Neidio i'r prif gynnwy

Sut a phryd y gallwch apelio yn erbyn hysbysiad gorfodi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Ebrill 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Beth yw gorfodi cynllunio?

Os yw Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl) yn credu nad oes gan ddatblygiad ganiatâd cynllunio, ac y dylai fod wedi’i geisio, fe all gymryd camau gorfodi. 

Mae rhagor o arweiniad ar orfodi cynllunio ar gael yn adran 14 Llawlyfr Rheoli Datblygu Llywodraeth Cymru. 

Pan fydd yr ACLl yn cyhoeddi Hysbysiad Gorfodi, bydd gan feddiannydd perthnasol neu rywun sydd â buddiant yn y tir y mae’r Hysbysiad Gorfodi’n ymwneud ag ef yr hawl i apelio yn erbyn yr hysbysiad. Cyflwynir apeliadau i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC) benderfynu arnynt ar ran Gweinidogion Cymru. Mae’r arweiniad hwn yn esbonio’r broses apelio. 

Cyn cyflwyno’ch apêl

Cyn i chi gyflwyno’ch apêl, dylech gychwyn trafodaethau â’r ACLl. Fe allai hyn arwain at gytundeb, a thynnu’r hysbysiad gorfodi yn ôl.

  • Fodd bynnag, mae’n rhaid i unrhyw apêl gael ei chyflwyno cyn y dyddiad dod i rym ar yr hysbysiad gorfodi.

Pwy sy’n gallu apelio

Gall meddiannydd perthnasol neu rywun sydd â buddiant yn y tir y mae’r hysbysiad gorfodi’n ymwneud ag ef apelio yn ei erbyn, p’un a yw’r hysbysiad gorfodi wedi cael ei roi iddo ai peidio. Gallai hyn gynnwys cwmni cyfyngedig neu gorff anghorfforedig. Yn yr achos hwnnw, mae’n rhaid i’r apêl gael ei chyflwyno yn enw’r cwmni.

Mae ‘buddiant yn y tir’ yn golygu buddiant cyfreithiol neu ecwitïol yn y tir. Mae’n cynnwys perchnogion, lesddeiliaid, rhai tenantiaid a Derbynyddion Swyddogol. Mae gan forgeiseion neu fenthycwyr eraill fuddiant yn y tir, hefyd (fel sicrhad ar gyfer y benthyciad maen nhw wedi’i roi i’r sawl sy’n cael benthyg).

Mae ‘meddiannydd perthnasol’ yn golygu rhywun sydd:

  • ar ddyddiad cyhoeddi’r hysbysiad gorfodi, yn meddiannu’r tir trwy gydsyniad y perchennog, boed hynny ar lafar, yn ysgrifenedig neu’n ymhlyg, ac 
  • yn parhau i feddiannu’r tir felly pan gyflwynir yr apêl

Gallai mwy nag un unigolyn fod â buddiant cyfreithiol yn y tir a gallai eu buddiannau wrthdaro â’i gilydd.

Ni fydd PCAC yn anfon copïau o ddogfennau apêl at unigolion â buddiant. Fodd bynnag, ym mhob achos heblaw am rai anarferol, bydd yr holl ddogfennau tystiolaeth apêl yn cael eu cyhoeddi ar ein porth gwaith achos cynllunio. Gellir archwilio dogfennau ar gofrestr gynllunio’r ACLl, hefyd. 

Os nad oes gan rywun fuddiant yn y tir, neu os nad yw’n feddiannydd perthnasol, nid oes ganddo’r hawl i apelio, hyd yn oed os yw’r ACLl yn rhoi copi o’r hysbysiad gorfodi iddo.

Trosolwg o’r broses apelio

Mae’r weithdrefn ar gyfer apeliadau gorfodi wedi’i hamlinellu yn Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ceisiadau Atgyfeiriedig a Gweithdrefn Apelau) (Cymru) 2017 (‘y Rheoliadau Apelio’). Mae apeliadau gorfodi’n symud ymlaen o dan Ran 4 y Rheoliadau Apelio, fel a ganlyn:

  • Dylech gyflwyno’ch apêl, cyn y dyddiad dod i rym ar yr hysbysiad gorfodi, ar y ffurflen apêl berthnasol gyda’ch datganiad achos llawn. 
  • Y datganiad achos llawn yw’r unig gyfle i esbonio’r rhesymau dros yr apêl. Ni fyddem yn disgwyl iddo fod yn fwy na 3,000 o eiriau. Mae’n rhaid iddo gynnwys: 
    • datganiad sy’n nodi seiliau’r apêl, sy’n datgan y ffeithiau y mae’r apêl wedi’i seilio arnynt ac yn cynnwys manylion llawn yr achos;
    • chopïau o unrhyw ddogfennau ategol y mae’r apelydd yn bwriadu cyfeirio atynt neu eu cyflwyno fel tystiolaeth.
  • Nid oes ffi, oni bai eich bod eisiau i ganiatâd cynllunio gael ei roi neu os ydych eisiau i’r Arolygydd gyhoeddi tystysgrif cyfreithlondeb. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael isod, o dan Seiliau Apêl – Seiliau (a), (c) a (d).
  • Mae’n rhaid i gopi o’r cyflwyniad apêl gael ei anfon at yr ACLl.
  • Ar ôl ei derbyn, bydd PCAC yn cydnabod bod apêl wedi’i chyflwyno ac yn gwirio ei bod wedi’i chyflwyno’n brydlon a chyda’r holl ddogfennau angenrheidiol. Os na fydd yr apêl wedi’i chyflwyno’n ddilys, byddai’r hysbysiad gorfodi’n dod i rym yn llawn o’r dyddiad ar yr hysbysiad.
  • Os yw’n ddilys, bydd PCAC yn ysgrifennu at yr apelydd a’r ACLl i gadarnhau’r dyddiad dechrau ar gyfer yr apêl a rhoi syniad o’r graddfeydd amser ar gyfer y penderfyniad. 
  • O fewn 5 niwrnod gwaith o’r dyddiad dechrau, mae’n rhaid i’r ACLl roi gwybod i unrhyw bartïon â buddiant am yr apêl a chyflwyno ei holiadur a’i ddogfennau ategol, i PCAC a’r apelydd. 
  • Mae’n rhaid i’r ACLl gyflwyno ei ddatganiad achos llawn i PCAC o fewn 4 wythnos o ddyddiad dechrau’r apêl. Mae’n rhaid iddo ddatgan: 
    • ymateb i bob sail apêl;
    • p’un a fyddai’r ACLl yn fodlon rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer y materion yr honnir eu bod yn gyfystyr â thor rheolaeth gynllunio.
  • Caiff partïon â buddiant gyflwyno sylwadau o fewn 4 wythnos o ddyddiad dechrau’r apêl.
  • Ar ôl 4 wythnos, bydd PCAC yn anfon copïau o unrhyw sylwadau gan bartïon â buddiant at yr ACLl a’r apelydd. Bydd PCAC hefyd yn anfon copi o ddatganiad achos llawn yr ACLl at yr apelydd.
  • Ar ôl cyfnewid tystiolaeth, os bydd unrhyw barti’n dymuno cyflwyno sylwadau ar sylwadau unrhyw barti arall, mae’n rhaid iddo wneud hynny o fewn 6 wythnos o’r dyddiad dechrau.
  • Bydd yr Arolygydd Cynllunio’n penderfynu pa weithdrefn y dylai’r apêl ei dilyn ac yn penderfynu ar yr apêl. Bydd yr Arolygydd yn ymweld â safle’r apêl cyn gwneud ei benderfyniad. 
  • Ar gyfer apeliadau gorfodi sy’n symud ymlaen trwy’r weithdrefn sylwadau ysgrifenedig yn unig, mae PCAC yn ceisio cyhoeddi penderfyniad o fewn 28 niwrnod o ddyddiad dechrau’r apêl, neu os nad yw hynny’n bosibl, o fewn 3 wythnos o’r ymweliad safle. Ar gyfer apeliadau gorfodi y mae angen iddynt gael gwrandawiad neu ymchwiliad, mae PCAC yn ceisio cyhoeddi penderfyniad o fewn 41 wythnos o ddyddiad dechrau’r apêl, neu os nad yw hynny’n bosibl, o fewn 4 wythnos o’r digwyddiad. 

Rhesymau dros apêl

Gelwir y rhesymau dros eich apêl yn ‘seiliau apêl’ mewn achosion gorfodi. Gellir gwneud apeliadau ar seiliau penodol yn unig, a amlinellir isod. Dylech egluro pa seiliau rydych yn eu pledio a meddwl yn ofalus am y ffeithiau y byddwch yn dibynnu arnynt. 

Fe ddylai eich apêl, yn glir ac yn fanwl gywir:

  • roi datganiad ffeithiau i gefnogi pob un o’r seiliau apêl a ddewiswyd 
  • esbonio’n glir pam yr ydych yn anghytuno â’r rhesymau dros gyhoeddi’r hysbysiad gorfodi
  • esbonio pam y byddai’r datblygiad honedig naill ai’n bodloni’r polisi cynllunio lleol a / neu genedlaethol y cyfeirir ato yn yr hysbysiad gorfodi neu pam nad yw’n berthnasol 
  • cynnwys manylion llawn unrhyw gyfraith achosion y cyfeirir ati
  • cynnwys manylion unrhyw rwymedigaeth gynllunio rydych yn ei chynnig i gefnogi’ch achos

Sail (a)

Sail (a) yw y dylai caniatâd cynllunio gael ei roi, neu y dylai amod y cyfeirir ato yn yr hysbysiad gorfodi gael ei ddileu. Cais am ganiatâd cynllunio yw hwn, i bob pwrpas. Felly, mae’n rhaid i chi dalu’r ffi lawn i’r ACLl. 

Ni allwch apelio ar y sail y dylai caniatâd cynllunio gael ei roi os cyhoeddwyd yr hysbysiad ar ôl i benderfyniad i wrthod caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad cysylltiedig gael ei gadarnhau ar wahân ar apêl. 

Ni allwch apelio ar y sail y dylai amod gael ei ryddhau os cyhoeddwyd yr hysbysiad ar ôl i benderfyniad i roi caniatâd cynllunio yn ddarostyngedig i’r amod gael ei gadarnhau ar apêl.

Dylai eich apêl:

  • Ganolbwyntio ar rinweddau cynllunio’r datblygiad. Peidiwch â chynnwys gwybodaeth nad yw’n ymwneud â’r materion dan sylw. 
  • Esbonio pam yr ydych yn anghytuno â’r rhesymau dros gyhoeddi’r hysbysiad gorfodi. 
  • Datgan rhif ac enw’r polisïau cynllun datblygu neu’r canllawiau cynllunio atodol perthnasol. Esboniwch pam yr ydych yn credu nad yw unrhyw bolisi y cyfeirir ato yn yr hysbysiad yn berthnasol neu pam mae’r datblygiad yn cydymffurfio ag ef. Cyfeiriwch at unrhyw bolisïau eraill yr ystyriwch eu bod yn berthnasol a pham. Atodwch ddarnau perthnasol ac esboniwch eu statws. Er enghraifft, p’un a yw’r ACLl wedi’u mabwysiadu a / neu a ydynt yn rhan o’r Cynllun Datblygu Lleol.

    Nid oes angen i chi amlinellu polisi cenedlaethol fel Cymru’r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040Polisi Cynllunio Cymru na Nodiadau Cyngor Technegol. Mae gan Arolygwyr y dogfennau hyn. Fodd bynnag, dylech gyfeirio at rifau unrhyw baragraffau y credwch eu bod yn berthnasol.

  • Atodi unrhyw benderfyniadau cynllunio blaenorol y credwch eu bod yn uniongyrchol berthnasol ac esbonio pam. 

Cewch ddefnyddio ffotograffau (lliw os oes modd) i gefnogi’r achos. Mae’n rhaid i chi roi manylion pryd a ble y tynnoch chi’r lluniau a beth maen nhw’n ei ddangos. 

Sail (b) 

Sail (b) yw nad yw’r tor rheolaeth a honnir yn yr hysbysiad gorfodi wedi digwydd mewn gwirionedd. 

Mae hyn yn golygu eich bod yn dweud nad yw’r datblygiad a honnir yn yr hysbysiad wedi digwydd, nad yw’r defnydd honedig yn digwydd neu nad yw’r strwythur honedig wedi cael ei godi. Dylech ddarparu ffeithiau i gefnogi hyn. Fe allech ddymuno dangos y gwahaniaeth rhwng y defnydd gwirioneddol (neu’r diffyg defnydd) a’r honiad yn yr hysbysiad.

Sail (c) 

Sail (c) yw na fu tor rheolaeth gynllunio. 

Gallech ddymuno honni:

  • nad yw’r gweithrediadau a honnir yn yr hysbysiad yn ddatblygiad, o dan A55 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (fel y’i diwygiwyd)
  • nad yw’r newid defnydd yn un sylweddol, sy’n golygu nad yw’n ddarostyngedig i ofynion rheolaeth gynllunio
  • bod y datblygiad yn un a ganiateir gan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (fel y’i diwygiwyd)
  • bod y newid defnydd o fewn telerau Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) 1987 (fel y’i diwygiwyd)
  • bod yr hyn a wnaed, neu a adeiladwyd, o fewn telerau caniatâd cynllunio
  • eich bod wedi cydymffurfio â’r amod perthnasol sydd ynghlwm wrth ganiatâd

Sail (d)

Mae sail (d) yn honni, pan gyhoeddwyd yr hysbysiad gorfodi, ei bod yn rhy hwyr i gymryd camau gorfodi yn erbyn y materion a nodir yn yr hysbysiad, sef bod yr hysbysiad wedi’i gyhoeddi ar ôl i un o’r terfynau amser canlynol fynd heibio: 

  • 4 blynedd ar gyfer hysbysiadau sy’n honni datblygiad gweithredol. Er enghraifft, gwaith adeiladu, mwyngloddio neu beirianneg.
  • 4 blynedd ar gyfer newid defnydd o adeilad / rhan o adeilad i dŷ annedd unigol. Mae’r terfyn amser hwn yn berthnasol pan fydd y newid i ddefnydd fel tŷ annedd unigol yn ymwneud â:
    • datblygiad heb ganiatâd cynllunio
    • methiant i gydymffurfio ag amod neu gyfyngiad sydd ynghlwm wrth ganiatâd cynllunio
  • 10 mlynedd ar gyfer unrhyw newid defnydd arall parhaus o ddyddiad y tor rheolaeth. Mae hyn yn berthnasol i newidiadau defnydd a thorri unrhyw amodau sydd ynghlwm wrth ganiatadau cynllunio blaenorol. 

Bydd angen i chi allu darparu tystiolaeth i gefnogi’ch achos.

Sail (e) 

Sail (e) yw nad oedd yr hysbysiad wedi cael ei gyflwyno’n briodol i bawb sydd â buddiant yn y tir. 

Mae hyn yn golygu nad oedd yr hysbysiad wedi cael ei gyflwyno i’r bobl iawn neu o fewn y cyfnod iawn. 

Gellir diystyru hyn os nad oedd wedi achosi anfantais sylweddol i fuddiannau rywun a’i allu i gymryd rhan yn yr apêl. 

Sail (f)

Sail (f) yw bod y camau sy’n ofynnol yn yr hysbysiad gorfodi yn ormodol ac y byddai camau llai yn goresgyn y gwrthwynebiadau.

Dylech ddweud pam y credwch fod y camau’n ormodol. Dylech hefyd ddweud pa gamau llai y credwch y byddent yn datrys y broblem. 

Ni allwch ddadlau y dylai caniatâd cynllunio gael ei roi o dan y sail hon. Os ydych eisiau i rinweddau cynllunio’r datblygiad gael eu hystyried, mae’n rhaid i chi ddadlau hynny o dan sail (a).

Sail (g)

Sail (g) yw bod yr amser a roddwyd i gydymffurfio â’r hysbysiad yn rhy fyr. 

Dylech ddweud beth fyddai’n gyfnod mwy rhesymol, yn eich barn chi, a pham. 

Os ydych yn bwriadu apelio ar y sail hon yn unig, dylech ystyried trafod y raddfa amser gyda’r ACLl. Efallai bydd yr ACLl yn fodlon ymestyn y cyfnod ar gyfer cydymffurfio, gan osgoi’r angen am apêl.

Tystysgrifau Datblygiad Cyfreithlon

Mae Adran 177(1) Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (fel y’i diwygiwyd) (‘y Ddeddf’) yn rhoi pwerau disgresiynol penodol i Weinidogion Cymru benderfynu ar apêl hysbysiad gorfodi. Mae Adran 177(1)(c) yn eu galluogi i benderfynu, ar y dyddiad pan wnaed yr apêl:

  • p’un a oedd unrhyw ddefnydd presennol o’r tir yn gyfreithlon
  • p’un a oedd unrhyw weithrediadau a gynhaliwyd yn gyfreithlon
  • p’un a oedd unrhyw fater a oedd yn gyfystyr â methiant i gydymffurfio ag amod neu gyfyngiad sydd ynghlwm wrth ganiatâd cynllunio yn gyfreithlon

Os bydd eich apêl yn llwyddo ar Sail (c) neu (d), fe allai’r Arolygydd roi tystysgrif defnydd neu ddatblygiad cyfreithlon. Cyfeirir at hyn fel arfer fel tystysgrif datblygiad cyfreithlon (LDC). 

  • Gellir rhoi LDC dim ond os ydych wedi gofyn yn benodol i’r Arolygydd wneud hynny a phan fyddwch wedi talu’r ffi. 

Os, mewn achosion eithriadol, bydd yr Arolygydd yn rhoi LDC mewn perthynas â’ch apêl, ni fydd y ffi a daloch yn cael ei had-dalu.

Fel arfer, pan fydd apêl orfodi’n llwyddo ar seiliau (c) neu (d), bydd yr hysbysiad yn cael ei ddiddymu ac ni fydd LDC yn cael ei rhoi. Cynghorir yr apelydd bod ganddo’r hawl i wneud cais i’r ACLl am LDC o dan adran 191 y Ddeddf.

Ad-dalu’r ffi

Pan ganiateir yr apêl ar sail (a), mae’n rhaid i hanner y ffi a dalwyd gael ei ad-dalu i’r apelydd.

Mae’n rhaid ad-dalu’r ffi lawn:

  • pan nad yw Gweinidogion Cymru yn derbyn yr apêl fel un ddilys
  • pan fydd Gweinidogion Cymru yn caniatáu’r apêl ac yn diddymu’r hysbysiad gorfodi os nad yw’r ACLl wedi cydymffurfio â’r rheoliadau apelio.
  • pan ganiateir yr apêl o dan seiliau (b) i (f), neu’r sail bod yr hysbysiad yn annilys, neu ei fod yn cynnwys diffyg, gwall neu gamddisgrifiad na ellir ei gywiro. 
  • pan dynnir yr apêl yn ôl yn ysgrifenedig o leiaf 21 diwrnod cyn dyddiad yr ymchwiliad neu’r dyddiad ar gyfer yr archwiliad o’r safle mewn achosion sylwadau ysgrifenedig. 
  • pan fydd yr ACLl yn tynnu’r hysbysiad gorfodi yn ôl cyn iddo ddod i rym, neu pan fydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod yr hysbysiad gorfodi yn ddirymedd.

Sut i lenwi’r ffurflen apêl

Mae’r adrannau isod yn dilyn trefn y ffurflen apêl gorfodi.

Manylion yr apelydd 

Ychwanegwch enw’r unigolyn sy’n cyflwyno’r apêl. Mae’r adran ‘pwy sy’n gallu apelio’ uchod yn esbonio pwy sy’n gallu apelio yn erbyn hysbysiad gorfodi.

Manylion yr asiant 

Nid oes rhaid i chi ddefnyddio asiant i gyflwyno’ch apêl. Os penderfynwch ddefnyddio asiant, bydd yn llenwi’r ffurflen apêl ar eich rhan, fwy na thebyg.

Os oes gennych asiant, byddwn yn anfon yr holl ohebiaeth ato, gan gynnwys y penderfyniad. Ni fyddwn yn anfon copi atoch chi. 

Manylion yr awdurdod cynllunio lleol

Fel arfer, bydd y wybodaeth hon yn yr hysbysiad gorfodi a gawsoch gan yr ACLl.

Cyfeiriad safle’r apêl 

Os nad oes gan safle’r apêl god post, rhowch god post yr adeilad agosaf neu darparwch leoliad ‘what3words’ ar gyfer safle’r apêl ac unrhyw wybodaeth i’n helpu i adnabod y safle, er enghraifft map neu gynllun sy’n dangos y safle.

Rhowch y manylion y gofynnir amdanynt ynglŷn â buddiant yr apelydd yn y tir / ei gysylltiad â’r tir. 

Seiliau a ffeithiau

Ticiwch bob sail apêl berthnasol a rhowch ffeithiau i gefnogi’ch achos. Mae cyngor ar bob sail ar gael yn yr adran ‘Rhesymau dros apêl’ uchod.

Gweithdrefn

Gellir ystyried yr apêl ar sail sylwadau ysgrifenedig, gwrandawiad, ymchwiliad neu achos cyfunol. Os dewiswch sail (d) ac mae’r apêl yn codi anghydfod ynglŷn â mater ffeithiol, mae’n debygol y bydd angen ymchwiliad (gyda thystiolaeth ar lw) i brofi’r dystiolaeth. 

Bydd yr Arolygydd a benodwyd yn penderfynu ar y weithdrefn ar ôl ystyried y dystiolaeth ysgrifenedig a gyfnewidiwyd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein harweiniad ar Ddewis Gweithdrefn.

Costau

Os bydd unrhyw barti wedi gweithredu’n afresymol a bod hyn wedi arwain yn uniongyrchol at draul ddiangen neu wastraff i barti arall yn y broses apelio neu ymgeisio, gallwch gyflwyno cais am gostau. Darllenwch ein harweiniad ar gostau cyn i chi gyflwyno cais am gostau.

Ffioedd

Nid oes ffi ar gyfer apelio, oni bai eich bod eisiau i ganiatâd cynllunio (o dan apêl ar sail (a)) neu dystysgrif datblygiad cyfreithlon gael ei roi/rhoi. 

Os ydych eisiau i ni ystyried eich apêl o dan sail (a), mae’n rhaid i chi dalu’r ffi lawn i’r ACLl.

Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael yn yr adran uchod, o dan Seiliau Apêl - sail (a) a’r adran ar Dystysgrifau Datblygiad Cyfreithlon.

Apeliadau / ceisiadau eraill 

Os ydych wedi anfon apeliadau eraill atom ar gyfer y safle hwn neu safleoedd cyfagos, nad ydynt wedi’u penderfynu eto, rhowch fanylion ar y ffurflen apêl. 

Gwirio, cadarnhau a rhoi’r dyddiad 

Gwiriwch eich ffurflen orffenedig yn ofalus ac yna llenwch yr adran datganiad. Nid oes angen ‘llofnod gwlyb’.

Bydd yr holl ddogfennau tystiolaeth a gyflwynir gydag apêl yn cael eu cyhoeddi ar y Porth Gwaith Achos Cynllunio. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein hysbysiad preifatrwydd. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â’n polisi neu os hoffech ofyn am eich data personol, cysylltwch â ni.

Manylion personol 

Llenwch yr adran hon gan roi manylion personol yr apelydd a’r asiant (os yw’n berthnasol). Ni fydd y manylion personol a roddir ar y dudalen hon ar gael yn gyhoeddus. 

Cyflwyno’ch ffurflen apêl

Cyflwynwch y ffurflen apêl ac unrhyw ddogfennau ategol, ynghyd â chopi o’r hysbysiad gorfodi a’r cynllun a oedd yn cyd-fynd â’r hysbysiad. 

Mae’n rhaid i chi hefyd anfon copi o’r ffurflen apêl wedi’i llenwi a dogfennau ategol at yr ACLl.

Gwybodaeth ychwanegol

Deddfwriaeth ac arweiniad perthnasol