Ariannu cynllun manteisio ar ddoniau pobl wedi’u dadleoli yng Nghymru
Cyfeirnod y cymhorthdal: SC11485 - cefnogi cyflogwyr Cymru a phartneriaid y llywodraeth i baratoi ar gyfer y Fisa Manteisio ar Ddoniau Pobl arfaethedig.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Pwyntiau i'w nodi
Os ydych chi’n defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymhorthdal, rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau – e-bost: rheolicymorthdaliadau@llyw.cymru.
1. Rhanbarth
Cymru gyfan
2. Teitl y cynllun cymhorthdal
Ariannu cynllun manteisio ar ddoniau pobl wedi’u dadleoli yng Nghymru
3. Y sail gyfreithiol
Gwneir y dyfarniad cyllid hwn yn ddarostyngedig i'r Amodau ac o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip, un o Weinidogion Cymru, sy’n gweithredu yn unol ag adran 58A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ac adran 31 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003. Gwneir y cynllun cymorthdaliadau hwn o dan awdurdod Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022, yn unol â'r egwyddorion rheoli cymorthdaliadau a nodir yn Rhan 2 o'r Ddeddf.
4. Amcanion polisi penodol y cynllun
Yr amcan polisi cyhoeddus penodol yw mynd i'r afael â phrinder difrifol o ran llafur a sgiliau yng Nghymru drwy alluogi llwybrau symudedd llafur diogel a chyfreithlon ar gyfer ffoaduriaid a phobl wedi'u dadleoli sydd â sgiliau. Bydd y cyllid yn galluogi Talent Beyond Boundaries i weithio gyda chyflogwyr Cymru a phartneriaid y llywodraeth i baratoi ar gyfer y Fisa Manteisio ar Ddoniau Pobl wedi’u Dadleoli arfaethedig, datblygu cronfa o gyflogwyr a darparu gweithgarwch ymgysylltu wedi'i dargedu a chymorth integreiddio ar ôl cyrraedd, gan gryfhau gwydnwch, cynhyrchiant a chydlyniant cymdeithasol y gweithlu.
5. Diben y cynllun
Bydd yr amcan polisi yn cael ei gyflawni drwy ymgysylltu â busnesau bach a chanolig yng Nghymru, datblygu cronfa o gyflogwyr sy'n gysylltiedig â'r Fisa Manteisio ar Ddoniau Pobl wedi’u Dadleoli arfaethedig, cynnal gweithgarwch allgymorth ac ymgysylltu ar gyfer sectorau wedi'u targedu, a darparu cymorth cydlynu ac integreiddio ar ôl cyrraedd, gan alluogi cyflogwyr i fanteisio ar weithwyr medrus a hybu gwydnwch y gweithlu a chynhyrchiant economaidd.
6. Awdurdodau cyhoeddus sydd wedi’u hawdurdodi i weithredu’r cynllun
Llywodraeth Cymru
7. Categori neu gategorïau o fentrau cymwys
Ar hyn o bryd, Talent Beyond Boundaries yw'r unig sefydliad sy'n gweithredu cynlluniau manteisio ar ddoniau pobl wedi’u dadleoli o'r math hwn. Bydd y cynllun cymorthdaliadau yn mynd i'r afael â'r elfen o gyllid y gellir ei briodoli i waith uniongyrchol sy'n cefnogi mentrau bach a chanolig. Fodd bynnag, mae'r cynllun cymorthdaliadau yn berthnasol i sefydliadau sy'n gweithredu cynlluniau manteisio ar ddoniau pobl wedi’u dadleoli.
8. Sectorau i’w cefnogi
Gweithgarwch gan wasanaethau eraill
9. Hyd cyfnod y cynllun
1 Ebrill 2026 i 31 Mawrth 2027
10. Y gyllideb cymorth o dan y ynllun
£33,440
11. Ffurf y cymorth
Bydd yr holl gymorthdaliadau a ddyfernir o dan y Cynllun yn cael eu dyfarnu drwy grantiau.
12. Telerau ac amodau cymhwysedd
Y sefydliadau fydd yn gymwys ar gyfer y cynllun fydd y rhai sy'n gweithredu rhaglenni manteisio ar ddoniau pobl wedi’u dadleoli, gan leoli pobl sydd wedi'u dadleoli mewn sectorau yng Nghymru sy'n wynebu prinder llafur, recriwtio a sgiliau. Ar hyn o bryd, Talent Beyond Boundaries yw'r unig sefydliad sy'n gweithredu'r math hwn o gynllun.
13. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau
Dylai hyn amlinellu cerrig milltir neu feincnodau sy'n ofynnol ar gyfer dwysedd y cymorth penodol yn ogystal â chynnwys crynodeb o amodau sy'n ymwneud â chymarebau neu symiau cymorthdaliadau.
14. Uchafswm y cymhorthdal a ganiateir o dan y cynllun
Dadansoddiad manwl o gostau ac amcanion wedi'i ddarparu gan y sefydliad, gan wahanu ymhellach y costau sy'n ymwneud yn benodol â gwaith sy'n gymwys fel cymhorthdal (gwaith uniongyrchol gyda busnesau bach a chanolig). Bydd y rhain yn cael eu monitro'n chwarterol gan swyddogion.
15. Manylion cyswllt
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch gwneud cais am gymorth o dan y cynllun hwn, cysylltwch â'r tîm Polisi Mudo a Gynlluniwyd yn: polisimudo@llyw.cymru
I gael rhagor o wybodaeth am sut mae'r cynllun hwn yn cydymffurfio â Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022, cysylltwch ag:
Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
DU
+ 44 (0)3000 604 400
E-bost: rheolicymorthdaliadau@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
