presennol a nodi disgwyliadau ynghylch adnabod, asesu, gofynion Cynllun Datblygu Unigol a chymorth parhaus. Mae'r canllawiau yn pwysleisio cysondeb arfer ledled Cymru, gan gynnwys ar gyfer dysgwyr 16 i 19 oed, er mwyn sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc ag ADY yn derbyn y cymorth y mae ganddynt hawl iddo.

Mae gwaith hefyd ar y gweill i wella'r darlun data cenedlaethol ar gyfer darparu gwasanaethau tiwtora. Rydym eisoes wedi dechrau trafodaethau i archwilio sut y gellir cryfhau casgliadau data. Mae hyn yn cynnwys ystyried yn gynnar sut i wella cywirdeb, cyflawnrwydd a chysondeb gwybodaeth am nifer y disgyblion sy'n cael mynediad at wasanaethau tiwtora, argaeledd darpariaeth cyfrwng Cymraeg, nifer y disgyblion sydd ag ADY, llwybrau achredu, a chyrchfannau i ddysgwyr. Bydd gwella'r set ddata genedlaethol yn cefnogi cynllunio, monitro a gwerthuso darpariaeth yn fwy effeithiol ar lefel leol a chenedlaethol.

Argymhellion 4 i 8 i awdurdodau lleol

  1. Cryfhau goruchwyliaeth strategol a llywodraethu gwasanaethau tiwtora o fewn y continwwm addysg heblaw yn yr ysgol.
  2. Sicrhau darpariaeth deg ac uchelgeisiol o ran y cwricwlwm, yn cynnwys mynediad at achredu a llwybrau galwedigaethol.
  3. Cymhwyso dyletswyddau ADY yn gyson ar gyfer disgyblion mewn gwasanaethau tiwtora, hyd at 19 oed, gan ddefnyddio CDUau i lunio darpariaeth a chynllunio pontio.
  4. Cynllunio gwasanaethau tiwtora cyfrwng Cymraeg yn strategol.
  5. Cryfhau sicrhau ansawdd a chynllunio pontio ar draws pob llwybr tiwtora. 

Ymateb Llywodraeth Cymru

Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'r awdurdodau lleol i nodi ffyrdd o gefnogi'r gwaith o weithredu'r argymhellion hyn.

Mae'r holl ganllawiau yn cael eu cyd-lunio gydag awdurdodau lleol gan ddefnyddio grwpiau cynghori. Mae'r dull hwn o gydweithio yn helpu i sicrhau bod y canllawiau yn ystyried arbenigedd lleol, modelau cyflawni amrywiol a'r heriau ymarferol sy'n codi.

Argymhellion 9 i 12 i ddarparwyr

  1. Ar y cyd â’r awdurdod lleol, alinio darpariaeth diwtora â Chwricwlwm i Gymru, gan gefnogi dilyniant, lles a medrau disgyblion.
  2. Mynd ati i ddefnyddio CDUau i gynllunio ac adolygu darpariaeth ar gyfer disgyblion ag ADY. 
  3. Cefnogi parhad a dilyniant cyfrwng Cymraeg, lle bo’n briodol.
  4. Cyfathrebu’n effeithiol â theuluoedd, awdurdodau lleol ac ysgolion, gan sicrhau trefniadau pontio effeithiol i ddychwelyd i addysg brif ffrwd neu leoliadau ôl-16.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Bydd y canllawiau sydd ar ddod yn nodi gofynion clir i awdurdodau lleol weithio gyda darparwyr AHY i sicrhau darpariaeth o ansawdd uchel, sy’n gyson â’r Cwricwlwm i Gymru, gyda defnydd effeithiol o'r Gymraeg, dyletswyddau ADY yn cael eu cymhwyso’n gyson, a chynlluniau pontio cryf ar gyfer llwybrau ôl-16.

Manylion cyhoeddi

Mae'r adroddiad llawn ar gael ar wefan Estyn, ac fe'i cyhoeddwyd ar 25 Mawrth 2026.