Neidio i'r prif gynnwy

Adran 1: pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham

Y cefndir

Mae Llywodraeth Cymru yn diweddaru'r canllawiau gwrthfwlio statudol, Hawliau, Parch, Cydraddoldeb, i sicrhau bod gan ysgolion, awdurdodau lleol a lleoliadau addysg gyngor clir, ymarferol a chyfredol ar atal bwlio ac ymateb iddo. Mae angen adolygu canllawiau 2019 i adlewyrchu tystiolaeth newydd, newidiadau deddfwriaethol ac ymrwymiadau polisi allweddol fel y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, y Cynllun Gweithredu LHDTC+, y Cod ACRh a'r Dull Ysgol Gyfan o ymdrin ag Iechyd Meddwl a Llesiant. Mae tystiolaeth genedlaethol hefyd yn dangos bod bwlio wedi cynyddu ers 2021, gyda rhai grwpiau, fel dysgwyr anabl, dysgwyr LHDTC+ a'r rhai ag ADY yn cael eu heffeithio'n anghymesur.

Y tymor hir

Bydd y canllawiau wedi'u diweddaru yn cefnogi gwelliannau tymor hir mewn perthynas â llesiant, diogelwch ac ymgysylltiad dysgwyr. Gall bwlio niweidio iechyd meddwl, presenoldeb a chyrhaeddiad. Bydd cryfhau mesurau atal ac ymyrraeth gynnar yn helpu i greu amgylcheddau dysgu mwy diogel ac yn cefnogi canlyniadau tymor hir y plant. Mae'r canllawiau yn ategu gwaith diwygio ehangach gan gynnwys y Cwricwlwm i Gymru, rhoi trefniadau ADY ar waith, a'r Dull Ysgol Gyfan.

Atal

Mae atal bwlio yn ganolog i'r canllawiau wedi'u diweddaru. Mae diffiniadau cliriach, disgwyliadau cryfach a gwell prosesau cyfeirio yn helpu ysgolion i adnabod pryderon yn gynharach ac ymyrryd yn briodol. Mae trefniadau cofnodi a monitro mwy cyson hefyd yn helpu i nodi materion sy'n codi mewn ffordd ragweithiol.

Integreiddio

Mae'r canllawiau yn cyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar draws meysydd addysg, iechyd, cydraddoldeb a diogelu. Mae perthynas amlwg rhyngddynt â'r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, y Cynllun Gweithredu LHDTC+, Deddf Cydraddoldeb 2010, deddfwriaeth ADY, y Cod ACRh, y Dull Ysgol Gyfan, a'r blaenoriaethau gwella presenoldeb. Maent yn cyfrannu at sawl nod llesiant, gan gynnwys Cymru fwy cyfartal, iachach.

Cydweithio

Mae'r canllawiau wedi'u diweddaru wedi'u datblygu drwy gydweithio ag ysgolion, awdurdodau lleol, Estyn, arbenigwyr gwrth-fwlio, sefydliadau cydraddoldeb hil, grwpiau LHDTC+, sefydliadau iechyd meddwl a grwpiau anabledd ac ADY. Mae eu cyfraniadau wedi llunio gwelliannau i ddiffiniadau, prosesau a disgwyliadau. Bydd y cydweithio yn parhau wrth roi'r canllawiau ar waith a'u monitro.

Cymryd rhan

Mae plant a phobl ifanc wedi chwarae rhan ganolog wrth lunio'r diweddariad hwn. Roedd gweithgareddau ymgysylltu yn dal eu profiadau a'u blaenoriaethau, gan gynnwys yr angen i deimlo'n ddiogel, cael rhywun i wrando arnynt a gwybod beth fydd yn digwydd pan fyddant yn rhoi gwybod am fwlio. Bydd fersiwn hawdd ei deall i bobl ifanc hefyd yn cael ei chyhoeddi.

Effaith

Disgwylir i'r canllawiau gael effaith gadarnhaol trwy gryfhau'r trefniadau diogelu ar gyfer dysgwyr, gwella cysondeb a sicrhau ymatebion mwy effeithiol i fwlio. Maent yn gwella hawliau plant mewn perthynas â diogelwch, urddas, peidio â gwahaniaethu a chyfranogiad. Ni nodwyd unrhyw effeithiau negyddol.

Costau ac arbedion

Ni ddisgwylir unrhyw gostau sylweddol newydd. Mae'r canllawiau yn egluro’r dyletswyddau presennol, yn hytrach na chyflwyno rhai newydd. Dros amser, gallai gwell trefniadau atal leihau nifer yr achosion o waharddiadau, gwella presenoldeb a lleihau'r galw am gymorth arbenigol.

Dull gweithredu

Mae'r gwaith yn cynnwys diweddaru a chyhoeddi canllawiau statudol o dan y pwerau presennol. Nid oes angen deddfwriaeth newydd nac Asesiad Effaith Rheoleiddiol.

Adran 8: y casgliad

Adran 8.1 

Sut mae'r bobl y mae'r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi helpu i'w ddatblygu?

Roedd plant a phobl ifanc yn ymwneud yn agos â'r gwaith drwy weithdai, adborth ar-lein a gwaith ymgysylltu â'r Bwrdd Cynghori Cymru Ifanc. Cafwyd cyfraniadau hefyd gan randdeiliaid sy'n cynrychioli grwpiau gwarchodedig, anableddau, ADY, iechyd meddwl, cydraddoldeb hil a chymunedau LHDTC+. Fe wnaeth ymarferwyr a rhanddeiliaid cyfrwng Cymraeg helpu i sicrhau perthnasedd dwyieithog.

Adran 8.2

Beth yw’r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol?

Mae'r canllawiau yn cryfhau'r trefniadau diogelu ar gyfer plant a phobl ifanc, yn enwedig y rhai yr effeithir fwyaf arnynt yn sgil bwlio sy'n ymwneud â hunaniaeth. Maent yn cyfrannu'n gadarnhaol at ddiogelwch, llesiant, hawliau a chynhwysiant dysgwyr. Mae'r effaith ar ddiwylliant, ar yr economi ac ar y Gymraeg ar y cyfan yn gadarnhaol neu'n fach iawn. Nid oes fawr ddim effaith ar yr amgylchedd.

Hawliau pobl a phlant

Mae'r canllawiau yn cryfhau'r trefniadau diogelu ar gyfer plant a phobl ifanc trwy ddarparu diffiniadau cliriach o fwlio, gan gynnwys ffurfiau o fwlio sy'n ymwneud â hunaniaeth a rhagfarn fel hiliaeth, homoffobia, trawsffobia a misogynedd. Bydd gwell eglurder ar rolau, cyfrifoldebau, ymyrraeth gynnar a chofnodi yn cefnogi dull cenedlaethol mwy cyson. Disgwylir gweld y budd mwyaf ymhlith dysgwyr yr effeithir arnynt yn anghymesur gan fwlio, gan gynnwys plant LHDTC+, dysgwyr anabl, y rhai a chanddynt anghenion dysgu ychwanegol, a dysgwyr ethnig leiafrifol.

Fe wnaeth gwaith ymgysylltu â phlant a phobl ifanc nodi themâu a oedd yn codi dro ar ôl tro fel teimlo'n anniogel, peidio â chael eu credu ac ansicrwydd ynghylch rhoi gwybod am fwlio. Mae'r materion hyn wedi cael sylw uniongyrchol yn y canllawiau wedi'u diweddaru.

Mae'r gwaith hwn yn cefnogi'r egwyddorion a ganlyn yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn:

  • Hawl i beidio â dioddef gwahaniaethu (erthygl 2).
  • Ymrwymiad i'r hyn sydd orau i'r plentyn (erthygl 3).
  • Hawl i fyw, goroesi a datblygu (erthygl 6).
  • Hawl i gael gwrandawiad (erthygl 12).

Diwylliant a’r Gymraeg

Mae'r canllawiau wedi'u diweddaru yn helpu i ddatblygu diwylliant cadarnhaol mewn ysgolion sy'n seiliedig ar barch, amrywiaeth a chynhwysiant. Bydd disgwyliadau cliriach ar gyfer mynd i'r afael â rhagfarn ac agweddau niweidiol yn helpu i wella cydlyniant cymunedol a lleihau ymddygiadau gwahaniaethol.

Drwy sicrhau bod y canllawiau yn gwbl ddwyieithog ac yn briodol yn ddiwylliannol, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi amcanion Cymraeg 2050. Mae'r canllawiau yn hyrwyddo parch ac yn lleihau'r risg y bydd dysgwyr sy'n siaradwyr Cymraeg yn profi bwlio sy'n gysylltiedig â defnydd o iaith.

Yr economi

Gall lleihau bwlio gryfhau ymgysylltiad a chyrhaeddiad dysgwyr, gan gyfrannu'n gadarnhaol at ganlyniadau addysgol tymor hir a sgiliau'r gweithlu yn y dyfodol. Mae gwell iechyd meddwl, presenoldeb a chyfranogiad yn creu manteision economaidd anuniongyrchol.

Efallai y bydd ychydig o gostau tymor byr yn gysylltiedig ag ymgyfarwyddo a hyfforddiant, fodd bynnag, mae gan ysgolion ddyletswyddau statudol eisoes mewn perthynas ag ymddygiad a diogelu ac mae'r canllawiau wedi'u cynllunio i ategu arferion presennol yn hytrach na chreu baich ychwanegol.

Yr amgylchedd

Mae'r effaith amgylcheddol yn gyfyngedig. Serch hynny, mae'r ymrwymiad i ledaenu 'digidol yn gyntaf' a llai o waith papur yn cefnogi arferion cynaliadwy a defnydd effeithlon o adnoddau, gan gyd-fynd â'r egwyddorion datblygu cynaliadwy ehangach sy'n sail i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Themâu sy'n codi yn sgil y gwaith cyfrannu

Pwysleisiodd plant a phobl ifanc bwysigrwydd y canlynol:

  • diffiniadau ac enghreifftiau cliriach o fwlio
  • bod yn hyderus wrth roi gwybod am fwlio
  • gwybod pa gamau fydd yn dilyn
  • ymatebion cryfach i fwlio sy'n ymwneud â hunaniaeth
  • trefniadau cyson ar gyfer cofnodi a monitro

Cododd rhanddeiliaid yr angen am ganllawiau sydd:

  • yn egluro cyfrifoldebau ar draws ysgolion ac awdurdodau lleol
  • yn gwella cyngor ar ddigwyddiadau sy'n gysylltiedig â rhagfarn
  • yn cefnogi dull ysgol gyfan o ymdrin â llesiant a diogelu
  • yn ymarferol, yn gymesur ac yn cyd-fynd â dyletswyddau presennol

Effeithiau negyddol

Ni nodwyd unrhyw effeithiau negyddol uniongyrchol. Y brif risg yw'r canfyddiad o gynnydd mewn llwyth gwaith wrth roi'r canllawiau ar waith. Fodd bynnag, mae'r canllawiau wedi'u dylunio i gyd-fynd â chyfrifoldebau statudol cyfredol a lleihau achosion o ddyblygu gwaith. Bydd dysgu proffesiynol, rhwydweithiau sy'n bodoli a thempledi clir yn lliniaru unrhyw faich trosiannol.

Yn gyffredinol, mae'r canllawiau wedi'u diweddaru yn cyfrannu'n gryf at y saith nod llesiant, yn enwedig Cymru fwy cyfartal, Cymru iachach, a Chymru o gymunedau cydlynus.

Adran 8.3 

Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig: 

  • yn gwneud cymaint o gyfraniad â phosibl at y nodau llesiant a'r saith nod llesiant?
  • yn osgoi, yn lleihau, neu'n lliniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Mae'r canllawiau wedi'u diweddaru yn sicrhau'r cyfraniad mwyaf posibl at y saith nod llesiant trwy hyrwyddo amgylcheddau dysgu diogel, cynhwysol a chefnogol. Mae eu heffeithiau'n cyd-fynd â'r asesiadau a gwblhawyd fel rhan o'r Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant, yr Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb a'r Asesiad o'r Effaith ar y Gymraeg.

Cymru sy'n fwy cyfartal

Mae'r canllawiau yn lleihau anghydraddoldeb trwy wella trefniadau diogelu i grwpiau yr effeithir arnynt yn anghymesur gan fwlio. Mae'r Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb yn darparu tystiolaeth ychwanegol o sut mae'r diwygiadau hyn yn lleihau gwahaniaethu ac yn cryfhau canlyniadau teg.

Cymru iachach

Mae atal bwlio yn cefnogi gwell iechyd meddwl a llesiant emosiynol. Mae adnabod pryderon yn gynnar yn lleihau'r angen i uwchgyfeirio.

Cymru o gymunedau cydlynus

Mae'r canllawiau yn cryfhau cydlyniant cymdeithasol trwy fynd i'r afael â rhagfarn, gwella perthnasoedd ac annog partneriaethau cymunedol.

Cymru lewyrchus

Mae gwell presenoldeb, ymgysylltiad a chyrhaeddiad yn cyfrannu'n gadarnhaol at ddatblygu sgiliau a chanlyniadau tymor hir.

Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu

Mae'r canllawiau dwyieithog yn atgyfnerthu hawliau dysgwyr sy'n siaradwyr Cymraeg ac yn cefnogi cynhwysiant. Mae'r Asesiad o'r Effaith ar y Gymraeg yn nodi sut mae parch yn cael ei hyrwyddo ac yn cryfhau'r dull cenedlaethol o atal bwlio sy'n gysylltiedig â rhagfarn, a all ymwneud â defnydd iaith neu hunaniaeth ddiwylliannol.

Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Mae'r canllawiau yn hyrwyddo cydraddoldeb, hawliau plant ac egwyddorion gwrth-wahaniaethu.

Mesurau lliniaru

Mae'r pwysau posibl ar gapasiti staff yn cael ei liniaru yn sgil:

  • cysoni â dyletswyddau statudol presennol
  • cymorth drwy awdurdodau lleol a rhwydweithiau rhanbarthol
  • cyfleoedd dysgu proffesiynol
  • templedi clir ar gyfer cofnodi a rhoi gwybod am fwlio
  • fersiynau hygyrch i ddysgwyr, rhieni a gofalwyr

Cryfhau cyfraniad

Bydd Llywodraeth Cymru yn:

  • parhau i ymgysylltu â dysgwyr a grwpiau gwarchodedig
  • monitro effeithiau cydraddoldeb drwy'r Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb
  • monitro effeithiau ar hawliau trwy brosesau adolygu Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant
  • monitro effeithiau iaith drwy'r Asesiad o'r Effaith ar y Gymraeg
  • cefnogi arferion cyson ar draws y system

Adran 8.4

Sut y bydd effaith y cynnig yn cael ei monitro a’i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo a phryd y bydd yn dod i ben?

Bydd effaith y canllawiau wedi'u diweddaru yn cael ei monitro drwy ymgysylltiad parhaus ag ysgolion ac awdurdodau lleol. Bydd swyddogion yn casglu adborth drwy'r rhwydweithiau sy'n bodoli, gan gynnwys arweinwyr llesiant a diogelu, a byddant yn ystyried canfyddiadau perthnasol Estyn. Bydd y trefniadau monitro yn canolbwyntio ar gysondeb o ran gweithredu, arferion cofnodi, tueddiadau mewn digwyddiadau bwlio ac adborth gan ddysgwyr. Bydd fersiynau wedi'u diweddaru o'r canllawiau a'r asesiadau effaith cysylltiedig yn cael eu cyhoeddi yn ôl yr angen.