Neidio i'r prif gynnwy

Amcanion polisi

Asesu effaith y penderfyniad

Mae'r Asesiad Effaith ar Hawliau Plant hwn yn ystyried effaith diweddaru canllawiau statudol Llywodraeth Cymru, 'Hawliau, Parch, Cydraddoldeb', a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2019. Mae'r adran hon yn amlinellu pam mae'r diweddariad yn berthnasol i blant a phobl ifanc, gan adlewyrchu adborth yn sgil gwaith ymgysylltu, tystiolaeth o dueddiadau bwlio cynyddol, a'r effaith anghymesur ar grwpiau penodol.

Mae'r canllawiau yn cefnogi cyrff llywodraethu, ysgolion a lleoliadau addysg i atal, nodi ac ymateb i fwlio ac aflonyddu.

Disgwylir i'r canllawiau wedi'u diweddaru wella profiadau plant a phobl ifanc o ddiogelwch, cynhwysiant, llesiant, a chyfranogiad yng nghymunedau'r ysgol. 

Mae'r fersiwn wedi'i diweddaru yn adlewyrchu newidiadau mewn deddfwriaeth a pholisi ers 2019, tystiolaeth newydd ar fwlio ac ymddygiadau sy'n gysylltiedig â rhagfarn, ac ymrwymiadau mewn strategaethau pwysig, gan gynnwys:

Mae'r canllawiau wedi'u diweddaru ar gyfer ysgolion, awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu yn cael eu cyhoeddi yn ystod gwanwyn 2026. Dylai'r diweddariad hwn wella cysondeb ledled Cymru wrth ddehongli, cofnodi ac ymateb i ddigwyddiadau o fwlio, gan roi sylw penodol i fwlio sy'n ymwneud â hunaniaeth.

Casglu tystiolaeth ac ymgysylltu â phlant a phobl ifanc

Ymchwil a data presennol ar blant a phobl ifanc

Mae ystod eang o dystiolaeth wedi'i hystyried i lunio'r canllawiau wedi'u diweddaru a nodi effeithiau ar blant a phobl ifanc.

Mae hyn yn cynnwys:

Prif ganfyddiadau Arolwg Iechyd a Lles Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion 2024:

  • Mae data ar fwlio o arolwg ysgolion diweddaraf Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion ar gyfer pobl ifanc 11 i 16 oed sy'n cwmpasu 2023 i 2024 yn dangos bod bwlio wedi cynyddu ers yr arolwg blaenorol yn 2021 i 2022, gyda 38% o bobl ifanc yn dweud eu bod wedi cael eu bwlio yn ystod y misoedd diwethaf. 
  • Dywedodd 41% o ferched a 33% o fechgyn eu bod yn cael eu bwlio mor aml â hyn, gyda chyfradd llawer uwch o 66% ymhlith y rhai a nododd nad oedd yr un o'r geiriau yn disgrifio eu rhywedd.
  • Mae mwy o bobl ifanc yn hunanadrodd fel tramgwyddwyr bwlio: dywedodd 19% o fyfyrwyr eu bod wedi cymryd rhan mewn bwlio myfyrwyr eraill yn yr ysgol yn ystod y misoedd diwethaf, wedi cynyddu o 15% yn 2021 a 16% yn 2017.

Mae'n effeithio ar bawb. Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr (y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, Gorffennaf 2022):

  • Rydym wedi ystyried ffyrdd o ehangu'r gwaith hwn yn effeithiol i gynnwys trefniadau cadarn a chyson ar gyfer adrodd, cofnodi a chasglu data mewn perthynas ag aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion, yn ogystal ag aflonyddu a bwlio homoffobig.

Dydyn ni ddim yn dweud wrth ein hathrawon (Estyn, Rhagfyr 2021):

  • Rydym wedi ystyried argymhellion yr adroddiad hwn mewn perthynas ag aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion.

Y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol

  • Rydym wedi ystyried y camau gweithredu yn y Cynllun hwn sy'n adlewyrchu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i greu cymdeithas gynhwysol a theg i'n holl bobl a chymunedau Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yng Nghymru.

Cwricwlwm i Gymru 2022

  • Rydym wedi ystyried y canfyddiadau yn y Dadansoddiad o Adborth Cwricwlwm Cymru 2022, Adroddiad Plant a Phobl Ifanc, mewn perthynas â Bwlio. Er y cyfeirir ato fel term cyffredinol, roedd hefyd yn cyfeirio'n benodol at hiliaeth a homoffobia.

Mae nifer o feysydd polisi penodol y mae'r diweddariad hwn yn cyfeirio atynt a gofynnwyd i arweinwyr polisi gyfrannu er mwyn sicrhau bod y canllawiau yn cyd-fynd â'r polisïau hyn.

Iechyd meddwl

Mae'r canllawiau wedi'u diweddaru hefyd yn ystyried yr effaith y gall bwlio ei chael ar iechyd meddwl a llesiant dysgwr fel rhan o'r dull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol.

Bwriad y Fframwaith ar gyfer dull ysgol gyfan yw cefnogi ysgolion, gan gynnwys unedau cyfeirio disgyblion (UCDau) a lleoliadau addysg, i adolygu eu sefyllfa nhw o ran llesiant a datblygu cynlluniau i fynd i’r afael ag unrhyw wendidau a datblygu eu cryfderau.

Mae sylfaen dystiolaeth gadarn yn dangos cysylltiadau cryf rhwng bwlio, poen emosiynol, hunan-niweidio a synio am hunanladdiad. Ym mis Ebrill 2025, gwnaethom gyhoeddi strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niweidio deng mlynedd i Gymru ynghyd â'i chynllun cyflawni cysylltiedig.

Trafnidiaeth

O dan adran 12 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008. Mae'r Cod Teithio yn nodi gofynion penodol ynghylch ymddygiad dysgwyr wrth deithio ac yn mynnu na ddylai unrhyw ddysgwr fyth fwlio dysgwyr eraill ac y dylent barchu eraill (yn cynnwys gyrrwr y bws). Diben y Cod Teithio yw hyrwyddo diogelwch wrth deithio, drwy nodi set o safonau ymddygiad ledled Cymru i bob dysgwr, beth bynnag fo’r dull o deithio. 

ADY

Mae adroddiadau gan Mencap ac Anti-Bullying Alliance yn dangos bod plant a phobl ifanc anabl a (neu) ddysgwyr ag ADY yn fwy tebygol o brofi bwlio na'u cyfoedion. 

Presenoldeb

Cyhoeddwyd yr ystadegau presenoldeb blynyddol yn cyfuno data ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd ar gyfer 2024 i 2025 ddydd Mawrth 16 Rhagfyr. Mae'n amlwg bod plant a phobl ifanc yn wynebu rhwystrau emosiynol i gynnal presenoldeb rheolaidd yn yr ysgol, yn dilyn profiad o fwlio. Gall presenoldeb gwael effeithio ar berfformiad academaidd a datblygiad cymdeithasol. Felly, mae'n bwysig i ysgolion weithredu polisïau gwrth-fwlio cadarn a chreu amgylchedd cefnogol. Trwy fynd i'r afael ag achosion sylfaenol bwlio, gall ysgolion liniaru ei effaith ar bresenoldeb a sicrhau bod pob plentyn a phob person ifanc yn cael y cyfle i ffynnu.

Ysgolion Bro

Ymgysylltu â theuluoedd yw un o bileri allweddol model Ysgolion Bro Llywodraeth Cymru, a dangosir ei fod yn cael effaith gadarnhaol ar blant a phobl ifanc. O fewn dull gweithredu Ysgolion Bro, mae teuluoedd yn teimlo eu bod yn cael eu croesawu, eu clywed a'u gwerthfawrogi. Mae eu cryfderau, eu sgiliau a'r rôl sydd ganddynt wrth gefnogi dysgu a datblygiad eu plentyn yn cael eu cydnabod a’u gwerthfawrogi. 

Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACRh)

Mae ACRh yn orfodol yn y Cwricwlwm i Gymru, a'i nod yw cadw plant a phobl ifanc yn ddiogel rhag niwed. Mae'r Cod ACRh gorfodol yn nodi camau dysgu sy'n briodol i ddatblygiad y dysgwyr, ac mae'n cynnwys ystod o faterion fel cydberthnasoedd iach, cadw'n ddiogel, ar-lein ac all-lein, a bod yn hyderus i godi materion gydag oedolion cyfrifol.

Y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol

Mae hiliaeth yn parhau i fod yn gyffredin, ac mae’n rhaid i ysgolion barhau i fod yn wyliadwrus o hynny a’i herio. Ond ceir mathau o hiliaeth hefyd sy’n ymwneud yn bennaf â diwylliant, arferion, crefydd a threftadaeth. Mae’n rhaid i ysgolion fynd i’r afael â’r rhain hefyd a’u hatal. Mae’r Cynllun Gweithredu hwn yn nodi nifer o gamau gweithredu sy'n anelu at sicrhau bod gwrth-hiliaeth yn cael ei sefydlu yn system addysg Cymru.

Yr effeithiau cadarnhaol a negyddol disgwyliedig ar wahanol grwpiau o blant a phobl ifanc

Mae'n amlwg bod rhai grwpiau o blant a phobl ifanc yn fwy tebygol o brofi bwlio na'u cyfoedion. Disgwylir i'r diweddariad hwn gael effaith gadarnhaol ar blant, pobl ifanc a'u teuluoedd, heb unrhyw effeithiau negyddol disgwyliedig. Ei bwrpas yw gwella'r canllawiau presennol mewn perthynas â bwlio sy'n gysylltiedig â hil, aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion, a'i gysylltiad â'r Cynllun Gweithredu LHDTC+. Mae hefyd yn ceisio cryfhau rhannau o ganllawiau cysylltiedig â rhagfarn ac ymgorffori ymchwil berthnasol sydd ar gael ers 2019.

Gwaith cyfranogi gyda phlant a phobl ifanc

Roedd y gwaith ymgysylltu yn cynnwys:

  • Dau weithdy rhanddeiliaid gyda sefydliadau sy'n cynrychioli gwrth-fwlio, LHDTC+, cydraddoldeb hil, cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, iechyd meddwl, anabledd ac ADY.
  • Gweithdai a gynhaliwyd gan Plant yng Nghymru gyda dysgwyr ysgol gynradd (7 i 11 oed), dysgwyr ysgolion uwchradd (11 i 16 oed) a'r Bwrdd Cynghori Cymru Ifanc (11 i 25 oed).

Cafodd holiadur ehangach hefyd ei gomisiynu gan Plant yng Nghymru. Yn gryno, roedd yr adborth yn amlygu'r angen am y canlynol:

  • eglurder ar beth yw bwlio
  • pwysigrwydd bod yn ddiogel a chael rhywun yn eich credu
  • prosesau cofnodi cyson
  • gwell ymatebion i fwlio sy'n ymwneud â hunaniaeth
  • llwybrau adrodd mwy gweledol

Dadansoddi’r dystiolaeth ac asesu’r effaith

Effeithiau disgwyliedig ar blant a phobl ifanc

  • Gwell mynediad at wybodaeth a chyngor i blant, pobl ifanc, a'u teuluoedd i ddeall pa wasanaethau sydd ar gael i helpu i fynd i'r afael â bwlio, gan gynnwys materion sy'n ymwneud â hil, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd.
  • Mwy o hyder a dealltwriaeth o beth yw bwlio trwy ddarparu diffiniadau eang ac enghreifftiau clir o wahanol fathau o fwlio, gan gynnwys hiliaeth, homoffobia, trawsffobia, ac aflonyddu rhywiol.
  • Rolau a chyfrifoldebau cliriach i reoli disgwyliadau ynghylch pwy sy'n gyfrifol am fynd i'r afael â bwlio, gan sicrhau dull cyfannol ac atebolrwydd ar draws pob parti perthnasol.
  • Mwy o ymwybyddiaeth o atal bwlio ac ymyrraeth, yn enwedig mewn perthynas â rhagfarn a gwahaniaethu, trwy dynnu sylw at gamau ymarferol i fynd i'r afael â materion pan fyddant yn digwydd.
  • Hyrwyddo perthnasoedd parchus trwy well eglurder ar sut mae ymddygiad priodol yn edrych.
  • Dull cyfannol o fynd i'r afael â bwlio drwy daclo achosion sylfaenol ymddygiad a chyfeirio at wasanaethau a grwpiau cymorth a all ddarparu cyngor a chymorth pellach ar faterion fel hil, rhywedd, LHDTC+ ac aflonyddu rhywiol.

Camau i leihau effeithiau negyddol

Rydym yn cydnabod y gall y canllawiau wedi'u diweddaru greu disgwyliadau afrealistig y bydd bwlio yn stopio dim ond oherwydd bod y canllawiau wedi'u diweddaru. Er mwyn lliniaru hyn, byddwn yn cyfathrebu'n glir na all canllawiau ar eu pen eu hunain roi diwedd ar fwlio. Mae'n hanfodol bod ysgolion, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill yn eu rhoi ar waith yn ymarferol.

Byddwn hefyd yn pwysleisio, er na ellir cael gwared yn llwyr ar fwlio o'n cymdeithas, y gall camau rhagweithiol leihau nifer yr achosion yn sylweddol a sicrhau ymyrraeth a chefnogaeth effeithiol pan fydd yn digwydd. Mae canllawiau a chyngor ymysg nifer o adnoddau sy'n cyfrannu at yr ymdrech ehangach hon.

Sut mae'r canllawiau yn gwella hawliau plant 

Mae'r canllawiau wedi'u diweddaru yn gwella hawliau o dan nifer o Erthyglau CCUHP ac yn ymateb i argymhellion yn Adroddiad Sylwadau Terfynol Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn 2023 fel y gwelir isod.

Erthyglau CCUHP neu Brotocol DewisolYn gwella (X)Yn herio (X)Esboniad 
Erthygl 2: Peidio â gwahaniaethux Mae'r canllawiau wedi'u diweddaru yn mynd i'r afael â phrofiadau bwlio anghymesur ymhlith dysgwyr ethnig leiafrifol, LHDTC +, ADY ac anabl.
Erthygl 3: Dylai pob sefydliad sy'n ymwneud â phlant anelu at yr hyn sydd orau i bob plentyn.x 

Mae'r canllawiau wedi'u diweddaru yn cryfhau trefniadau diogelu ac ymyrraeth gynnar i flaenoriaethu lles dysgwyr.

 

Maent hefyd yn cryfhau mesurau adnabod yn gynnar ac ymyrraeth amserol mewn achosion o fwlio, gan sicrhau bod pob dysgwr yn gallu cyflawni ei botensial addysgol.

 

Maent yn annog cydweithio rhwng ysgolion, gwasanaethau lles addysg, gwasanaethau cymorth ieuenctid a theuluoedd er mwyn mynd i'r afael â bwlio mewn ffordd gyfannol. 

 

Maent hefyd yn rhoi arweiniad clir ar fynd i'r afael ag ymddygiad annerbyniol ac ymgorffori parch ac urddas o fewn cymunedau'r ysgol.

 

Erthygl 5: Canllawiau i rieni

 

x Mae'r canllawiau diwygiedig yn egluro rolau rhieni a chyfrifoldebau'r ysgol, gan barchu galluoedd datblygol. Ar ben hynny, caiff fersiwn i rieni o'r canllawiau ei chyhoeddi. 
Erthygl 12: Mae gan blant yr hawl i ddweud eu barn ynghylch yr hyn a ddylai ddigwydd pan fo oedolion yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw, ac i’w barn gael ei hystyried.x 

Mae plant a phobl ifanc wedi bod yn chwarae rhan weithredol wrth bennu'r angen am ganllawiau wedi'u diweddaru trwy gynlluniau fel y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a 'Dydyn ni ddim yn dweud wrth ein hathrawon'. 

 

Darparwyd fersiwn i bobl ifanc o'r ymgynghoriad hefyd i sicrhau hygyrchedd a chynhwysiant.

Erthygl 13: yr hawl i wybodaethx Mae'r canllawiau wedi'u diweddaru yn rhoi pwyslais ar gyfathrebu hygyrch sy'n mynd i'r afael â chanfyddiadau arolwg y Comisiynydd Plant a ddangosodd lefelau amrywiol o ymwybyddiaeth o bolisïau gwrth-fwlio ysgolion.
Erthygl 14: Mae gan blant yr hawl i feddwl a chredu’r hyn a fynnant ac i arfer eu crefydd, cyhyd â nad ydynt yn cadw pobl eraill rhag mwynhau eu hawliau. Dylai rhieni arwain eu plant yn y materion hyn.x Mae'r canllawiau diwygiedig yn egluro hawliau a chyfrifoldebau dysgwyr ac ysgolion, gan gynnwys yr hyn sy'n ymddygiad derbyniol tuag at gyfoedion a staff, gan gefnogi rhyddid cred a hyrwyddo parch at eraill ar yr un pryd.
Erthygl 15: Rhyddid i ymgysylltux Mae'r canllawiau wedi'u diweddaru yn cefnogi cyfranogiad diogel mewn grwpiau a chlybiau trwy fynd i'r afael ag aflonyddu a bwlio mewn grŵp.
Erthygl 23: Dylai plant sydd ag unrhyw fath o anabledd dderbyn gofal arbennig a chefnogaeth er mwyn gallu byw bywyd llawn ac annibynnol.x Mae'r canllawiau diwygiedig yn darparu eglurder ar hawliau a chyfrifoldebau, gan gynnwys cymorth ychwanegol i ddysgwyr anabl a dysgwyr a chanddynt anawsterau dysgu neu nodweddion gwarchodedig eraill i sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi yn y ffordd orau i fynd i'r afael â bwlio.
Erthygl 28: Mae gan blant hawl i addysg. Dylai disgyblaeth mewn ysgolion barchu urddas dynol plant. Dylai addysg gynradd fod am ddim. Dylai gwledydd cyfoethog helpu gwledydd tlotach i gyflawni hyn.x 

Mae'r canllawiau yn egluro'r systemau cymorth sydd ar gael i fynd i'r afael â bwlio a hyrwyddo llesiant. 

 

Maent hefyd yn amlinellu gweithdrefnau disgyblaeth sy'n parchu urddas ac yn sicrhau bod dysgwyr yn gallu manteisio'n llawn ar gyfleoedd addysgol.

Erthygl 29: Dylai addysg ddatblygu personoliaeth a thalent pob plentyn yn llawn. Dylai annog plant i barchu eu rhieni, a’u diwylliant nhw ac eraill.

 

x 

Mae'r canllawiau diwygiedig yn hyrwyddo perthnasoedd parchus fel un o gonglfeini ymddygiad cadarnhaol. 

 

Maent yn egluro'r rolau a'r cyfrifoldebau a ddisgwylir gan bob dysgwr, gan annog goddefgarwch a pharch tuag at eraill.

Erthygl 31: Yr hawl i chwarae a hamddenx Mae'r canllawiau wedi'u diweddaru yn mynd i'r afael ag ymddygiad bwlio yn gliriach yn ystod amser distrwythur (amser cinio, meysydd chwarae, mannau ar-lein).

Erthygl 36: Dylai plant gael eu gwarchod rhag unrhyw weithgarwch a allai amharu ar eu datblygiad.

 

x 

Mae'r canllawiau yn cryfhau gweithdrefnau diogelu er mwyn atal bwlio ac amddiffyn dysgwyr rhagddo. 

 

Mae hefyd yn egluro prosesau cofnodi a monitro i helpu ysgolion i ymateb yn effeithiol i ddigwyddiadau.

UN CO 12(a)(b): Casglu dataxxDylai'r canllawiau wedi'u diweddaru wella trefniadau cofnodi digwyddiadau. Er hynny, mae angen gwaith ychwanegol i ymgorffori'r dull hwn yn gyson.
UN CO 17(a): Mynediad i gyfiawnderx Dylai'r canllawiau wedi'u diweddaru egluro trefniadau rhoi gwybod a rhwymedïau.
UN CO 19 i 20: Peidio â gwahaniaethux Dylai'r canllawiau wedi'u diweddaru fynd i'r afael â gwahaniaethu sy'n effeithio ar grwpiau agored i niwed.
UN CO 23(ac): Llais y plentynx Dylai'r canllawiau wedi'u diweddaru gryfhau dyletswyddau cyfranogi a gwrando.
UN CO 43(c): Iechyd Meddwlx Mae'r canllawiau wedi'u diweddaru yn cyd-fynd â'r Dull Ysgol Gyfan a chefnogaeth gynnar.
UN CO 47: Addysgx Mae'r canllawiau wedi'u diweddaru yn cefnogi amgylcheddau dysgu diogel, cynhwysol.
GC1: Nodau addysgx Mae'r canllawiau wedi'u diweddaru yn hyrwyddo urddas, cydraddoldeb a pharch.
GC9: Plant anablx Mae'r canllawiau wedi'u diweddaru yn rhoi pwyslais ar fesurau diogelu ac addasiadau.
GC12: Yr hawl i gael gwrandawiadx Mae'r canllawiau wedi'u diweddaru yn atgyfnerthu llais y dysgwr wrth roi gwybod am fwlio.
GC13: Rhyddid rhag traisx Mae'r canllawiau wedi'u diweddaru yn cydnabod bwlio fel trais y mae angen ei atal.

Cyngor a phenderfyniad gweinidogol

Yn y cyngor gweinidogol, rydym wedi nodi bod disgwyl i'r canllawiau gael effaith gadarnhaol trwy gryfhau trefniadau diogelu i ddysgwyr, gwella cysondeb a sicrhau ymatebion mwy effeithiol i fwlio. Mae'r canllawiau yn gwella hawliau plant, yn enwedig mewn perthynas ag Erthygl 2 sy'n ymwneud â chydraddoldeb a gwahaniaethu.