Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r dadansoddiad isod yn ymwneud â’r cyfnodau 1 Ebrill 2025 i 30 Medi 2025 o gymharu â’r un cyfnod y flwyddyn flaenorol.

Prif bwyntiau

  • Roedd 7,490 o danau yn y cyfnod hwn yng Nghymru, cynnydd o 55%.
  • Roedd 2,446 o brif danau yng Nghymru, cynnydd o 27%.
  • Roedd 4,993 o danau eilaidd yng Nghymru, cynnydd o 76%. Gan fod cyfran fawr o danau eilaidd yn digwydd y tu allan, mae’n debygol fod y tywydd yn dylanwadu arnynt.
  • Roedd 2,382 o danau glaswelltir, coetir a chnydau yn y cyfnod hwn, mwy na thair gwaith y nifer a welwyd rhwng Ebrill i Fedi 2024.

Manylion cyswllt

Ystadegau cyfiawnder cymdeithasol a diogelwch cymunedol
E-bost: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099