Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r amcangyfrifon hyn yn cwmpasu mis Hydref i Ragfyr 2025 ac amcangyfrifon blynyddol ar gyfer mis Ionawr 2025 i Ragfyr 2025.

Gall amcangyfrifon ar gyfer chwarteri unigol amrywio, ac mae amcangyfrifon ar gyfer Cymru yn tueddu i fod yn fwy cyfnewidiol nag ar gyfer y DU, felly argymhellir ystyriaeth o dueddiadau a chymariaethau tymor hwy.

Y prif bwyntiau

Cynyddodd Cynhyrchiant a Gwasanaethau’r Farchand ar sail blynyddol ac ar sail chwarterol, tra gostyngodd Adeiladu ar sail blynyddol ond cynyddu ar sail chwarterol. 

Ffigur 1: dangosyddion allbynnau tymor-byr, Hydref 1999 i Ragfyr 2025

Image

Disgrifiad o ffigur 1: dengys y siart y gyfres amser ar gyfer mynegai cynhyrchu, adeiladu a gwasanaethau’r farchnad ers 1999. Y tueddiad ar y cyfan yw bod mynegai gwasanaethau’r farchnad a’r mynegai cynhyrchu wedi cynyddu ers 1999, tra bo’r mynegai adeiladu wedi amrywio dros yr un cyfnod amser. Gwelwyd gostyngiad sylweddol ym mhob mynegai yn Chwarter 2 2020 yn sgil pandemig y coronafeirws, ond maent wedi adfer rhywfaint neu’n llwyr ers hynny.

Ffynhonnell: Dangosyddion allbynnau tymor-byr, Llywodraeth Cymru a Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG)

Mynegai Gwasanaethau Marchnata

Mae'r duedd tymor-hir yn dangos cynnydd o 0.3% yng Nghymru a chynnydd o 1.4% yn y DU yn y flwyddyn hyd at fis Rhagfyr 2025, o'i gymharu â'r deuddeg mis blaenorol. 

Yng Nghymru, gwelwyd cynnydd mewn pump allan o’r naw is-sector ar sail blynyddol, gwelwyd gostyngiad mewn tri, a gwelwyd dim newid mewn un.

Cynyddodd Mynegai Gwasanaethau’r Farchnad Cymru o 1.0% o'i gymharu â'r chwarter blaenorol. Ni welwyd unrhyw newid yn allbwn y DU dros yr un cyfnod.

Mynegai Cynhyrchu

Mae'r duedd tymor-hir yn dangos cynnydd o 0.9% ar gyfer Cymru a gostyngiad o 0.3% ar gyfer y DU yn y flwyddyn hyd at fis Rhagfyr 2025, o'i gymharu â'r deuddeg mis blaenorol.

Mae Mynegai Cynhyrchu Cymru yn dangos cynnydd o 1.1% o'i gymharu â'r chwarter blaenorol. Cynyddodd allbwn y DU gan 1.2% dros yr un cyfnod.

Mynegai Adeiladu

Mae'r duedd tymor-hir yn dangos gostyngiad o 16.2% ar gyfer Cymru a chynnydd o 1.2% ar gyfer y DU yn y flwyddyn hyd at fis Rhagfyr 2025, o'i gymharu â'r deuddeg mis blaenorol.

Mae Mynegai Adeiladu Cymru yn dangos cynnydd o 1.3% wrth gymharu'r chwarter diweddaraf â'r chwarter blaenorol. Gostyngodd allbwn y DU o 2.0% dros yr un cyfnod.

Dyfodol y cyhoeddiad hwn

Ym mis Mai 2023 gwnaethom rannu ein cynlluniau i roi'r gorau i gyhoeddi'r datganiad hwn gan fod y SYG yn cyhoeddi data cynnyrch mewnwladol crynswth chwarterol (GDP) ar gyfer Cymru a rhanbarthau Lloegr. Fodd bynnag, ym mis Gorffennaf 2023, cyhoeddodd y SYG eu bod wedi oedi eu cyhoeddiad GDP rhanbarthol chwarterol. Cyhoeddwyd adolygiad dulliau o'r data GDP rhanbarthol chwarterol gan y Ganolfan Ragoriaeth Ystadegau Economaidd ym mis Mawrth 2025, gyda’r SYG yn cadarnhau eu bod yn gweithio tuag at adfer y cyhoeddiad yn eu post blog cysylltiedig. 

Mae’r SYG yn bwriadu cyhoeddi erthygl data sy’n cynnwys amcangyfrifon GDP rhanbarthol chwarterol wedi’u diweddaru yn yr Haf, y cam nesaf yn eu cynlluniau i ail-gyflwyno GDP rhanbarthol chwarterol yn llawn yn 2027.

O ganlyniad, rydym yn bwriadu cyhoeddi un chwarter pellach o ddata STOI ym mis Gorffennaf 2026. Dyma fydd yr allbwn olaf yn y gyfres hon. 

Manylion cyswllt

Ystadegau yr Economi
E-bost: ystadegau.economi@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099