Y Cynllun Lwfans Cynhaliaeth Addysg a Chynllun Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach): blwyddyn academaidd 2026 i 2027 (SFWIN 05/2026)
Yn rhoi manylion y cynlluniau Lwfans Cynhaliaeth Addysg a Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach) ar gyfer 2026 i 2027.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Mae'r Hysbysiad Gwybodaeth hwn yn rhoi manylion y cynlluniau grant addysg bellach canlynol, sy'n seiliedig ar incwm, ar gyfer blwyddyn academaidd 2026 i 2027:
- Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA).
- Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach) (GDLlC (AB)).
Mae'r cynlluniau ar gael i'w gweld ar y dudalen cyllid i fyfyrwyr.
Sicrhewch fod yr Hysbysiad Gwybodaeth hwn yn cael ei ddosbarthu i bob un o’r staff a’r cydweithwyr sy'n helpu i weinyddu'r cynlluniau.
Gwasanaeth Cyllid Myfyrwyr Cymru a sut i wneud cais
Bydd gwasanaeth ymgeisio Cyllid Myfyrwyr Cymru ar agor ar 27 Ebrill 2026 ar gyfer blwyddyn academaidd 2026 i 2027.
Gallwch lenwi ffurflen gais ar-lein drwy Cyllid Myfyrwyr Cymru neu drwy ofyn am ffurflen bapur gan y ganolfan ddysgu.
I gael gwybodaeth a chyngor cysylltwch â gwasanaeth cwsmeriaid dwyieithog Cyllid Myfyrwyr Cymru ar 0300 200 4050.
Trothwyon incwm aelwydydd sy'n gymwys i gael LCA
Mae trothwyon incwm aelwydydd sy'n gymwys i gael LCA wedi'u cynyddu ar gyfer blwyddyn academaidd 2026 i 2027.
Trothwyon incwm LCA yn y flwyddyn academaidd 2025 i 2026:
- £23,400: aelwydydd ag un plentyn dibynnol.
- £25,974: aelwydydd â dau neu fwy o blant dibynnol.
Trothwyon incwm LCA yn y flwyddyn academaidd 2026 i 2027:
- £24,570: aelwydydd ag un plentyn dibynnol.
- £27,273: aelwydydd â dau neu fwy o blant dibynnol.
Bydd y gyfradd wythnosol ar gyfer LCA o £40 yn cael ei chynnal ar gyfer blwyddyn academaidd 2026 i 2027.
Mae'r ffurflen gais LCA ar-lein a phapur a'r nodiadau ar gyfer blwyddyn academaidd 2026 i 2027 yn dangos y trothwyon incwm newydd. Dim ond myfyrwyr newydd neu fyfyrwyr sy'n parhau â'u cwrs ac sy'n gwneud cais am LCA am y tro cyntaf a ddylai lenwi ffurflen 2026 i 2027.
Grantiau a throthwyon incwm GDLlC (AB)
Mae grantiau a throthwyon incwm GDLlC (AB) wedi'u cynnal ar yr un lefelau â blwyddyn academaidd 2025 i 2026.
Meini prawf cymhwystra: personau cymwys
Mae'r newidiadau canlynol i'r meini prawf cymhwystra wedi'u gwneud i gynlluniau LCA a GDLlC (AB) ar gyfer blwyddyn academaidd 2026 i 2027, gan sicrhau meini prawf cyson mewn perthynas â threfniadau cymorth ar gyfer costau cynhaliaeth i fyfyrwyr AB a myfyrwyr AU.
Partneriaid a phlant cyn-filwyr y Gurkhas a'r rhai o Hong Kong sydd wedi marw neu a ryddhawyd cyn 1 Gorffennaf 1997
Rydym wedi ymestyn cwmpas y categori ar gyfer cymhwystra partneriaid a ddiogelir i gynnwys partneriaid a phlant cyn-filwyr y Gurkhas a'r rhai o Hong Kong sydd wedi marw neu a ryddhawyd cyn 1 Gorffennaf 1997.
Personau a ddyfarnwyd caniatâd amhenodol iddynt ddod i mewn i'r DU neu aros yn y DU o dan gynllun Llwybr Ymateb Afghanistan
Rydym wedi ymestyn cwmpas y categori ar gyfer cymhwystra person sydd â chaniatâd i ddod i mewn i'r DU neu i aros fel dinesydd Afghanistan perthnasol i gynnwys Llwybr Ymateb Afghanistan.
Ymholiadau
Os oes gennych ymholiadau am geisiadau, sut i wneud cais, taliadau neu unrhyw agwedd arall ar y gwasanaeth, cysylltwch â Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am yr Hysbysiad Gwybodaeth hwn anfonwch e-bost i Is-adran Strategaeth a Chyllid Addysg Drydyddol Llywodraeth Cymru.
Gallwch ofyn am fersiynau o'r ddogfen hon mewn print bras, Braille ac mewn ieithoedd eraill.
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg neu yn Saesneg.
